Amser stori Diwrnod Prysur yr Adar / A Busy Day for Birds
Darllen gydag Ore Oduba wrth iddo ddod ag A Busy Day for Birds gan Lucy Cousins yn fyw yn ein fideo amser stori.
Mae fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o’r fideo ar gael hefyd, ynghyd â fersiwn Gymraeg, sydd wedi’i haddasu a’i darllen gan Aneirin Karadog.
Diwrnod Prysur yr Adar/A Busy Day for Birds oedd y llyfr a ddewiswyd ar gyfer Wythnos Genedlaethol Dechrau Da 2018. Yn 2019, disodlwyd Wythnos Genedlaethol Dechrau Da gan Pyjamarama, sef dathliad o straeon amser gwely.