Pecynnau Dechrau Da yng Nghymru

Gyda’ch help chi bydd plant o bob cwr o Gymru’n derbyn eu pecynnau Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar. Dysgwch ragor am y pecynnau Dechrau Da cyfredol a chynghorion am sut i’w rhoi i deuluoedd.

Mae’r pecyn Dechrau Da BabiPecyn babi

Ar gyfer pwy y mae'r pecyn a phryd y gwneir rhodd ohono?

Mae'r pecyn ar gyfer babanod yng Nghymru. Mae ymwelwyr iechyd fel rheol yn gwneud rhodd o becynnau yn ystod archwiliadau iechyd pan fo'r babi yn 6 mis oed.

Mae'r pecyn yn cynnwys llyfr dwyieithog, wedi'i ddewis yn ofalus i apelio at blant ifanc iawn, llyfryn arbennig gyda syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau, pyped bys dwyochrog a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â'ch llyfrgell leol.


Pecyn Dechrau Da Blynyddoedd CynnarPecyn Blynyddoedd Cynnar

Ar gyfer pwy y mae'r pecyn a phryd y gwneir rhodd ohono?

Mae'r pecyn yn cynnwys llyfr lluniau dwyieithog, llyfryn sy'n llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â'ch llyfrgell leol.

Gwneir rhodd o becyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar fel rheol yn ystod archwiliad iechyd 27 mis eich plentyn.

Mae llyfrau newydd Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar yma. Darganfyddwch fwy


Beth yw'r ffordd orau o roi'r pecynnau hyn?

Wrth roi rhodd pecyn Dechrau Da i deulu, mae’n bwysig:
  • Cyfleu neges gynnes a chalonogol o safon uchel am bleser a manteision rhannu llyfrau
  • Dangos cynnwys y pecyn
  • Gwahodd y teulu i ymuno â’r llyfrgell
  • Rhoi gwybod iddyn nhw am unrhyw ddigwyddiadau lleol, fel amser stori a rhigwm, neu gyfleoedd dysgu perthnasol i deuluoedd

Gifting the packs image

Pori Drwy Stori

Dysgu rhagor

Pori Drwy Stori yw’r rhaglen genedlaethol ar gyfer plant oedran Derbyn yng Nghymru, a ddarperir gan BookTrust Cymru. Mae’n hollol ddwyieithog ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Hyfforddiant i Ymwelwyr Iechyd

Dysgu rhagor

Trosolwg llawn o’r hyn sydd wedi’i gynnwys ym mhob un o’r rhaglenni Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar, gyda negeseuon allweddol y gallwch chi eu defnyddio wrth roi’r pecynnau.

  

  

  

Logo Cymraeg llywodraeth

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0-5 oedyng Nghymru?

Cofrestrwch i dderbyn diweddaraiadau am ein gweithgareddau, adnoddau a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr ac athrawon.

Cofrestru...