Rhannu negeseuon Dechrau Da

Edrychwch ar negeseuon allweddol Dechrau Da i’w rhannu â’r teuluoedd rydych chi’n gweithio â nhw.

Negeseuon allweddol Dechrau Da

Dyma rai negeseuon syml i’w rhannu â theuluoedd, boed yn ymwelydd iechyd, yn ymarferydd blynyddoedd cynnar neu’n gweithio o fewn llyfrgelloedd.

  • Chi ydy athro cyntaf a phwysicaf eich plentyn. Mae straeon, llyfrau a rhigymau’n rhan hanfodol o ddatblygiad eich plentyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu cynnwys nhw yn eich arferion bob dydd. Mae hyn yn helpu’ch plentyn i ddatblygu llawer o sgiliau pwysig, ac yn ei helpu i ddod yn ddysgwr hapus a hyderus.
  • Dechrau’n ifanc! Mae’n beth da mwynhau straeon, llyfrau a rhigymau â’ch plentyn o oedran mor ifanc â phosibl. Does dim angen i fabi ddeall y geiriau i gyd; fe fydd wrth ei fodd yn gwrando ar eich llais.
  • Rhannwch lyfrau, siarad am y lluniau a chwtsio â'ch gilydd – mae hyn i gyd yn eich helpu i feithrin perthynas gref a chariadus â’ch plentyn.
  • Gall pawb yn y teulu ymuno â’r hwyl, yn dadau, yn famau a gofalwyr i frodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod.
  • Ymunwch â’ch llyfrgell leol, gan y bydd eich plentyn wrth ei fodd yn dewis llawer o lyfrau gwahanol drosto’i hun. Mae llyfrgelloedd yn croesawu pawb o bob oedran, does dim rhaid talu i ymuno a dydy llyfrgelloedd Cymru ddim yn codi dirwy os ydy llyfrau plant yn hwyr yn cael eu dychwelyd.Gallwch chi ddod o hyd i’ch llyfrgell agosaf yn Llyfrgelloedd Cymru.