Polisi preifatrwydd

Yn BookTrust, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a'ch preifatrwydd. Mae'r polisi hwn yn dweud wrthych sut rydym yn casglu, defnyddio a storio eich gwybodaeth bersonol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi preifatrwydd, cysylltwch â ni drwy e-bost [email protected], dros y ffôn ar 020 7801 8800 neu'n ysgrifenedig i Data Protection Officer, BookTrust G8 Battersea Studios, 80 Silverthorne Road, Battersea, London SW8 3HE

Gall y polisi hwn newid o bryd i'w gilydd. Bob tro y byddwch yn ymweld â'r wefan hon, dylech wirio'r Polisi Preifatrwydd hwn i sicrhau nad oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i unrhyw adrannau sy'n bwysig i chi. Lle y bo'n briodol, cewch eich hysbysu drwy e-bost o unrhyw newidiadau.

Pam ein bod yn casglu eich data personol

Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohono. Nid yw'n cynnwys data lle mae'r wybodaeth adnabod wedi'i gwaredu (data dienw).

Mae angen i ni gasglu rhai manylion personol fel y gallwn ymateb yn briodol i'ch cyswllt â ni. Er enghraifft, fel rhan o'n gwaith wrth gyflwyno ein rhaglenni i chi, i sicrhau y gallwn brosesu eich rhodd, diolch am eich cefnogaeth neu anfon gwybodaeth atoch yr ydych wedi gofyn amdani. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth ystadegol i weld sut mae ein gwefan, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n negeseuon e-bost yn perfformio er mwyn gwella ein dulliau cyfathrebu.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni'n uniongyrchol, efallai y byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol. Er enghraifft, os ydych yn sefydlu taliad rheolaidd drwy ddebyd uniongyrchol, efallai y byddwn yn gofyn am eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, a manylion eich cyfrif banc. Byddwn ond yn casglu gwybodaeth arall, fel gwybodaeth feddygol berthnasol, os yw'n angenrheidiol – er enghraifft, i sicrhau eich diogelwch pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer digwyddiad her.

Pa wybodaeth bersonol a gasglwn

Rydym yn casglu, storio a defnyddio'r mathau canlynol o wybodaeth bersonol:

  • eich enw
  • eich manylion cyswllt (gan gynnwys cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a/neu wybodaeth adnabod ar y cyfryngau cymdeithasol)
  • eich cyflogwr a theitl eich swydd os ydych wedi prynu eitemau ar eu rhan
  • manylion eich banc neu gerdyn credyd os ydych yn darparu'r rhain i wneud rhodd neu daliad
  • os byddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni, gwybodaeth sy'n angenrheidiol i ni brosesu'r ceisiadau hyn ac asesu eich addasrwydd (a all gynnwys pethau fel statws cyflogaeth, profiad blaenorol yn dibynnu ar y cyd-destun, yn ogystal ag unrhyw euogfarnau troseddol heb eu disbyddu neu achosion llys sydd ar ddod sydd gennych)
  • gwybodaeth am oedran, cenedligrwydd ac ethnigrwydd at ddibenion monitro
  • os byddwch yn dechrau gweithio gyda ni, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â'ch contract cyflogaeth a pholisïau Adnoddau Dynol perthnasol eraill sydd gennym o bryd i'w gilydd.
  • gwybodaeth am eich gweithgareddau ar ein gwefan(au) neu blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol pan fyddwch chi'n rhyngweithio â ni, ac am y ddyfais rydych chi'n ei defnyddio i gael mynediad i'r rhain, er enghraifft eich cyfeiriad IP a'ch lleoliad daearyddol
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau a rhaglenni yr ystyriwn eu bod o ddiddordeb i chi
  • gwybodaeth yn ymwneud â'ch iechyd (er enghraifft os ydych yn cymryd rhan mewn digwyddiad neu'n mynychu digwyddiad at ddibenion iechyd a diogelwch)
  • os ydych yn gadael cymynrodd i ni, unrhyw wybodaeth am y perthynas agosaf y gallech fod wedi'i darparu er mwyn i ni weinyddu hyn
  • gwybodaeth ynghylch a ydych yn drethdalwr i'n galluogi i hawlio Cymorth Rhodd
  • unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych chi'n ei darparu i ni.

