Mae’r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru yn 10 oed: beth sydd gan y plant i’w ddweud?
Rydyn ni’n derbyn adborth hyfryd gan blant ac oedolion o Gymru ben baladr. A ninnau’n dathlu 10 mlwyddiant, rydyn ni am rannu rhai o’n hoff gardiau post sydd wedi’u hysgrifennu â llaw gan rai o’r plant sy’n derbyn y Clwb Blwch Llythyrau.
Mae plant yn dweud diolch am y Clwb Blwch Llythyrau
Letterbox Club postcard: Caine and Poppy
Image 1 of 15
Letterbox Club postcard: Zoe
Image 2 of 15
Letterbox Club postcard: Jessica
Image 3 of 15
Letterbox Club postcard 4
Image 4 of 15
Letterbox Club postcard 5
Image 5 of 15
Letterbox Club postcard: Ruby
Image 6 of 15
Letterbox Club postcard: Bradley
Image 7 of 15
Letterbox Club postcard: Kanish
Image 8 of 15
Letterbox Club postcard: Jodie
Image 9 of 15
Letterbox Club postcard: Jersey
Image 10 of 15
Letterbox Club postcard: Elisha
Image 11 of 15
Letterbox Club postcard: Caleb
Image 12 of 15
Letterbox Club postcard: Amy
Image 13 of 15
Letterbox Club postcard 14
Image 14 of 15
Letterbox Club postcard 15
Image 15 of 15
Rhagor o ddyfyniadau gan blant sy’n derbyn y Clwb Blwch Llythyrau
‘Ro’n i’n teimlo mor gyffrous pan fyddai fy mharsel yn cyrraedd! Fe fyddwn i’n mynd â’r parsel i’r bwrdd ac yn ei agor yn ofalus. Rwy’n dwlu ar ddarllen – dyma fy hoff beth i’w wneud. Fe allaf i ddianc mewn llyfr. Mae gen i ambell lyfr newydd i’w ddarllen nawr – on’d ydw i’n lwcws! Diolch i bobl y blwch llythyrau am fy newis i. Rwy’n teimlo’n arbennig iawn.’ Person ifanc, 13 oed
'Roedd yn llawer o hwyl cael pecynnau i’w hagor oherwydd mi fydden nhw wastad ar fwrdd y gegin pan fyddwn i’n dod adre o’r ysgol.' Demi
'Rwy’n dwlu cael parseli bob mis, ac rwy nawr yn aelod o’r clwb blwch llythyrau.' Kieran
'Diolch am bopeth rydych chi wedi’i wneud. Doeddwn i ddim yn hoffi darllen hyd nes i chi anfon yr holl barseli yna i mi. Rwy’n credu eich bod chi i gyd yn glên – diolch o galon.' Sophie
'Mae’r eitemau rydych chi’n eu cael yn helpu gydag: ysgol, darllen, chwarae gemau a llawer o bethau eraill hefyd.' Bachgen 12 oed
'Dwi wrth fy modd yn cael parseli i fi fu hun. Dyna’r peth gorau yn y byd.' Nicole
'Ro’n i’n meddwl bod cael parsel gyda fy enw i arno yn gyffrous iawn.' Bachgen 8 oed
'Diolch am bopeth sy’n cael ei anfon i mi. Dydw i ddim yn mwynhau darllen fel arfer ond y mis yma mi gefais i lyfr o’r enw Diary of a Wimpy Kid gan Jeff Kinney. Dwi wedi cyrraedd tudalen 79 ac yn gobeithio gorffen y llyfr cyn hir.' Person ifanc 13 oed
‘Fe wnes i feddwl WAW pan gefais i’r parsel, achos dydw i erioed wedi cael pecyn na pharsel yn fy mywyd, a dwi’n 10 oed.' Shannon