Y diweddaraf am BookTrust Cymru

Holl newyddion ac erthyglau diweddaraf BookTrust yng Nghymru.

Y straeon diweddaraf

BookTrust Cymru yn datgelu llyfrau dwyieithog newydd Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar

Yr wythnos hon, cyhoeddodd BookTrust beth fydd y llyfrau newydd sbon a roddir i bob babi newydd a phlant 2-3 oed yng Nghymru fel rhan o raglen Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru’n dod â hwyl rhigymu dwyieithog i blant yng Nghymru

Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno ag Amser Rhigwm Mawr Cymru 2024.

Sut mae darllen o fudd i blant?

Mae adnodd rhyngweithiol newydd a gyhoeddwyd gan BookTrust yn nodi’r manteision helaeth ac eang y gall darllen eu cynnig i blant, mewn ffordd syml a hygyrch.

Mwy o BookTrust Cymru

Disgyblion Blwyddyn 6 yng Nghymru’n paratoi ar gyfer Teithiau ac Anturiaethau darllen

Bydd miloedd o blant Blwyddyn 6 ledled Cymru’n derbyn pecynnau llyfrau arbennig Teithiau ac Anturiaethau oddi wrth BookTrust yn ystod yr wythnos hon.

BookTrust Cymru yn rhoi dros 35,000 o lyfrau rhad ac am ddim i blant Cymru

Yn ystod yr wythnos hon, bydd BookTrust Cymru yn anfon 9000 o gopïau rhad ac am ddim o’r llyfr stori a llun My Pet Star/ Fy Seren Anwes at deuluoedd ledled Cymru.

Mali a’r Cloi Mawr yn lansio’n y Gymraeg, Saesneg a’r Wyddeleg

Mae Malachy Doyle, awdur Mali a’r Morfil a Mali a’r Môr Stormus, wedi ysgrifennu llyfr newydd yn ystod y cyfnod clo, Mali a’r Cloi Mawr.

AmserGartref BookTrust Cymru

BookTrust Cymru wedi lansio hwb digidol newydd i helpu i ddifyrru plant a theuluoedd sydd gartref, ac i rannu llyfrau, straeon a rhigymau gan rai o hoff awduron, darlunwyr a storïwyr Cymru.

Enillwyr Ein Dathliadau Pori Drwy Stori!

Aeth anturiaethwyr Pori Drwy Stori ar antur i Gasnewydd ddydd Gwener 28ain Chwefror i gyfarfod â’r rhigymwyr anhygoel yn Ysgol Gynradd St Andrews.

Amser Rhigwm Mawr Cymru 2020: Am wythnos o rigymu difyr!

Bu mwy na 22,000 o blant mewn ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru’n cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru eleni!

Gwerth Geiriau Gwirion a Lluniau Dwl

I ddathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru, mae'r awdur a'r darlunydd Huw Aaron yn siarad am ei gariad at rigymau nonsens.

Hoff rigymau’r teulu ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru

Mae ein plant ni, sy’n 12, 11 a 7 oed yn ddarllenwyr brwd. Maen nhw wrth eu boddau â llyfrau o Gymru – ar ôl cael blas ar y rhai wnaethon nhw dderbyn o raglen Pori Drwy Stori BookTrust Cymru pan roedden nhw yn y Dosbarth Derbyn.

Michael Harvey ar adrodd a rhannu straeon

Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori! Mae'r storïwr Michael Harvey yn rhoi ei gynghorion ar sut i ddod yn storïwr hefyd.

Amser Rhigwm Mawr Cymru – newyddion 10–14 Chwefror 2020

Rydym wedi ein cyffroi’n lân yma yn BookTrust Cymru gan fod Amser Rhigwm Mawr Cymru cyn bo hir. Mae ein dathliad Gymru-gyfan o ganeuon a rhigymau’n digwydd ar 10–14 Chwefror 2020. Y bwriad yw hybu diddanwch wrth rannu rhigymau Cymraeg a Saesneg i blant 0-5 oed yng Nghymru.

Athrawon Derbyn… enillwch ddathliad Pori Drwy Stori i’ch hysgol!

Rhannwch y pethau rydych chi wedi bod yn eu gwneud gyda rhaglen Dderbyn Pori Drwy Stori eleni am gyfle i ennill dathliad i’ch hysgol!

Mae gan bob plentyn yr hawl i’r llawenydd a ddaw o lyfrau: yr achos dros blant sydd ag anawsterau difrifol a dwys

Fe wnaeth Cynadleddau Gweithwyr Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru ddarparu hyfforddiant deinamig i Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar. Cefais y fraint o roi’r brif araith yn y digwyddiadau hyfryd hyn.

Cyhoeddiad mawr bawb... Rydyn ni wedi enwi anturiaethwyr Pori Drwy Stori!

Ym mis Medi 2019, lansiodd BookTrust Cymru gystadleuaeth i enwi anturiaethwyr Pori Drwy Stori. Cafodd ddisgyblion dosbarth Derbyn ar draws Cymru wahoddiad i enwi’r anturiaethwyr er mwyn cael y cyfle i ennill llyfrau i’w hysgolion!

BookTrust Cymru’n dathlu 10 mlynedd o’r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru

Mae 2019 yn flwyddyn arbennig iawn i ni – rydyn ni’n falch iawn o ddathlu pen-blwydd y Clwb Blwch Llythyrau yn 10 oed yng Nghymru.

Galw pob dosbarth Derbyn yng Nghymru.. Mae anturiaethwyr Pori Drwy Stori angen eich help!