Data Categori Arbennig

Mae rhai categorïau o wybodaeth bersonol yn cael eu hystyried gan y gyfraith yn fwy sensitif nag eraill. Gelwir hyn yn 'gategori arbennig' neu'n 'ddata personol sensitif' ac mae'n cynnwys pethau fel gwybodaeth am eich iechyd, tarddiad ethnig, credoau crefyddol, barn wleidyddol neu unrhyw ddata genetig neu fiometrig a ddefnyddir i'ch adnabod.

Nid ydym fel arfer yn casglu 'data personol sensitif'. Byddwn ond yn cofnodi'r data hwn pan fydd gennym eich caniatâd penodol oni bai bod gennym hawl i wneud hynny mewn amgylchiadau eraill o dan gyfraith diogelu data. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gwneud cofnod bod person mewn amgylchiadau bregus i gydymffurfio â gofynion o dan gyfraith elusennau a'r Cod Ymarfer Codi Arian i sicrhau nad ydym yn anfon gohebiaeth iddynt ynghylch codi arian.

Byddwn bob amser yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu'r wybodaeth hon gennych pa ddata personol sensitif rydym yn ei gasglu a pham.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol i:

  • ddarparu gwasanaethau, cynhyrchion neu wybodaeth i chi rydych wedi gofyn i ni amdanynt
  • darparu rhagor o wybodaeth am ein gwaith, gwasanaethau, gweithgareddau neu gynhyrchion
  • caniatáu i chi brynu nwyddau
  • prosesu eich rhoddion
  • hybu ein nodau elusennol, gan gynnwys ar gyfer gweithgareddau codi arian
  • ymchwilio i effaith ac effeithiolrwydd ein gwaith a'n gwasanaethau
  • cofrestru, gweinyddu a phersonoli cyfrifon ar-lein
  • cofrestru a gweinyddu eich cyfranogiad mewn digwyddiadau rydych wedi cofrestru ar eu cyfer
  • gweinyddu a chadw ein gwefan yn ddiogel ac ar gyfer gweithrediadau mewnol, gan gynnwys dibenion datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwil, a dibenion ystadegol ac arolygu
  • gwella'r modd rydych cyn rhyngweithio â'n gwefan, er enghraifft drwy sicrhau bod cynnwys yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf perthnasol ac effeithiol i chi ac i'ch cyfrifiadur/dyfais symudol
  • adrodd ar ganlyniadau ac effaith ein gwaith, ein gwasanaethau a'n digwyddiadau
  • dadansoddi a gwella ein gwaith, gwasanaethau, gweithgareddau, cynhyrchion neu wybodaeth (gan gynnwys ein gwefan) neu ar gyfer ein cofnodion mewnol
  • defnyddio cyfeiriadau IP a monitro'r defnydd o'r wefan i adnabod lleoliadau, rhwystro defnydd aflonyddgar, cofnodi traffig y wefan neu bersonoli'r ffordd y cyflwynir gwybodaeth i chi
  • prosesu eich cais am swydd gyda ni
  • gweithio'n unol â'n contract cyflogaeth a'n polisïau Adnoddau Dynol
  • darparu hyfforddiant a/neu reoli ansawdd
  • archwilio a/neu weinyddu ein cyfrifon
  • bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol sy'n ein rhwymo, er enghraifft sy'n deillio o gontractau a wnaed rhyngoch chi a ni neu mewn perthynas â chyrff rheoleiddio, llywodraeth a/neu orfodi'r gyfraith y gallwn weithio gyda nhw
  • atal twyll, camddefnyddio gwasanaethau neu wyngalchu arian a chyflawni diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â rhoddion mwy
  • lleihau risg credyd
  • lle rydych wedi cytuno y gallwn ddefnyddio fideos, lluniau ohonoch, neu dystebau i hyrwyddo ein gwaith gan gynnwys codi arian a marchnata
  • Os byddwch yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth a gynhelir gan BookTrust, byddwn yn cadw eich data am y cyfnod y byddwn yn gweinyddu'r gystadleuaeth yn unig, a dim ond at ddibenion y gystadleuaeth ac os ydych yn enillydd y byddwn yn cysylltu â chi, oni bai eich bod wedi nodi fel arall.
  • Os byddwch yn cymryd rhan mewn arolwg a gynhelir gan BookTrust byddwn naill ai'n cysylltu â chi'n uniongyrchol neu'n defnyddio darparwr gwasanaeth fel Snap Survey neu Microsoft Forms. Byddwn yn cadw eich data at ddibenion cwblhau ein gwaith ar yr arolwg penodol yn unig ac ar ôl y cyfnod hwn byddwn yn cadw eich data gyda chaniatâd am gyfnod o 24 mis yn unig, oni bai eich bod wedi nodi fel arall. Dim ond os ydych wedi mynegi caniatâd y byddwn yn ailgysylltu â chi yn dilyn arolwg.
  • cyfathrebu â chi mewn unrhyw ffordd arall a ganiateir yn gyfreithiol.

