Hyfforddiant Ymwelwyr Iechyd Dechrau Da Cymru

Gweithdy rhyngweithiol yn cyflwyno dechrau da, yn egluro manteision darllen ar y cyd cynnar ac yn rhoi cyngor ymarferol ynghylch sut i roi pecynnau babanod a blynyddoedd cynnar i deuluoedd yng Nghymru.

Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn sy’n para 2 awr yn cyflwyno myfyriwr-ymwelwyr iechyd i raglenni Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar ac yn rhoi canllawiau ymarferol y gallwn nhw eu hymgorffori yn eu harfer.

Mae canllawiau arweiniol cynhwysfawr i’w cael i arweinwyr y gweithdai.

Mae’r gweithdy yn edrych ar y pynciau a ganlyn:

  • Cyflwyniad i BookTrust Cymru a Dechrau Da
  • Manteision rhannu darllen yn gynnar
  • Trosolwg o becynnau Dechrau Da a negeseuon wrth wneud rhodd ohonyn nhw
  • Cyfweliadau ag Ymwelwyr Iechyd a staff Llyfrgell
  • Canllawiau ar gydweithio â phartneriaid Dechrau Da

Fe fyddwch chi hefyd yn cael:

  • Awgrymiadau ar gyfer gwneud rhodd o’r pecynnau
  • Ymchwil gefndir a phethau eraill i’w darllen

Adnoddau gweithdy ar gyfer myfyriwr

Fe fydd y gweithdy Dechrau Da yn rhoi canllawiau ymarferol ichi ar sut i wneud rhodd o becynnau Dechrau Da, yn ogystal â throsolwg o sut y mae’r rhaglen o fudd i ddatblygiad plant.

Cyflwyniad Dechrau Da

Lawrlwytho’r cyflwyniad

Trosolwg o BookTrust phecynnau Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar, canllawiau a negeseuon allweddol i’w cofio wrth roi’r pecynnau. Mae’r cyflwyniad hefyd yn cynnwys cyfweliadau ar fideo gydag Ymwelwyr Iechyd a staff llyfrgell, a chwis.

Nodiadau myfyrwyr

Lawrlwythwch y nodiadau myfyrwyr

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys holl wybodaeth y gweithdy, gan gynnwys trosolwg o bob rhaglen Dechrau Da, cynnwys pecynnau a chanllawiau ar wneud rhodd, yn ogystal â phethau ychwanegol i’w darllen, ymchwil gefndirol a Chwestiynau Cyffredin.

Adnoddau gweithdy ar gyfer arweinwyr cwrs

Gweithdy rhyngweithiol sy’n cyflwyno Dechrau Da, yn esbonio manteision rhannu darllen yn gynnar ac yn rhoi cyngor ymarferol ynglŷn â sut i wneud rhodd o becynnau Babi a Blynyddoedd Cynnar i deuluoedd yng Nghymru.

Cyflwyniad Dechrau Da

Lawrlwytho’r cyflwyniad

Trosolwg o BookTrust a Dechrau Da, gyda chanllawiau a negeseuon allweddol ar gyfer arfer gorau wrth wneud rhodd. Mae’r cyflwyniad hefyd yn cynnwys cyfweliadau fideo gydag Ymwelwyr Iechyd a staff llyfrgell, a chwis Kahoot rhyngweithiol.

Nodiadau arweinydd y cwrs

Lawrlwythwch nodiadau arweinydd y cwrs

Mae gweithdai Dechrau Da yn hyblyg – mae’r nodiadau’n amlinellu sut i gyflawni’r cwrs mewn 2 awr. Mae’r strwythur yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol, pwyntiau trafod, cwisiau, a gweithgareddau a chanllawiau ymarferol i’w defnyddio gyda’r cyflwyniad.

Gwyliwch y fideos hyfforddiant

Rhoi pecynnau babi

Rhoi pecynnau blynyddoedd cynnar

Sut mae Dechrau Da a Gwasanaethau Llyfrgelloedd yn gweithio mewn partneriaeth

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0-5 oedyng Nghymru?

Wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau, adnoddau a hyfforddiant ar gyferymarferwyr ac athrawon.

Cofrestru