Y Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru

Bob blwyddyn byddwn ni’n anfon tua 900 o barseli Blwch Llythyrau i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Mae’r parseli’n cynnwys llyfrau, gemau a deunyddiau papur a ddewiswyd yn arbennig i ysbrydoli cariad at ddarllen ac ymwneud â rhifedd.

Mae ein pecynnau’n annog plant i fwynhau dysgu y tu allan i’r ysgol a nhw sy’n cael eu cadw gartref i’w defnyddio’n annibynnol neu gyda’u gofalwyr. Mae’r parseli ar gael ar gyfer plant a phobl rhwng 3 a 13 oed. Bydd pawb yn derbyn chwe pharsel drwy’r post, un bob mis, fel arfer o fis Mai tan fis Hydref.

Mae pob parsel yn llawn dop o lyfrau, gemau mathemateg, deunyddiau papur a a llythyron oddi wrth awduron! Yng Nghymru rydym ni’n cynnwys llyfrau Cymraeg, dwyieithog neu ddiddordeb am Gymru yn ein parsel Blwch Llythyrau Porffor i blant 3-5 oed, yn ogystal â llyfrau syn addas i ddysgwyr neu siaradwyr Cymraeg yn ein parseli Blwch Llythyrau Coch a Blwch Llythyrau Glas. Gallwch ddysgu am ein dewis o barseli lliwgar drwy ymweld â’r dudalen hon.

Mae Cyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid ar gyfer tua 800 o blant y flwyddyn i gymryd rhan yn y Clwb Blwch Llythyrau. Gall Consortia Addysg, Awdurdodau Lleol ac ysgolion hefyd ariannu lleoedd ychwanegol er mwyn galluogi rhagor o blant i fwynhau’r rhaglen.

'Mae pob parsel yn cynnwys adnoddau o safon uchel y mae ein dysgwyr ifanc yn dwlu arnyn nhw. Rydw i wedi defnyddio Parseli’r Clwb Blwch Llythyrau fel dull o symbylu cyfathrebu cadarnhaol rhwng gofalwyr a phlant, wrth roi cyfle iddyn nhw eistedd a darllen gyda’i gilydd. Mae’r parseli’n darparu cymaint mwy na geiriau mewn llyfr – maen nhw’n rhoddion oddi wrth bobl sy’n gofalu.' Tîm Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal – Ceredigion, Cymru

Mae’r Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru yn 10 oed: beth sydd gan y plant i’w ddweud?

Gallwch bori ar ein tudalennau gwe i ddysgu rhagor am fanteision y Clwb Blwch Llythyrau, darllen ein hymchwil ddiweddaraf a chanfod deunyddiau cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer gofalwyr ac ymarferwyr.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy e-bostio [email protected]

Yn yr adran hon

BookTrust yng Nghymru

BookTrust Cymru

Mae ein gwaith yn cefnogi pob teulu yng Nghymru o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn hyd at ddiwedd eu blwyddyn Derbyn yn yr ysgol, gan ddechrau drwy roi anrheg o ddau lyfr BookTrust yn y pecyn Dechrau Da Babi.

Pori Drwy Stori

Dysgu rhagor

Pori Drwy Stori yw’r rhaglen genedlaethol ar gyfer plant oedran Derbyn yng Nghymru, a ddarperir gan BookTrust Cymru. Mae’n hollol ddwyieithog ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cadw mewn cysylltiad trwy Twitter

Dilynwch @BookTrustCymru