Ymchwil i ddarpar roddwyr

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi mewn perthynas â rhoddwyr presennol neu darpar roddwyr, naill ai ar sail ddienw neu adnabyddadwy er mwyn deall yn well pwy yw ein cefnogwyr ac ymdrechu'n barhaus i wneud ein gwaith codi arian mor berthnasol ac effeithiol â phosibl.

Ar adegau rydym yn defnyddio technegau proffilio a sgrinio i sicrhau bod gohebiaeth yn berthnasol ac amserol, a darparu profiad gwell i'n cefnogwyr. Mae hefyd yn caniatáu inni dargedu ein hadnoddau'n effeithiol. Rydym yn gwneud hyn am ei fod yn ein galluogi i ddeall cefndir y bobl sy'n ein cefnogi ac yn ein helpu i wneud ceisiadau priodol i gefnogwyr a allai fod mewn sefyllfa ac yn barod i wneud rhodd fawr. Yn bwysig, mae'n ein galluogi i godi mwy o arian, yn gynt, ac yn fwy cost-effeithiol, nag a allem fel arall.

Wrth adeiladu proffil, efallai y byddwn yn dadansoddi gwybodaeth ddaearyddol a demograffig a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â chi er mwyn deall eich diddordebau a'ch dewisiadau yn well er mwyn cysylltu â chi drwy'r ohebiaeth fwyaf perthnasol.

Rydym yn defnyddio data a ddarparwyd yn uniongyrchol i BookTrust ac yn cyfuno hyn â gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd fel gwefannau elusennau ac adolygiadau blynyddol, gwefannau corfforaethol, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyhoeddus, y gofrestr etholiadol a Thŷ'r Cwmnïau er mwyn creu dealltwriaeth lawnach o ddiddordebau a chefnogaeth rhywun i BookTrust. Rydym yn defnyddio ffynonellau sydd ag enw da yn unig, lle byddai rhywun yn disgwyl y gallai'r cyhoedd ddarllen eu gwybodaeth. Rydym yn osgoi unrhyw ddata nad yw wedi'i gael yn gyfreithlon nac yn foesegol yn ein barn ni, ac nid ydym yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth nad ydynt wedi'u cyhoeddi. Nid ydym yn ceisio caniatâd i gynnal y gwaith ymchwil hwn ac rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys fel ein sail gyfreithlon.

Os byddwn yn cynnal ymchwil arnoch, byddwn yn rhoi gwybod i chi ar y cyfle cyntaf posibl fel eich bod yn cael cyfle i weld y wybodaeth rydym wedi'i chasglu a gofyn am ei dileu. Os na allwn roi gwybod i chi o fewn chwe mis, yna ein polisi yw mynd ati'n rhagweithiol i ddileu'r wybodaeth hon o'n cofnodion.

Rydym wedi ymrwymo i roi i chi reolaeth dros eich data ac rydych chi'n rhydd ar unrhyw adeg i optio allan o'r gweithgaredd hwn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 020 7801 8800 neu [email protected] neu gallwch ysgrifennu atom yn BookTrust, G8 Battersea Studios, 80 Silverthorne Road, Battersea, London SW8 3HE.

Y cyfryngau cymdeithasol

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i gysylltu â Facebook, Twitter neu wefannau hysbysebu ar-lein eraill er mwyn nodi defnyddwyr eraill a allai fod â diddordeb yn ein gwaith. Dim ond os ydych wedi optio i mewn i'n e-byst marchnata y byddwn yn gwneud hyn. Dim ond yn unol â'u telerau ac amodau eu hunain y byddwn yn defnyddio'r platfformau hysbysebu hyn. Darllenwch bolisi preifatrwydd Facebook a pholisi preifatrwydd Twitter.

