BookTrust Cymru yn datgelu llyfrau dwyieithog newydd Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar
Published on: 18 Tachwedd 2024
Yr wythnos hon, cyhoeddodd BookTrust beth fydd y llyfrau newydd sbon a roddir i bob babi newydd a phlant 2-3 oed yng Nghymru fel rhan o raglen Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Drwy gyfrwng partneriaeth rymus rhwng BookTrust, ymwelwyr iechyd a llyfrgelloedd, bydd ymwelwyr iechyd yn rhoi pecynnau Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar yn anrheg i bob teulu yng Nghymru, gan sicrhau fod plant a theuluoedd yn gallu mwynhau manteision eang a all ddod yn sgil rhannu llyfrau a straeon.
Mae Dechrau Da Babi'n darparu ymyriad darllen yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd babi, ac mae'n cynnig cymorth ar y cam cyntaf er mwyn helpu rhieni i ddarllen gyda'u plant gartref. Mae gan bob babi a anwyd yng Nghymru hawl i dderbyn pecyn Dechrau Da Babi, a roddir fel arfer adeg y gwiriad iechyd 6 mis oed. Detholir y llyfr a gynhwysir yn y pecyn gan banel o arbenigwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol, gyda mewnbwn gan deuluoedd i sicrhau eu bod yn ateb anghenion rhieni, gofalwyr a phlant.
Teitl dwyieithog newydd eleni, a gyhoeddir gan Atebol yw Llyfr Codi Fflap Cyntaf Babi Pi-po / Baby's Very First Lift-the-Flap Peek-a-boo gan Fiona Watt, darluniau gan Stella Baggott a'r addasiad Cymraeg gan Glyn Saunders Jones.
Gyda chlawr llachar melyn i ddal y llygad, gyda phanda cyfeillgar arno, mae'r llyfr cyntaf hyfryd hwn i fabis yn cynnwys llabedi cryf ble gall yr anifeiliaid guddio a llwybrau i'w dilyn gyda bys, a siapau a dorrwyd allan er mwyn i fabis allu'u darganfod ar bob tudalen. Bydd babis yn mwynhau chwarae pi-po gyda mwnci, coala, llew ac anifeiliaid cyfeillgar eraill cyn gweld eu llun eu hunain yn y drych ar y dudalen olaf.
Mae Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yn darparu ymyriad darllen pellach, gan gefnogi teuluoedd i gael hwyl wrth rannu straeon gyda'i gilydd. Bydd hawl gan bob plentyn 2-3 oed yng Nghymru i dderbyn pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar, a roddir yn anrheg fel arfer adeg y gwiriad iechyd 27 mis. Bydd arbenigwyr blynyddoedd cynnar yn cynnig mewnbwn hanfodol o ran dewis y llyfr yn y pecyn hwn, gan sicrhau ei fod yn darparu stori ddeniadol y gall teuluoedd ei rannu, gan gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu creiddiol y plentyn ar yr un pryd.
Y teitl dwyieithog a ddewiswyd i'w roi'n rhodd fel rhan o becyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yw Ffrindiau Gorau, Ffrindiau Gwych / Best Friends, Busy Friends, gan Susan Rollings a darluniau gan Nichola Cowdery. Addaswyd y llyfr hwn i'r Gymraeg gan Endaf Griffiths a'i gyhoeddi gan Atebol, ac mae'n cynnwys llond lle o deuluoedd a ffrindiau amrywiol yn cael hwyl gyda'i gilydd gartref, mewn lleoliad meithrin, yn y parc, ac mewn mannau eraill.
Mae'r stori hwyliog, sy'n odli, yn dangos plant yn rhedeg, nofio, dawnsio a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau eraill, gan annog symud a llythrennedd corfforol.
Dangosodd ymchwil gan BookTrust fod plant sy'n elwa o gael cefnogaeth o safon uchel yn y blynyddoedd cynnar yn fwy tebygol o gyflawni'u nodau datblygu cynnar, a mwynhau gwell iechyd meddwl, deilliannau addysgol, tosturi a chreadigrwydd yn y tymor hir.
Mae rhannu llyfrau, straeon a rhigymau fel sail i chwarae, siarad, canu a darganfod yn eu blynyddoedd cynnar yn rhoi'r hwb mwyaf i blant o ran eu datblygiad, gan wella twf a datblygiad ymenyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn ystod cyfnod pan fydd yr ymennydd yn tyfu'n sylweddol. Mae darllen ar y cyd hefyd yn cefnogi creu rhwymyn rhwng plant a'u rhieni.
Yn ôl Diana Gerald MBE, Prif Weithredwr BookTrust: "Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu straeon a darllen gyda phlant.
"Dechrau pan fyddan nhw'n fabis yw'r ffordd orau o osod y sylfeini ar gyfer arfer darllen gydol oes, gan roi cyfle iddyn nhw i brofi manteision darllen, all newid eu bywyd.
"Mae cael llyfrau llachar, lliwgar a rhyngweithiol sy'n apelio at bob teulu, hyd yn oed y rhai nad ydyn nhw'n ystyried eu hunain yn ddarllenwyr, yn allweddol i annog teuluoedd ar eu teithiau darllen. Gall darllen ar y cyd o'r dyddiau cynnar fod yn brofiad difyr ac amlsynhwyraidd i bob babi, a gall ddechrau ar gariad at lyfrau sy'n para oes."
Mae Dechrau Da Babi wedi cefnogi teuluoedd gyda babanod newydd-anedig ers dros 25 mlynedd. Drwy gyfrwng y rhaglen, bydd ymwelwyr iechyd, llyfrgelloedd, cofrestryddion, a llawer o weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar eraill yn dosbarthu dros hanner miliwn o becynnau Dechrau Da Babi bob blwyddyn, gan gyrraedd 90% o'r holl fabis newydd-anedig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gyda theuluoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn derbyn fersiwn Saesneg o'r pecyn).
Mae BookTrust hefyd yn cynnig nifer o raglenni eraill gan gynnwys Dechrau Da i Blant Bach 1-2 oed a fyddai'n elwa fwyaf o ymyriad darllen pellach bryd hynny, Pori Drwy Stori Meithrin sy'n cynnwys adnoddau o ansawdd uchel ac anrheg o lyfr i 20,000+ o blant mewn lleoliadau meithrin yng Nghymru, a Pori Drwy Stori Derbyn, sy'n darparu adnoddau pellach gan gynnwys pecyn llyfrau i blant oed Derbyn ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Yn ogystal, gall plant 3-13 oed sy'n derbyn gofal dderbyn parseli sy'n cynnwys llyfrau, gemau, llythyrau awduron a mwy trwy raglen Y Clwb Blwch Llythyrau. Yng Nghymru, ariennir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru.