Her Rigymu

Croeso i’r Her Rigymu, sef rhan o raglen Pori Drwy Stori BookTrust Cymru. Beth am ymuno â ni ar siwrnai drwy rigymau a chaneuon!

Rydyn ni wedi dewis 10 o rigymau difyr ac amrywiol Cymraeg a Saesneg ichi eu mwynhau â’ch dosbarth Derbyn. Gallwch chi ddewis y rhigymau sydd fwyaf addas i’ch dosbarth, dangos eich cynnydd ar y poster Siwrnai Rigymu, gwylio ein fideos cyffrous ar-lein a gwobrwyo’ch dosbarth â’u tystysgrifau Her Rigymu.

Mae’r Her Rigymu wedi’i chynllunio i’w defnyddio yn yr ysgol ac yn y cartref, ac i fachu diddordeb rhieni a gofalwyr.

Pori Drwy Stori school event

Lawrlwytho Canllaw Athrawon Pori Drwy Stori

Lawrlwytho Canllaw Athrawon Pori Drwy Stori

Canllaw Athrawon Her Rigymu Pori Drwy Stori: canllaw syml i Her Rigymu Pori Drwy Stori. Gallwch chi ddysgu mwy am yr hyn y byddwch chi’n ei dderbyn a syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r rhaglen.

Pecyn Cymorth Athrawon yr Her Rigymu

Lawrlwytho Pecyn Cymorth Athrawon yr Her Rigymu

Pecyn cymorth yr Her Rigymu, wedi’i ysgrifennu gydag athrawon i athrawon. Gwybodaeth sy’n dangos pwysigrwydd rhannu rhigymau, gweithgareddau ar gyfer pob rhigwm; cysylltiadau i Fframwaith y Cyfnod Sylfaen, a fersiynau estynedig o nifer o rigymau.

Lawrlwytho Llyfrynnau’r Her Rigymu

Lawrlwytho Llyfrynnau’r Her Rigymu

I blant fynd â nhw adref i’w canlyn. Mae’r llyfrynnau hyn yn cynnwys gwybodaeth i rieni a gofalwyr am yr Her Rigymu, gyda rhigymau, caneuon a cherddi i blant eu dysgu.

Lawrlwytho Poster Siwrnai’r Her Rigymu

Lawrlwytho Poster Siwrnai’r Her Rigymu

I’w ddefnyddio mewn ystafelloedd dosbarth i gofnodi’r rhigymau rydych chi’n eu dysgu bob wythnos.

Lawrlwytho Tystysgrifau’r Her Rigymu

Lawrlwytho Tystysgrifau’r Her Rigymu

I’w rhoi i bob plentyn ar ddiwedd yr Her Rigymu i ddathlu eu cyflawniadau.

Gwylio neu wrando ar rigymau’r Her Rigymu

Gwylio neu wrando ar y rhigymau.

Gallwch chi wylio neu wrando ar rigymau wythnosol yr Her Rigymu yma.