Cyhoeddiad mawr bawb... Rydyn ni wedi enwi anturiaethwyr Pori Drwy Stori!

Published on: 12 Tachwedd 2019

Ym mis Medi 2019, lansiodd BookTrust Cymru gystadleuaeth i enwi anturiaethwyr Pori Drwy Stori.  Cafodd ddisgyblion dosbarth Derbyn ar draws Cymru wahoddiad i enwi’r anturiaethwyr er mwyn cael y cyfle i ennill llyfrau i’w hysgolion!

The four Pori Drwy Stori explorers

Roedd dosbarthiadau Derbyn o bob cwr o Gymru wedi anfon eu hawgrymiadau ac roedden ni wrth ein boddau yn darllen trwy’ch syniadau a oedd yn ddifyr, yn glyfar ac yn llawn dychymyg. Fe greoch chi gymaint o argraff arnon ni fel ein bod ni wedi penderfynu anfon llyfr am ddim i bob dosbarth gymrodd rhan yn y gystadleuaeth!

Mae enwau anturiaethwyr Pori Drwy Stori erbyn hyn wedi’u dewis ac fe fyddwn yn anfon bocs o lyfrau i bob dosbarth sydd wedi ennill. Rydyn ni’n falch iawn i allu cyhoeddi enwau’r anturiaethwyr a llongyfarch yr ysgolion canlynol ar yr awgrymiadau a ddaeth i’r brig:

Fy enw i yw : Dewr Dafis

Awgrymwyd gan: Ysgol Bryn Garth, Sir Y Fflint
Pori Drwy Stori explorer number 1

'Diolch am ddewis enw sy’n dangos fy mod i ’n ddewr ac yn fentrus!'


Fy enw i yw: Aled Antur

Awgrymwyd gan: Ysgol Gynradd Llangynnwr, Caerfyrddin
Pori Drwy Stori explorer number 2

'Mae fy enw’n llawn antur, fel fi!'

 
Fy enw i yw: Poli Pennill

Awgrymwyd gan: Ysgol Gynradd Gymraeg Ynysywen, Rhondda Cynon Taf
Pori Drwy Stori explorer number 3

'Canu ac odli, dyna dw i’n hoffi'


Fy enw i yw: Rhodri Rhigwm

Awgrymwyd gan: Ysgol Twm o’r Nant, Sir Ddinbych & Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru, Y Trallwng, Powys
Pori Drwy Stori explorer number 4

'Dw i’n dwlu ar rigwm a churo ’nwylo i’r rhythm'

Roedd cystadleuaeth Enwi’r Anturiaethwr wedi’i hamseru er mwyn cydfynd â lansiad Her Rigymu Pori Drwy Stori sydd newydd gael ei diweddaru. Mae’r Her Rigymu yn gwahodd dosbarthiadau Derbyn, athrawon a rhieni/gofalwyr i ymuno ag anturiaethwyr Pori Drwy Stori ar daith drwy rigymau a chaneuon ac mae’n rhan o raglen Pori Drwy Stori ar gyfer y dosbarthiadau derbyn.  Mae’r rhaglen wedi ei llunio a’i chyflwyno gan BookTrust Cymru ac wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Pori Drwy Stori ar gyfer y Derbyn ar gael i bob ysgol a gynhelir ac nid oes rhaid cofrestru.

Pori Drwy Stori ar gyfer plant 4-5 oed

Rhaglen ddwyieithog ar gyfer plant oedran Derbyn â galluoedd amrywiol. Anfonir setiau o adnoddau i ysgolion, ar gyfer eu defnyddio gan yr athro Derbyn yn awyrgylch y dosbarth, ac i’w cymryd adref er mwyn i deuluoedd eu defnyddio gyda’i gilydd.

Dysgu rhagor am Pori Drwy Stori Derbyn a lawrlwytho adnoddau