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn ymgorffori cynnwys allanol o wefannau trydydd parti (e.e. negeseuon o Facebook neu fideos o YouTube) yn ein gwefan. Gallai'r gwefannau hyn ddefnyddio cwcis a'r polisi preifatrwydd a fydd yn berthnasol i gynnwys trydydd parti o'r fath fydd yr un sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan y darparwr cynnwys trydydd parti hwnnw. Darllenwch bolisi preifatrwydd Facebook a pholisi preifatrwydd Youtube.

Ein seiliau cyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth bersonol

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi ar ba sail gyfreithlon rydym yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol fel a ddisgrifir yn y polisi hwn. Yn dibynnu ar y dibenion y defnyddiwn eich data ar eu cyfer, gallai un neu fwy o'r seiliau a restrir isod fod yn berthnasol:

Cydsyniad

Cydsyniad yw lle gofynnwn i chi a allwn ddefnyddio eich gwybodaeth mewn ffordd benodol, a'ch bod yn cytuno i hyn (er enghraifft pan fyddwn yn anfon deunydd marchnata atoch drwy gyfrwng ffôn, neges destun neu e-bost). Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddiben sy'n seiliedig ar gydsyniad, mae gennych yr hawl i dynnu cydsyniad yn ôl ar gyfer unrhyw ddefnydd o'ch gwybodaeth yn y dyfodol at y diben hwn ar unrhyw adeg.

Rhwymedigaeth gyfreithiol

Mewn rhai achosion mae'n rhaid i ni gasglu gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag un o'n rhwymedigaethau cyfreithiol neu reoleiddiol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi rannu eich gwybodaeth gyda'n gwahanol reoleiddwyr fel y Comisiwn Elusennau, Rheoleiddiwr Codi Arian neu Gomisiynydd Gwybodaeth neu ddefnyddio gwybodaeth a gasglwn amdanoch at ddibenion diwydrwydd dyladwy neu sgrinio moesegol.

Cyflawni contract

Mae gennym sail i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle rydym yn ymrwymo i gontract gyda chi neu'n cyflawni ein rhwymedigaethau o dan y contract hwnnw, er enghraifft, os ydych yn gwneud cais i weithio/gwirfoddoli gyda ni.

Buddiannau allweddol i fywyd

Rhaid i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle y mae'n angenrheidiol i ni ddiogelu bywyd neu iechyd. Er enghraifft, pe bai argyfwng yn effeithio ar unigolion yn un o'n digwyddiadau, neu fater diogelu a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gysylltu â phobl yn annisgwyl neu rannu eu gwybodaeth â'r gwasanaethau brys.

Buddiannau dilys

Rydym yn dibynnu ar sail buddiannau dilys ar gyfer prosesu lle credwn ei fod er budd dilys i chi, fel testun y data, neu i BookTrust, i brosesu eich data. Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol fel hyn, rydym hefyd yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (yn gadarnhaol a negyddol), a'ch hawliau o dan gyfreithiau diogelu data. Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer gweithgareddau lle mae'r effaith arnoch chi yn drech na'n buddiannau ni, er enghraifft lle byddai casglu a defnyddio eich gwybodaeth yn rhy ymwthiol (oni bai, er enghraifft, bod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith). Yn unol â'r dibenion a ddisgrifir yn y polisi hwn yn unig y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth.

Dyma enghreifftiau o brosesu sy'n seiliedig ar sail buddiannau dilys:

  • Anfon deunydd marchnata uniongyrchol i gefnogwyr drwy'r post at ddibenion codi arian
  • Cyfathrebu â chi am raglenni rydych chi'n eu derbyn gennym ni;
  • Cynnal ymchwil i ddeall yn well pwy yw ein cefnogwyr a thargedu ein gweithgarwch codi arian yn well;
  • Mesur a deall sut mae ein cynulleidfaoedd yn ymateb i amrywiaeth o weithgarwch marchnata fel y gallwn sicrhau bod ein gweithgarwch wedi'i dargedu'n dda, a'i fod yn berthnasol ac yn effeithiol;
  • Gweinyddu digwyddiadau;
  • Anfon gohebiaeth berthnasol i chi
  • Recriwtio staff a chymryd ceisiadau

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y mae angen i ni wneud hynny'n unig, ac rydym yn ystyried meini prawf amrywiol wrth bennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol gan gynnwys:

  • y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer a pha mor hir y mae angen i ni gadw'r data i gyflawni'r dibenion hyn;
  • am ba hyd y mae data personol yn debygol o barhau i fod yn gywir ac yn gyfoes;
  • am ba hyd y gallai'r data personol fod yn berthnasol i hawliadau cyfreithiol posibl yn y dyfodol;
  • unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu, adrodd neu reoleiddiol perthnasol sy'n nodi pa mor hir y mae'n rhaid cadw cofnodion penodol.

