Wythnos Genedlaethol Dechrau Da

Nid yw’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal bellach. Mae straeon, rhigymau a gweithgareddau o 2016 hyd at 2018 ar gael isod.

Digwyddiad blynyddol oedd Wythnos Genedlaethol Dechrau Da, yn dathlu holl hwyl a budd rhannu llyfrau, straeon a rhigymau â phlant o oedran cynnar. Cafodd y digwyddiad ei gynnal o 2000 hyd at 2018.

Bob blwyddyn, byddai’r BookTrust yn dewis thema a llyfr arbennig i’w rannu mewn digwyddiadau y byddai llyfrgelloedd, canolfannau plant a lleoliadau eraill ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn eu cynnal i’r teulu yn rhad ac am ddim. Yn ddiweddar, rhannwyd dros 450,000 o lyfrau am ddim bob blwyddyn, ynghyd â llu o weithgareddau i ysbrydoli teuluoedd â phlant 0-5 oed i ddarllen gyda’i gilydd.

Smiling girl with Bookstart Bear at National Bookstart Week event

Yn 2019, disodlwyd Wythnos Genedlaethol Dechrau Da gan Pyjamarama, sef dathliad o straeon amser gwely.

Mae hi dal yn bosibl i deuluoedd ac ymarferwyr gael gafael ar holl adnoddau gwych Wythnos Genedlaethol Dechrau Da o 2016 hyd at 2018 yn y fan yma, gan gynnwys fideos amser stori a llyfrau stori rhyngweithiol – gyda fersiynau Iaith Arwyddion Prydain a Chymraeg – rhigymau i’w morio canu a phethau difyr i’w gwneud a’u creu.

Cael gwybod am raglen Dechrau Da

2018: Dawns Deryn Dechrau Da

2018 National Bookstart Week event in Wales

Ein ffrindiau pluog bendigedig oedd ein thema yn 2018, a’r llyfr a ddewiswyd oedd A Busy Day for Birds gan Lucy Cousins. Cafwyd addasiad Cymraeg-Saesneg arbennig gan Aneirin Karadog, sef Diwrnod Prysur yr Adar / A Busy Day for Birds.

© 2017 Lucy Cousins. Atgynhyrchwyd trwy ganiatâd Walker Books Ltd

2017: Dewch i Ni Anturio yn yr Awyr Agored

Roedd a wnelo Wythnos Genedlaethol Dechrau Da 2017 yn gyfan gwbl â rhannu straeon a rhigymau mewn gerddi, mannau cymunedol, parciau, coetiroedd a thu hwnt. Gwnaeth y BookTrust rodd o dros 450,000 o gopïau o Everybunny Dance! gan Ellie Sandall mewn digwyddiadau gwych ledled y wlad. Addasodd Anni Llŷn, cyn-Fardd Plant Cymru, ein fersiwn ddwyieithog o’r llyfr Pob Un Bwni’n Dawnsio! / Everybunny Dance!

  • Mwynhewch ein llyfr stori rhyngweithiol gwych Everybunny Dance!, wedi’i leisio gan Lauren Laverne – gyda chwningod sy’n canu, llwynog sy’n dawnsio, effeithiau sain, cerddoriaeth, fersiynau Cymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain.
  • Beth am wneud crefftau gyda’n gweithgareddau Dewch i Ni Anturio yn yr Awyr Agored? Mae’r rhain ar gael yn Saesneg ac yn ddwyieithog Cymraeg-Saesneg
  • Gwrando ar rigymau Dewch i Ni Anturio yn yr Awyr Agored
  • Sut i dynnu llun cwningod yn dawnsio gan Ellie Sandall

© Ellie Sandall 2016. Hodder Children's Books

2016: O Dan y Môr

Welsh cover of A Hole in the Bottom of the Sea and squid illustration

Cafodd pawb amser gwych yn ei morio hi yn 2016, gyda miloedd o deuluoedd ledled y wlad yn mwynhau digwyddiadau arbennig ar thema’r môr. A Hole in the Bottom of the Sea gan Jessica Law a Jill McDonald, ac a gyhoeddwyd gan Barefoot Books, oedd y llyfr y gwnaethon ni rodd ohono, a gwnaethon ni ei droi’n llyfr stori animeiddiedig wedi’i leisio gan Angellica Bell.

  • Mynd ar eich pen i’n llyfr stori A Hole in the Bottom of the Sea, sy’n cael ei ddarllen gan Angellica Bell - yn Saesneg yn unig
  • Gwrandwech ar Y Twll ar Waelod y Môr / A Hole in the Bottom of the Sea yn Gymraeg
  • Lliwio'r cranc a mynd ati i wneud penwisg siarc gyda’n gweithgareddau – sydd ar gael yn Saesneg ac yn ddwyieithog Cymraeg-Saesneg
  • Dysgu ambell rigwm yn ymwneud â’r môr – ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg

© Jessica Law a Jill McDonald 2013. Barefoot Books