BookTrust Cymru’n dathlu 10 mlynedd o’r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru

Published on: 4 Tachwedd 2019

Mae 2019 yn flwyddyn arbennig iawn i ni – rydyn ni’n falch iawn o ddathlu pen-blwydd y Clwb Blwch Llythyrau yn 10 oed yng Nghymru.

Two boys outside with Letterbox Club parcel contents

Rhaglen sydd wedi ennill gwobrau ydy Clwb Blwch Llythyrau, ac mae BookTrust Cymru’n ei rhedeg mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerlŷr, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mae parseli’n cael eu llenwi â llyfrau, adnoddau, deunydd ysgrifennu a gemau rhifau wedi’u dewis yn ofalus. Mae’r rhain yn cael eu hanfon at aelodau’r Clwb Blwch Llythyrau – sef plant rhwng 3 a 13 oed sy’n derbyn gofal neu sy’n agored i niwed. Mae pob aelod yn derbyn parsel bob mis am chwe mis, gan annog darllen er pleser a dysgu yn y cartref.

'I rai o’r aelodau, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw dderbyn unrhyw beth drwy’r post neu i fod berchen ar eu llyfr eu hunain i’w gadw. Meddai Shannon, plentyn sy’n derbyn gofal, ‘Ro’n i’n meddwl WAW pan ges i’r parsel achos dydw i ’rioed wedi cael parsel na dim byd erioed yn fy mywyd a dwi’n 10 oed.’  

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r Clwb Blwch Llythyrau wedi anfon parseli at dros 10,000 o blant yng Nghymru. Mae hynna’n 120,000 o lyfrau i gyd yn mynd ar eu hunion i gartrefi’r plant!

Mae’r Clwb Blwch Llythyrau’n helpu gofalwyr a theuluoedd a’u plant i dreulio mwy o amser yn darllen gyda’i gilydd er pleser ac yn chwarae gemau. Mae aelodau’n teimlo bod rhywun yn cofio amdanyn nhw ac maen nhw’n llawn cyffro ynglŷn â derbyn parsel, sy’n eu gwneud nhw’n fwy hyderus wrth ddarllen a delio a rhifau.

Mae’r parseli wedi cynnwys llyfrau gan ysgrifenwyr gwych o Gymru gan gynnwys Bardd Llawryfog Plant Cymru newydd Eloise Williams, Anni Llŷn ac Eurig Salisbury, y ddau ohonyn nhw’n gyn-Feirdd Plant Cymru.

Fe hoffen ni ddiolch o galon i’n holl bartneriaid yn Llywodraeth Cymru ac mewn Awdurdodau Lleol sydd wedi ein helpu ni i ddanfon parseli’r Clwb Blwch Llythyrau at fwy nag 800 o blant bob blwyddyn.

Mae’r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru yn 10 oed: beth sydd gan y plant i’w ddweud?