Bardd Plant Cymru yn cyfansoddi cerdd i ddathlu 25 mlynedd o Dechrau Da

Published on: 12 Rhagfyr 2017 Author: Anna Coote

Mae cerdd newydd gan Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, yn dathlu 25 mlynedd o Dechrau Da, rhaglen genedlaethol rhoddi llyfrau BookTrust.

Casia Wiliam

Bydd Stori / Story yn cael ei rannu gyda theuluoedd ledled Cymru, ac mae'n disgrifio pa mor arbennig gall yr amser a dreuliwn yn darllen gyda'n gilydd fod, neges sydd wrth galon rhaglen Dechrau Da.

Lawrlwythwch eich copi chi eich hun o’r gerdd

Ers 1992, mae BookTrust, elusen ddarllen plant fwyaf y DU, wedi rhoi dros 34 miliwn o lyfrau i blant ledled y Deyrnas Unedig trwy Dechrau Da.

Nod y rhaglen yw helpu pob plentyn i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a datblygu cariad at lyfrau, straeon a rhigymau. Gall pob plentyn yng Nghymru gael pecyn o lyfrau Dechrau Da arbennig pan fyddant yn 6 mis a 27 mis oed, fel arfer gan eu hymwelydd iechyd.

Helen Wales, Pennaeth BookTrust Cymru:

'Rydym wrth ein bodd bod Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, wedi ysgrifennu cerdd i ddathlu Dechrau Da. Mae rhannu rhigymau yn rhan mor bwysig o Dechrau Da ac mae mor bwysig i helpu plant i ddatblygu sgiliau iaith pan fyddant yn ifanc i ddod yn ddarllenwyr a siaradwyr hyderus.
'Mae hon yn gerdd wych i deuluoedd gyda phlant ifanc iawn - mae'n hwyl ac yn hawdd ymuno gyda hi. Rydym yn annog pawb i'w rhannu â phlentyn ifanc yn eu bywyd!'

Caiff sesiynau Amser Rhigwm ac Amser Stori rhad ac am ddim eu cynnal mewn llyfrgelloedd ledled Cymru, a gall teuluoedd fwynhau straeon a rhigymau gyda'i gilydd mewn ffordd hwyliog a hamddenol.

Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru:

'Roeddwn wrth fy modd pan daeth Dechrau Da Cymru ata i yn gofyn am gerdd i ddathlu’r pen-blwydd arbennig. Fe ges i fachgen bach y llynedd ac mae'r llyfr rhad ac am ddim a roddwyd i ni yn y pecyn Dechrau Da yn ffefryn mawr yn ein tŷ ni!

'Dwi’n coelio ei bod hi’n hynod o bwysig i ddechrau darllen gyda phlant o oedran cynnar; trwy rannu hud a lledrith amser stori gyda nhw, byddant yn tyfu i fod yn ddarllenwyr hyderus ac o bosib yn feirdd ac awduron hefyd.'

Mae prosiect Bardd Plant Cymru yn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru y cyfle i arbrofi gyda llenyddiaeth Gymraeg, beth bynnag fo'u gallu neu gefndir. Trwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau, mae'r prosiect yn cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn ffordd egnïol, ddeinamig a chyffrous.

Mae cynllun Bardd Plant Cymru yn cael ei gydlynu gan Llenyddiaeth Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac S4C.

You might also like...

New books we love

Our favourite reads of the month

We review lots of new books every month, and here's where you can find the ones we liked best of all.

BookTrust yng Nghymru

BookTrust Cymru

Mae ein gwaith yn cefnogi pob teulu yng Nghymru o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn hyd at ddiwedd eu blwyddyn Derbyn yn yr ysgol, gan ddechrau drwy roi anrheg o ddau lyfr BookTrust yn y pecyn Dechrau Da Babi.

Use our Bookfinder

Take a look

Find your next great read with our amazing Bookfinder.