Ymunwch â BookTrust Cymru i ddathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru 2020
Published on: 31 Hydref 2019
Ymunwch â ni am ein hail flwyddyn yn dathlu rhannu rhigymau a chaneuon ar gyfer plant y blynyddoedd cynnar ledled Cymru, o 10 i 14 Chwefror 2020.
Dathliad Cymru-eang o ganeuon a rhigymau ydy Amser Rhigwm Mawr Cymru. Ei nod ydy hybu ac annog gweithgarwch hwyliog a difyr yn rhannu rhigymau ar gyfer plant 0-5 oed yng Nghymru, yn y Gymraeg a'r Saesneg.
I ddathlu'r Amser Rhigwm Mawr Cymru nesaf, rydyn ni'n rhoi dros 20,000 o sticeri a thystysgrifau i ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd yng Nghymru.
I gymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, y cyfan sydd angen ichi ei wneud i dderbyn eich tystysgrifau a'ch sticeri rhad ac am ddim ydy cofrestru a chynllunio rhai gweithgareddau rhannu rhigymau a chaneuon difyr ar gyfer y plant rydych chi'n gweithio â nhw.
Byddwn ni'n darparu syniadau ac ysbrydoliaeth i'ch helpu chi – cadwch eich llygaid yn agored am y wybodaeth ddiweddaraf gennyn ni.
Gall rhannu rhigymau a chaneuon helpu plant i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando ac iaith a rhoi cyfle iddyn nhw achub y blaen pan fyddan nhw'n dechrau dysgu darllen. Gall rhigymu hefyd helpu i feithrin hyder plentyn i siarad, canu a chymryd rhan. Ac mae hefyd yn ffordd wych i gael hwyl!
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
BookTrust Cymru sy’n trefnu Amser Rhigwm Mawr Cymru, fel rhan o’r rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru’n eu hariannu. Mae Cyw, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Mudiad Meithrin, NDNA Cymru, PACEY Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru’n cefnogi dathliadau 2020.
Topics: Rhyme, Welsh language, News, Wales, Big Welsh Rhyme Time