Blwch Gwych Dechrau da 2021

Mae adnoddau’r Blwch Gwych ar gael i’r cynadleddwyr sy’n mynychu Cynadleddau Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar blynyddol BookTrust Cymru.

Yn 2021, cynhaliwyd y cynadleddau hyn fel cyfres o weminarau yn edrych ar y defnydd o lyfrau, straeon a rhigymau i gefnogi llesiant plant a theuluoedd, gyda ffocws ar yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd.

Os hoffech chi gael gwybod am gynadleddau yn y dyfodol, cofrestrwch i dderbyn Cylchlythyr Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru a dilynwch ni ar Twitter a Facebook,

Mae adnoddau i gefnogi sesiynau Blwch Gwych, yn rhai yn y cnawd ac yn rhai ar-lein, i’w cael isod.

Gwrandewch ar y llyfrau yn Gymraeg

Gwenynen Brysur 123 / 123 Bumblebee

Ti... / You...

Cael y llawlyfr a'r taflenni gweithgareddau

Llyfryn Blwch Gwych

Canllaw hwylus i'r Blwch Gwych

Mae’r llawlyfr maint A4 yn llawn i’r ymylon â phopeth y mae angen ichi ei wybod am sut i redeg sesiwn Blwch Gwych, gan gynnwys ambell air i gall defnyddiol.

Taflenni gweithgareddau Blwch Gwych

Dod â’r stori’n fyw

Mae yna daflen A4 o weithgareddau ar gyfer pob un o lyfrau’r Blwch Gwych, gyda gweithgareddau difyr a rhigymau gwych sy’n dod â’r straeon yn fyw.

Gwrandewch ar y rhigymau

Rhigymau yn Saesneg

Rhigymau yn Gymraeg

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0-5 oedyng Nghymru?

Wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau,adnoddau a hyfforddiant
ar gyferymarferwyr ac athrawon.

Cofrestru...