Ym mis Medi 2019, mae BookTrust Cymru’n lansio cystadleuaeth i enwi anturiaethwyr Pori Drwy Stori. Gall pob dosbarth Derbyn yng Nghymru ymgeisio yng nghystadleuaeth enwi’r anturiaethwyr er mwyn ennill llyfrau ar gyfer eu hysgol!

Mae’r gyfres cartwn newydd Caru Canu yn helpu plant i ganu ac odli

Mae cyfres ddiweddaraf Cynyrchiadau Twt, Caru Canu yn dechrau ar wasanaeth cyn-ysgol S4C, Cyw. Datblygwyd y gyfres mewn partneriaeth â Booktrust Cymru a Mudiad Meithrin.

‘Dyma ble mae hadau cariad plentyn at lyfrau a darllen yn cael eu plannu:’ Katrina Charman ar hudoliaeth straeon cyn cysgu

Dyma Katrina Charman, awdur llyfr stori a llun Pyjamarama 2019, Car, Car, Truck, Jeep, i ddweud wrthym pam ei bod hi’n trysori unrhyw amser a dreulir yn rhannu straeon gyda’i merched, ynghyd â dewis ei hoff lyfrau i ddarllen cyn cysgu.

Pyjamarama: dathlu rhyfeddod straeon amser gwely gartref

Holl bwrpas Pyjamarama ydy dathlu hwyl a rhyfeddod straeon amser gwely ac mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gael profiad o’r hud hwnnw gyda’ch plantos bach chi.

Cyhoeddi teitlau Dechrau Da newydd ar gyfer 2019

Cyhoeddi mai Bouncing Babies Helen Oxenbury, Anifeiliad / Animals Debbie Powell, So Cosy Lerryn Korda a Sanau Cadno / Fox’s Socks Julia Donaldson yw teitlau newydd Bookstart Dechrau Da eleni.

Anrheg fendigedig i blant

‘Anrheg fendigedig i blant’: mae Jan Mills, ymgynghorydd addysg a chyn-Arweinydd Swyddog Cyfnod Sylfaen ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, yn esbonio pam ei bod hi’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â’n rhaglen Feithrin newydd yng Nghymru.

Mae gan rigymau a hwiangerddi Cymraeg hanes cyfoethog a lliwgar

O benillion 700 mlwydd oed a gyfansoddwyd gan fynachod i bwdin ac eliffantod pinc, mae gan rigymau a hwiangerddi Cymraeg hanes cyfoethog a lliwgar.

Rhigymau mewn plentyndod cynnar

Mae rhigymau a hwiangerddi’n nodwedd gyffredin mewn plentyndod. Bydd plant wir yn mwynhau’r rhythm a’r ailadrodd, wrth eu llafarganu, eu darllen, eu dweud neu’u canu.

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru ar y Ffordd

Cyn bo hir bydd ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar ymhob cwr o Gymru’n dathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru. Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru’n digwydd o ddydd Llun 26 tan ddydd Gwener 30 Tachwedd. Byddwn ni’n treulio’r wythnos yn dathlu rhigymau a chaneuon a’r holl fanteision y maen nhw’n eu rhoi i blant.

Mae BookTrust yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru i weld bod ‘Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae’

Mae BookTrust Cymru’n ymuno ag ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n annog rhieni a gofalwyr i roi amser i siarad, gwrando a chwarae gyda’u plant er mwyn helpu datblygiad iaith a sgiliau cyfathrebu’u plentyn.

Mae BookTrust Cymru’n cefnogi miloedd o blant meithrin yng Nghymru i ddatblygu sgiliau iaith a llafaredd cynnar

Bydd miloedd o blant 3-4 oed yn cymryd rhan mewn rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella sgiliau iaith a chyfathrebu gartref ac yn y feithrinfa, gan ganolbwyntio ar rannu rhigymau a siarad am lyfrau a’u mwynhau.

Dathliadau plu: un teulu a’u hoff lyfrau am adar

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Dechrau Da, dyma Lehanne Thornton, mam i fachgen bach 18 mis oed - a Chydlynydd BookTrust Cymru - i rannu ambell lyfr ar thema adar y mae’r ddau ohonynt wedi mwynhau’u rhannu gyda’i gilydd.

Perthynas ramantus pobl Cymru’n dioddef oherwydd nosweithiau di-gwsg

Mae rhieni yng Nghymru wedi cyfaddef fod eu perthynas â'u cymar yn dioddef am eu bod nhw wedi gorflino, yn ôl arolwg gan BookTrust.

Aneirin Karadog yn ymweld â phlant ysgol yng Ngheredigion

Ddydd Llun a Dydd Mawrth, bu'r bardd Aneirin Karadog yn ymweld â phlant dosbarthiadau derbyn yng Ngheredigion i ddathlu darllen, rhigymau a straeon.

Bardd Plant Cymru yn cyfansoddi cerdd i ddathlu 25 mlynedd o Dechrau Da

Mae cerdd newydd gan Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, yn dathlu 25 mlynedd o Dechrau Da, rhaglen genedlaethol rhoddi llyfrau BookTrust.

Eluned Morgan AC yn dathlu 25 mlynedd o Ddechrau Da

Rhaglen genedlaethol anrhegu llyfrau BookTrust yn cyrraedd chwarter canrif.

Stori ar lafar: Sut i rannu dawn adrodd stori

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon, sy’n dechrau ar 27 Ionawr, mae’r awdures Cath Little yn esbonio pam fod rhannu straeon mor arbennig... ac mae’n cynnig cyngor ar sut i wneud rhywfaint o chwedleua eich hun.