Sut rydym yn cadw eich data'n ddiogel

Rydym yn cymryd pob cam priodol i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel. Cedwir gwybodaeth bersonol sy'n cael ei storio'n electronig ar weinyddion diogel sydd â mynediad cyfyngedig gan staff priodol cyhyd ag y bo'n angenrheidiol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol neu ein rhwymedigaethau i chi. Er mwyn sicrhau bod ein staff yn deall ac yn gallu cadw eich data'n ddiogel, mae holl staff BookTrust yn derbyn hyfforddiant diogelu data.

Weithiau rydym yn defnyddio asiantaethau a chyflenwyr i brosesu gwybodaeth bersonol ar ein rhan. Felly, gall eich gwybodaeth bersonol gael ei throsglwyddo neu ei storio y tu allan, a/neu ei phrosesu fel arall gan gontractwyr sy'n gweithredu y tu allan i'r Deyrnas Unedig sy'n gweithio i ni neu i un o'n cyflenwyr.

Mae gan rai gwledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig safon is o ddiogelwch ar gyfer gwybodaeth bersonol, gan gynnwys gofynion diogelwch is a llai o hawliau i unigolion. Pan fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo, ei storio a/neu ei phrosesu fel arall y tu allan i'r Deyrnas Unedig, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y derbynnydd yn gweithredu mesurau diogelu priodol (fel drwy ymrwymo i gymalau cytundebol safonol) wedi'u dylunio i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn unol â'r polisi hwn.

Noder: er ein bod wedi cymryd pob mesur priodol i sicrhau eich data, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd byth 100% yn ddiogel felly er ein bod yn cymryd pob rhagofal posibl, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth a gyflwynwch i ni drwy ein gwefan.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â sefydliadau eraill a all gysylltu â chi ac eithrio lle mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith. Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr neu asiantau proffesiynol i brosesu eich data, er enghraifft er mwyn prosesu debydau uniongyrchol neu anfon parseli llyfrau. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym bob amser yn rhoi cytundebau cyfreithiol ar waith gyda'r trydydd partïon hyn sy'n llywodraethu sut y bydd eich data'n cael ei ddefnyddio. Mae'r trydydd partïon hyn wedi'u dewis yn ofalus.

Gall y rhain gynnwys (ymhlith eraill):

  • partneriaid busnes, cyflenwyr ac isgontractwyr
  • trefnwyr digwyddiadau annibynnol, er enghraifft safleoedd codi arian fel JustGiving
  • hysbysebwyr a rhwydweithiau hysbysebu
  • darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio
  • offer marchnata e-bost, sy'n defnyddio picsel olrhain i fonitro pryd byddwch yn rhyngweithio â'n e-byst, fel agor, clicio neu ddad-danysgrifio
  • darparwyr gwasanaethau TG
  • buddiolwyr eraill, ysgutorion a chynghorwyr cyfreithiol eraill, wrth weinyddu cymynrodd.

Rydym yn cadw'r hawl i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon os ydym o dan unrhyw ddyletswydd gyfreithiol neu reoleiddiol i wneud hynny.

Sut y gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt a'ch dewisiadau

Gallwch ddiweddaru eich gwybodaeth gyswllt a'ch dewisiadau cyswllt drwy gysylltu â'n Tîm Gofal Cefnogwyr:

[email protected]
020 7801 8800
BookTrust G8 Battersea Studios, 80 Silverthorne Road, Battersea, London SW8 3HE

I roi'r gorau i dderbyn e-byst gennym ar unrhyw adeg, cysylltwch â'r Tîm Gofal Cefnogwyr gan ddefnyddio'r manylion uchod neu gallwch glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost gennym ni. Cofiwch: os byddwch yn gwneud rhodd neu'n gofyn am wybodaeth ar-lein byddwch yn derbyn e-bost trafodol untro am y gweithgaredd hwnnw ar gyfer eich cofnodion.

