Pyjamarama yn eich cymuned
Does yna ddim byd tebyg i stori amser gwely. Mae’n amser hudolus, llawn llawenydd i blant bach a’u teuluoedd.
Nod ymgyrch Pyjamarama y BookTrust ydy helpu pob plentyn i brofi gwefr stori amser gwely trwy annog teuluoedd i rannu llyfrau â’u plantos bach bob nos.
Sut alla’ i chwarae rhan fel partner y BookTrust sy’n gwneud rhodd o lyfr
Beth am wisgo’ch hoff byjamas ac ymuno â ni trwy gynnal partïon pyjamas a gweithgareddau’n llawn hwyl amser stori? Bydden ni wrth ein boddau pe baech chi’n cymryd rhan ac yn ein helpu ni i gael mwy o deuluoedd i ddarllen, tra’ch bod yn hybu’ch gwasanaethau lleol eich hunain ac yn cael amser gwych! Byddwn ni’n dathlu rhwng 1 a 7 Mehefin 2019.
Mae’r BookTrust yn darparu dros 450,000 o lyfrau darluniau’n rhad ac am ddim ar gyfer plant 0-5 oed, ac yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel bod plant sy’n mynd i ddigwyddiadau Pyjamarama’n gallu mynd â stori adref sy’n berffaith ar gyfer darllen amser gwely.
Eleni, y llyfr ydy Car, Car, Truck, Jeep gan Katrina Charman a Nick Sharratt, sy’n wych. Yng Nghymru, mae yna argraffiad dwyieithog o Car, Car, Truck, Jeep / Dacw’r Car yn Dŵad, wedi’i addasu gan Aneirin Karadog. Mae yna ragor o wybodaeth am y llyfr isod.
Gallwch chi ddod o hyd i lawer o awgrymiadau gwych, adnoddau a phecyn hyrwyddo ar ein gwefan i’w defnyddio cyn ac yn ystod ein dathliadau. Mae’r rhain ar gael yn Saesneg ac mewn fersiynau dwyieithog Cymraeg/Saesneg.
Beth fydda i’n ei dderbyn yn fy mhecyn Pyjamarama?
Os ydych chi’n bartner sy’n gwneud rhodd o lyfr Pyjamarama, byddwch chi’n derbyn copïau o Car, Car, Truck, Jeep (neu Car, Car, Truck, Jeep / Dacw’r Car yn Dŵad), posteri hyrwyddo a phosteri bol gwag, dalenni rhigymau a dalenni gweithgareddau. Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon ag adnoddau y gellir eu lawrlwytho yn y gwanwyn.
Beth os ydw i’n rhiant neu’n ofalwr sydd eisiau mynd i ddigwyddiad?
Os ydych chi’n deulu, cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael gwybod am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn agos atoch chi’r mis Mehefin hwn, lle byddwch chi’n gallu cael copi o Car, Car, Truck, Jeep yn rhad ac am ddim. Hefyd mae yna lawer o weithgareddau difyr, gwych ar ein gwefan i chi eu gwneud gartref.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Pyjamarama, ewch i’n tudalen o gwestiynau cyffredin
Cysylltu â ni
Os na fedrwch chi gael ateb sy’n eich bodloni, cysylltwch â [email protected] os ydych chi yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu [email protected] os ydych chi yng Nghymru, a byddwn ni’n hapus i helpu.