Cyhoeddi teitlau Dechrau Da newydd ar gyfer 2019

Published on: 13 Mai 2019

Cyhoeddi mai Bouncing Babies Helen Oxenbury, Anifeiliad / Animals Debbie Powell, So Cosy Lerryn Korda a Sanau Cadno / Fox’s Socks Julia Donaldson yw teitlau newydd Bookstart Dechrau Da eleni.

Wales Baby and EY packs 2019 Welsh

O fis Mai 2019, bydd pecynnau Babi a Blynyddoedd Cynnar Bookstart Dechrau Da yn mynd allan ledled Cymru, gyda detholiad newydd o lyfrau cyffrous a ddewiswyd gan ein panel o arbenigwyr. Gall pob plentyn yng Nghymru dderbyn y ddau becyn Dechrau Da arbennig hwn cyn eu bod yn dair oed, ac fe’u rhoddir i deuluoedd gan eu hymwelydd iechyd.

Eleni, bydd rhyw 30,000 o fabis yn derbyn y llyfr hardd Bouncing Babies gan Helen Oxenbury fel rhan o’u pecyn Dechrau Da Babi. Fel arfer, bydd teuluoedd yn derbyn y pecyn gan eu hymwelydd iechyd pan fydd eu plentyn yn 6 mis oed.

'Mae darluniau Bouncing Babies wastad yn gwneud i mi wenu, maen nhw mor serchus, ac mae rhywbeth cynnes a chysurlon iawn am y llyfr hwn.’ Donna Hardman, llyfrgelloedd Blaenau Gwent

Illustration from Bouncing Babies by Helen Oxenbury

Ochr yn ochr â Bouncing Babies mae Anifeiliaid / Animals gan Debbie Powell, llyfr dwyieithog sy’n defnyddio darluniau lliwgar, siapiau sgleiniog i ddenu’r llygad a llawer o gyffwrdd a theimlo. Addaswyd Anifeiliaid i’r Gymraeg yn arbennig ar gyfer Dechrau Da.

Yn y cyfamser, bydd So Cosy gan Lerryn Korda yn cael ei gynnwys ymhob pecyn Blynyddoedd Cynnar, sydd fel arfer yn cael ei roi i blant bach yng Nghymru gan ymwelwyr iechyd pan fydd y plant yn 27 mis oed. Llyfr doniol yw So Cosy, gyda darluniau hardd o anifeiliaid, ac mae’n berffaith ar gyfer cwtsho a rhannu cyn cysgu.

Mae Sanau Cadno / Fox's Socks gan Julia Donaldson hefyd wedi’i gynnwys yn y pecyn Blynyddoedd Cynnar. Mae’r llyfr dwyieithog hwn yn llyfr rhyngweithiol codi’r llabed hyfryd, sy’n rhagorol ar gyfer ei rannu rhwng oedolion a phlant. Mae’r darluniau manwl yn annog trafodaeth, wrth i bawb chwilio am y sanau colledig.

Ariennir Bookstart Dechrau Da gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer o adnoddau hwyliog a gwybodaeth ddefnyddiol ar gael yma:

Gwrando ar y straeon hyn yn Gymraeg


Add a comment