Eich hawliau o dan y deddfau diogelu data cyfredol

O dan gyfraith diogelu data'r Deyrnas Unedig, mae gennych hawliau dros wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch:

Yr hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y data personol sydd gennym amdanoch. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch, a byddwn yn rhoi hyn i chi oni bai bod eithriadau cyfreithiol yn berthnasol.

Yr hawl i gywiro eich gwybodaeth bersonol anghywir

Mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch wedi'i chywiro. Os ydych yn credu bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, rhowch fanylion i ni a gwnawn ymchwilio, a, lle bo'n berthnasol, cywirwn unrhyw beth sy'n anghywir.

Yr hawl i gyfyngu ar y defnydd o'ch gwybodaeth bersonol

Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu rhywfaint neu'r cyfan o'ch gwybodaeth bersonol yn y sefyllfaoedd canlynol: os oes rhywfaint o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir; nid oes gennym hawl gyfreithiol i'w ddefnyddio; mae angen i ni gadw eich gwybodaeth er mwyn i chi sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol; neu os ydych yn credu bod eich hawliau preifatrwydd yn drech na'n buddiannau dilys i ddefnyddio eich gwybodaeth at ddiben penodol ac rydych wedi gwrthwynebu i ni wneud hynny.

Yr hawl i ddileu eich gwybodaeth bersonol

Gallwch ofyn i ni ddileu rhywfaint neu'r cyfan o'ch gwybodaeth bersonol ac mewn achosion penodol, ac yn amodol ar rai eithriadau, mae gennych yr hawl i hyn gael ei wneud.

Yr hawl i'ch gwybodaeth bersonol fod yn gludadwy

Os ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol (1) yn seiliedig ar eich cydsyniad, neu er mwyn ymrwymo i gontract neu gyflawni contract gyda chi, a (2) bod y prosesu'n cael ei wneud drwy ddulliau awtomataidd, gallwch ofyn i ni ei ddarparu i chi neu ddarparwr gwasanaeth arall mewn fformat y gellir ei ddarllen gan beiriant.

Yr hawl i wrthwynebu'r defnydd o'ch gwybodaeth bersonol

Os ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn seiliedig ar ein buddiannau dilys neu ar gyfer ymchwil neu ystadegau gwyddonol/hanesyddol, mae gennych hawl i wrthwynebu ein defnydd o'ch gwybodaeth.

Os ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, a'ch bod am wrthwynebu, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu eich gwybodaeth at y dibenion hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl.

Os ydych am arfer unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â ni drwy'r post: Data Protection Officer, G8 Battersea Studios, 80 Silverthorne Road, Battersea, London, SW8 3HE, drwy e-bost [email protected] neu drwy ffonio 020 7801 8800

Efallai y bydd gofyn i ni ofyn am ragor o wybodaeth a/neu dystiolaeth o bwy ydych. Byddwn yn ymdrechu i ymateb yn llawn i bob cais o fewn mis i dderbyn eich cais, ond os na allwn wneud hynny byddwn yn cysylltu â chi i roi rhesymau dros yr oedi.

Noder bod eithriadau'n berthnasol i nifer o'r hawliau hyn, ac ni fydd pob hawl yn berthnasol ym mhob amgylchiad. I gael rhagor o fanylion, rydym yn argymell eich bod yn troi at y canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y Deyrnas Unedig.

Cwynion

Os ydych yn pryderu am y ffordd yr ymdrinnir â'ch data personol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost [email protected], dros y ffôn ar 020 7801 8800 neu'n ysgrifenedig i Data Protection Officer, BookTrust G8 Battersea Studios, 80 Silverthorne Road, Battersea, London SW8 3HE

Gallwch wybod mwy am sut rydym yn ymateb i gwynion drwy ddarllen ein polisi fan yma.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n rheoleiddio materion diogelu data a phreifatrwydd yn y DU. Mae ganddynt lawer o wybodaeth ar gael i ddefnyddwyr ar eu gwefan ac maent yn sicrhau bod manylion cofrestredig yr holl reolwyr data, fel ni, ar gael i'r cyhoedd. Maent i'w gweld fan yma: https://ico.org.uk/your-data-matters/

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113, drwy eu gwefan www.ico.org.uk neu drwy'r post:

Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF