Eluned Morgan AC yn dathlu 25 mlynedd o Ddechrau Da
Published on: 4 Rhagfyr 2017
Rhaglen genedlaethol anrhegu llyfrau BookTrust yn cyrraedd chwarter canrif.
Daeth plant, teuluoedd, ymwelwyr iechyd, llyfrgellwyr a'r Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan AC, ynghyd ym Mae Caerdydd i ddathlu 25 mlynedd o fodolaeth Dechrau Da / Bookstart, rhaglen genedlaethol rhoi llyfrau'n anrheg gan BookTrust.
Croesawyd dros 50 o blant a'u teuluoedd i'r digwyddiad, a gynhaliwyd yn adeilad y Pierhead ar ddydd Mawrth 28 Tachwedd, i'w helpu i ddathlu Dechrau Da a mwynhau ambell sesiwn stori arbennig.
Ers 1992, mae BookTrust wedi rhoi dros 34 miliwn o lyfrau'n anrheg i blant ledled y DU drwy gyfrwng Dechrau Da. Bwriad Dechrau Da yw helpu pob plentyn i gael y dechrau gorau posib mewn bywyd, a gall pob plentyn yng Nghymru dderbyn pecyn arbennig Dechrau Da o lyfrau pan fyddan nhw'n 6 mis oed ac eto pan fyddan nhw'n 27 mis oed, fel arfer gan eu hymwelydd iechyd. Mae pecynnau Dechrau Da'n cynnwys llyfrau Cymraeg a Saesneg, adnoddau rhigwm hwyliog a syniadau i helpu teuluoedd i ddal ati i ddarllen a mwynhau llyfrau. Ariennir y rhaglen yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Lynne Hannington, Uwch-Nyrs Ymweld Iechyd a Nyrsio Ysgol:
'Mae Dechrau Da'n helpu Ymwelwyr Iechyd i adeiladu perthynas therapiwtig gyda theulu. Bydd y llyfrau'n annog rhieni i rannu llyfrau gyda'u plant o oedran ifanc iawn, ac fe'u croesewir yn fawr gan rieni. Rydym ni'n arbennig o hoff o'r dull y mae'r Gymraeg yn cael ei hybu a'r ffaith fod llyfrau ar gael mewn ieithoedd eraill.'
Bwriad Dechrau Da yw rhoi teuluoedd ar ben y ffordd i gael oes o garu llyfrau a darllen, a chefnogir pecynnau Dechrau Da â sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm wythnosol mewn llyfrgelloedd lleol. Yn ôl Margaret Holt, Cydlynydd Dechrau Da ar gyfer Llyfrgelloedd Caerdydd:
'Mae ein sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm Dechrau Da rhad ac am ddim yn ffordd wych o ddod â theuluoedd gwahanol at ei gilydd ac i rannu hudoliaeth llyfrau a rhigymau o oedran ifanc iawn. Gall plant ddysgu sgiliau iaith a chymdeithasol hanfodol mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar. Rhan o'r swydd sydd yn fy modloni fwyaf yw gweld ymateb y rhieni wrth iddyn nhw sylweddoli cymaint o gyffro sydd yn eu plentyn wrth iddo glywed rhigwm neu stori newydd!'
Mae Bookstart Dechrau Da wedi bod yn cael ei gynnig yng Nghymru ers 1999 ac mae'r rhaglen yn dal i fod mor bwysig ag erioed. Dyma Helen Wales, Pennaeth Gwlad Cymru i BookTrust, i esbonio:
'Mae Dechrau Da, llyfrau a darllen yr un mor bwysig ag erioed 25 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'r byd wedi newid ond mae darllen a rhannu llyfrau, storïau a rhigymau, o oedran ifanc iawn, yn dal i fod yn hanfodol i gefnogi datblygiad plant ac i ysbrydoli oes o gariad at ddarllen. Hyd yn oed o ystyried technoleg newydd, mae'r adeg arbennig honno a dreulir yn cwtsho gyda phlentyn a darllen llyfr yn dal i fod yn bwysig.
'Mae ymchwil wedi dangos i ni fod plant sy'n cael rhywun i ddarllen iddyn nhw bob dydd yn debygol o fod ddeuddeng mis ar y blaen gyda'u darllen pan fyddan nhw'n dechrau yn yr ysgol. Os darllenir i blant 3-5 gwaith yr wythnos, dywedir fod hynny'n cael yr un effaith â bod chwe mis ar y blaen i'w cyfoedion. Byddwn ni'n annog pawb i dreulio amser yn rhannu llyfr gyda phlentyn yn eu bywyd, ac rydym ni'n annog pob rhiant a gofalwr i ddefnyddio'r llyfrgell leol i ddod o hyd i lyfrau gwych i ddarllen gyda'i gilydd, ac i roi cynnig ar sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm.'
Daeth dathliadau pen blwydd 25 Dechrau Da â theuluoedd o bob pen i Gaerdydd at ei gilydd, ynghyd â phartneriaid Dechrau Da gan gynnwys llyfrgelloedd, ymwelwyr iechyd, Cymraeg i Blant a Chymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (Wales PPA). Bu teuluoedd yn mwynhau sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm arbennig iawn – a chanwyd 'Pen Blwydd Hapus' i Arth Dechrau Da.
Mynychwyd sesiwn arbennig dan arweiniad Margaret Holt, Cydlynydd Dechrau Da Llyfrgelloedd Caerdydd, gan y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan. Siaradodd hi am y ffordd mae Dechrau Da'n helpu i wreiddio cariad at ddarllen mewn plant a chyflwyno Cymraeg i deuluoedd di-gymraeg. Diolchwyd i'r partneriaid a'r aelodau gan Brif Weithredwr BookTrust Diana Gerald, a siaradodd hi am werth rhannu ar y cyd i blant bach, a phwysigrwydd rhaglen Dechrau Da yng Nghymru.
Meddai Eluned Morgan:
'Mae darllen yn llawer mwy na dim ond sgíl, mae'n allwedd i ddysgu ac i ddychymyg sy'n gallu mynd â ni i wledydd eraill, bydoedd eraill, galaethau eraill hyd yn oed. Mae rhaglen ddwyieithog Dechrau Da wedi chwarae rhan hanfodol wrth blannu cariad at ddarllen mewn plant a helpu rhieni i helpu'u plant i wella'u sgiliau llythrennedd am bum mlynedd ar hugain.
'Mae hefyd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i gyflwyno'r Gymraeg i deuluoedd di-gymraeg ac annog rhieni i ddewis addysg Gymraeg i'w plant. Rwy'n llongyfarch Dechrau Da ar gyrraedd y pen blwydd yn 25 ac yn edrych ymlaen at ddathlu llawer mwy o gerrig milltir pwysig.'
Bookstart in Wales
Find out more
Every child in Wales receives two Bookstart packs from their health visitor, each containing English and Welsh language books, guidance and resources to help families share books, stories and rhymes.
BookTrust Cymru
More about our work in Wales
BookTrust Cymru works to inspire a love of reading in children because we know that reading can transform lives.