Mwynhewch rannu rhigymau

Mae babanod a phlant ifanc wrth eu boddau â chaneuon a rhigymau. Peidiwch â phoeni os ydych chi’n gallu canu neu beidio; mae’ch plentyn wrth ei fodd yn clywed eich llais.

Mae canu rhigymau a chaneuon â’ch gilydd yn hwyl fawr ond mae hefyd yn gallu chwarae rhan bwysig mewn datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu’ch plentyn. Wrth ichi ganu a rhannu rhigymau â’ch gilydd, mae’ch plentyn yn dod yn fwy cyfarwydd â rhythmau, synau a geiriau.

Mae rhannu rhigymau hefyd yn ffordd wych i feithrin perthynas gariadus â’ch plentyn. Yn ogystal â mwynhau’r rhythm a’r ailadrodd yn y rhigymau, maen nhw wrth eu boddau’n cael bod yn agos atoch chi ac fe fydd clywed eich llais yn eu cysuro a’u tawelu.

Does yna ddim ffordd gywir na ffordd anghywir o rannu caneuon a rhigymau; y peth pwysicaf oll ydy’ch bod chi’n cael hwyl!

I’ch rhoi ar ben ffordd, beth am wrando ar ein rhigymau sain? Mae gennon ni hefyd amrywiaeth wych o ddalenni rhigymau â darluniau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, y gallwch chi eu lawrlwytho, eu hargraffu a mynd â nhw i’ch canlyn i le bynnag y byddwch chi’n mynd.

Gwrando ar rigymau Dechrau Da yn y Gymraeg

Gwrando ar rigymau Bookstart yn y Saesneg

Dalenni rhigymau i’w lawrlwytho

Gwrando ar straeon Dechrau Da

Gwrando ar ein llyfrau

Rydym ni wedi recordio rhai o’n storïau Dechrau Da yn Gymraeg a Saesneg er mwyn i chi allu’u mwynhau gyda’ch gilydd. Cliciwch ar yr arwyddion chwarae ac ymlaciwch i fwynhau amser stori arbennig iawn.