Dechrau Da yng Nghymru 

Mae Dechrau Da yn annog teuluoedd i ddarllen a rhannu llyfrau o oedran ifanc iawn.

Mae pob plentyn yng Nghymru'n derbyn dau becyn Dechrau Da oddi wrth eu hymwelydd iechyd, pob un yn cynnwys llyfr dwyieithog, llyfryn sy'n llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau a mwy. Gallwch chi weld am y gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig i ymwelwyr iechyd a gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol ledled Cymru isod.

Sylwer: Mae Pyjamarama wedi cymryd lle Wythnos Genedlaethol Dechrau Da. Gallwch fwynhau holl straeon, rhigymau a gweithgareddau Wythnos Genedlaethol Dechrau Da o 2016-2018 yma.

Dechrau Da yng Nghymru

Pecynnau Dechrau Da yng Nghymru

Gyda’ch help chi bydd plant o bob cwr o Gymru’n derbyn eu pecynnau Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar. Dysgwch ragor am roi’r pecynnau Dechrau Da…

Rhannu negeseuon Dechrau Da

Edrychwch ar negeseuon allweddol Dechrau Da i’w rhannu â’r teuluoedd rydych chi’n gweithio â nhw.

Blwch Gwych Dechrau da

Mae adnoddau’r Blwch Gwych yn helpu ymarferwyr i redeg sesiynau amser stori difyr sy’n annog rhieni a gofalwyr i ddarllen a mwynhau llyfrau gyda’u plant.

Hyfforddiant Dechrau Da i Ymwelwyr Iechyd

Gwiethdy i Ymwelwyr Iechyd dan hyfforddiant gyda chyngor ar roddi’r pecynnau Dechrau Da, a nodiadau i arweinwyr y cyrsiau.

Mwy gan BookTrust Cymru

BookTrust Cymru ar Twitter

Dilynwch ni ar Twitter

Pori Drwy Stori

Dysgu rhagor

Pori Drwy Stori yw’r rhaglen genedlaethol ar gyfer plant oedran Derbyn yng Nghymru, a ddarperir gan BookTrust Cymru. Mae’n hollol ddwyieithog ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gweithgareddau Wythnos Genedlaethol Dechrau Da