Stori ar lafar: Sut i rannu dawn adrodd stori

Published on: 27 Ionawr 2018

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon, sy’n dechrau ar 27 Ionawr, mae’r awdures Cath Little yn esbonio pam fod rhannu straeon mor arbennig... ac mae’n cynnig cyngor ar sut i wneud rhywfaint o chwedleua eich hun.

Cath Little

Beth ydych chi’n gallu ei roi i rywun ond eto ei gadw eich hun? Stori ydy’r ateb. Pan rydych chi’n rhannu stori â rhywun, rydych chi’n rhoi rhywbeth iddyn nhw. Gydol y stori, rydych chi gyda nhw, yn rhannu’ch amser, eich sylw a’ch cariad. Yn ôl traddodiad adrodd straeon ymhlith teithwyr o’r Alban, mater o ‘Lygad i lygad, meddwl i feddwl, calon i galon’ ydy hi.

Pan rydyn ni’n gwrando ar straeon, rydyn ni’n creu lluniau yn ein pennau. Mae angen ymarfer i ddatblygu’r rhan hon ohonom ni sy’n creu lluniau, yn union fel cyhyr. Po fwyaf rydyn ni’n ei ddefnyddio,  cryfaf oll ydyn ni.

Mae’r dychymyg creadigol hwn, y gallu hwn i ddychmygu fel arall, yn ddawn sy’n gallu ein helpu ni wrth ddarllen, ysgrifennu, meddwl a theimlo – mae’n ddawn sy’n gallu ein helpu ni yn ein bywydau.

Pa straeon allwn ni eu hadrodd? Mae straeon o’n hamgylch ym mhobman, ac rydyn ni i gyd yn storïwyr naturiol, greddfol. Dyma sut rydyn ni’n gwneud synnwyr o’n byd.

Mae yna’r hen ffefrynnau hynny, y straeon traddodiadol sydd wedi para dros amser, straeon rydyn ni efallai wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn gyfarwydd â nhw a’u caru pan yn blant. Mae yna’r holl straeon hynny rydyn ni wedi’u darllen a’u cofio.

Glamorgan folk tales

Mae yna’r straeon hynny y tu cefn i enwau’r lleoedd rydyn ni’n byw ynddyn nhw, straeon sydd â’u gwreiddiau yn hanes ein bro.

Mae yna’r straeon hynny sy’n wir, atgofion wedi’u rhannu am ddamweiniau ac anturiaethau, a’r holl bethau doniol, brawychus, trist neu ryfeddol sydd wedi digwydd inni.

Yna mae yna’r straeon newydd ffuglennol hynny sydd efallai’n dechrau yn y byd hwn ond sy’n symud i fyd hollol wahanol; byd lle mae unrhyw beth yn gallu digwydd

Sut i ddechrau adrodd eich straeon eich hunain

Family walk by Fiona Lumbers

Dyma gêm creu stori sy’n hawdd i’w chwarae. Yn gyntaf, meddyliwch am gymeriad: yn berson neu’n anifail, yn un go iawn neu’n un dychmygol. Nesaf, rhowch broblem i’ch cymeriad. Nawr, penderfynwch sut mae modd datrys y broblem. Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem, mae gennych chi stori.

Mae’r gêm hon yn ei gwneud hi’n hawdd ac yn hwyl creu straeon. Mae hefyd yn gallu cynnig ffordd o edrych ar broblemau go iawn mewn modd diogel a chwareus. Yn aml, mae gan y problemau sy’n dod i’r fei wrth chwarae’r gêm gysylltiad â materion rydyn ni’n delio â nhw yn ein bywydau.

Felly, ewch amdani! Adroddwch straeon ar lafar. Gallwch chi eu hadrodd amser gwely, neu yn y car, neu wrth fynd am dro yn y parc neu wrth sefyll mewn ciw yn yr archfarchnad.

Mwy o ysbrydoliaeth 

Dyma rai awgrymiadau ichi i ddechrau stori:

  • Unwaith, roedd yna hen goblyn brawychus yn byw o dan bont ...
  • Mewn coedwig dywyll, dywyll mae yna ...
  • Ydych chi’n gweld y graith yma? Mi ddyweda’ i wrthoch chi sut i mi ei chael ...
  • Mi welais i seren yn cwympo o’r awyr, a ffwrdd â fi i edrych amdani ...

 Storïwraig ac awdures o Gaerdydd ydy Cath Little. Mae’n awdures Glamorgan Folk Tales for Children, sef llyfr o straeon traddodiadol y mae hi’n eu hailadrodd yn ei harddull cyfareddol. Mae Cath yn credu bod yr hen straeon hyn yn rhoddion o’r gorffennol a’n bod ni i gyd yn berchen arnyn nhw. Gallwch chi fynd i’w gwefan yma.

You might also like

Booklist

Brilliant myths and legends

We've put together a list of some of the best Celtic myths and legends - iconic stories from Ireland, Wales, Cornwall and Scotland. Proof that the best tales never go out of fashion...

How to share poetry

Tips from Michael Rosen

Want to share rhymes with your family? The iconic Michael Rosen shares his top tips and advice so that you can make poetry time a real hit.

Jackanory

What made the show a hit

Jackanory was a masterclass in storytelling. Creator Joy Whitby explains how the children's television classic was made... and how tales enrich our lives.