Pecynnau Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin

Beth yw Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin?

Mae Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin yn becynnau llyfrau newydd gan BookTrust Cymru, sydd wedi’u cynllunio i wneud darllen yn weithgaredd gwerth chweil, llawn hwyl i’w wneud fel teulu. Mae pecynnau Dechrau Da i Blant Bach wedi’u hanelu at blant 1-2 oed ac mae pecynnau Dechrau Da Meithrin wedi’u hanelu at blant 3-4 oed.

Mae pob pecyn yn cynnwys dau lyfr, ynghyd â gweithgareddau i ddod â’r llyfr yn fyw. Gallwch chi ddod o hyd i fwy o syniadau ar sut i ddefnyddio eich pecyn isod, ynghyd â fersiynau y gellir eu lawrlwytho a’u hargraffu o adnoddau’r pecyn.

Ni fydd pob teulu yn cael pecynnau Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin, ond gall pawb gael gafael ar adnoddau ar-lein BookTrust Cymru am ddim drwy Hyb Teuluoedd Dechrau Da Cymru, sy’n cynnwys gweithgareddau, awgrymiadau ar gyfer llyfrau, cyngor ar ddarllen gyda’ch plentyn a mwy.

Dechrau Da i Blant Bach: defnyddio eich pecyn

  • Mae pob pecyn yn cynnwys y llyfrau Dewi Yn Mynd I’r Parc / Zeki Goes To The Park ac I Ffwrdd  Ni / All Aboard: Train.
  • Pyped bys: Defnyddiwch y pyped i adrodd y stori neu i gael eich plentyn i siarad.
  • Dewi Yn Mynd I'r Parc / Zeki Goes To The Park: Ewch â’r llyfr gyda chi pan fyddwch chi’n mynd allan. Allwch chi weld rhai o’r pethau y mae Dewi a’i fam yn eu gweld ar eu ffordd i’r parc?
  • I Ffwrdd  Ni: Trên / All Aboard: Train: Ydy eich plentyn yn gallu defnyddio’r tabiau gwthio a thynnu wrth i chi ddarllen gyda’ch gilydd?
  • Os ydych chi eisiau clywed rhigwm, rhowch gynnig ar y syniadau yng nghefn eich pecyn.

Cardiau gweithgareddau

Cardiau gweithgareddau

Cardiau gweithgareddau

Dechrau Da Meithrin: defnyddio eich pecyn

  • Mae pob pecyn yn cynnwys y llyfrau Dwmbwr Dambar / Rumble Tumble ac Y Deinosor Bach Yma / This Little Dinosaur.
  • Bydd eich plentyn wrth ei fodd yn lliwio’i benwisg â’r creonau. Gall wisgo’r benwisg wrth i chi rannu’r straeon gyda’ch gilydd a dod yn Ddarllenwr Rhyfeddol
  • Dwmbwr Dambar / Rumble Tumble: Sawl anifail gwahanol sy’n cwympo i lawr gydag Arth? Gofynnwch i’ch plentyn gyfrif gyda chi.
  • Y Deinosor Bach Yma / This Little Dinosaur: Anogwch eich plentyn i sylwi ar yr hyn mae’r deinosoriaid gwahanol yn ei wneud a’i actio allan wrth i chi ddarllen gyda’ch gilydd. Allwch chi guro’ch traed a stompio neu ddisgyn, codi a rhuo fel deinosor?
  • Rhowch gynnig ar y gweithgaredd Parau yng nghefn y pecyn -allwch chi enw’r anifeiliaid hefyd?

Cardiau gweithgareddau

Cardiau gweithgareddau

Cardiau gweithgareddau

Bag fy Mabi yng Nghymru

Rhigymau, fideos ac awgrymiadau llyfrau i'ch helpu i barhau i rannu straeon a rhigymau gyda'ch babi ar bob cam.

Bag fy Mabi yng Nghymru

Straeon, rhigymau, awgrymiadau a mwy...

Yn teimlo’n greadigol?

Pethau sy’n hwyl i’w gwneud

Lawrlwytho ein dalenni crefftau a lliwio dwyieithog.

Mae’n amser stori

Gwrando ar straeon Dechrau Da

Cwtsio â’ch plentyn a mwynhau gwrando ar stori gyda’ch gilydd yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Rhannu rhigwm

Caneuon a rhigymau

Cael hwyl yn rhannu rhigymau â’ch plentyn. Cydganu â’r rhigymau sain neu lawrlwytho ein dalenni rhigymau.

Amser Gartref BookTrust Cymru

Dysgu rhagor

Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.

Eich llyfrgell leol

Amser Stori a Amser Rhigwm

Mae llawer o lyfrgelloedd yng Nghymru’n cynnal eu sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm Dechrau Da eu hunain. Cael gwybod mwy am beth y mae’ch llyfrgell leol yn gallu ei gynnig i chi.

Darllen gyda’ch plentyn

Awgrymiadau a chyngor

Darllen ein hawgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut i fwynhau llyfrau â’ch plentyn, a gwneud yn fawr o’ch amseroedd stori â’ch gilydd.

Bag Fy Mynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Fideos, gweithgareddau, awgrymiadau am lyfrau a mwy i’ch cefnogi i rannu straeon.

Bag Fy Mynyddoedd Cynnar yng Nghymru 

Mwy o BookTrust Cymru

BookTrust Cymru

Cael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru.

Derbyn y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am raglenni ac ymgyrchoedd BookTrust Cymru yng Nghymru.

Cadw mewn cysylltiad trwy Twitter

Dilynwch @BookTrustCymru

Gweithio gyda meithrinfeydd ac ysgolion

Pori Drwy Stori

Cael gwybod mwy am ein rhaglen ddwyieithog gyffrous ar gyfer plant rhwng 3 a 5 oed.