Bag Fy Mynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Helo a chroeso oddi wrth BookTrust Cymru. Rydyn ni eisiau i bob plentyn a’u teulu allu mwynhau rhannu straeon gyda’i gilydd.

Gobeithio eich bod chi’n cael hwyl gyda’r llyfrau stori sydd yn eich Bag Blynyddoedd Cynnar. Yma, fe welwch chi fideos, gweithgareddau, awgrymiadau am lyfrau a mwy i’ch cefnogi i rannu straeon.

Ymweld â’r Llyfrgell

Mae’r Bag Blynyddoedd Cynnar yn faint perffaith er mwyn i’ch plentyn fynd ag ef i’r llyfrgell a dod o hyd i ragor o lyfrau cyffrous. Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol a beth sydd ganddynt i’w gynnig, gan gynnwys amser rhigwm ac amser stori, yma.

Straeon a Gweithgareddau

Sawl Bwci Bo?

Taflenni lliwio Bwci Bo

Taflenni lliwio Bwci Bo

Lawrlwytho nawr

Helpwch Bwci Bo i gyrraedd y lolipops

Dysgu mwy am eich llyfrau newydd

Sawl Bwci Bo?

Awdur / Darlunydd: Joanna Davies a Steven Goldstone

Ewch ati i gyfri i ddeg ac yna yn ôl gyda’r bwystfilod Bwci Bo drygionus, mewn antur rhifo newydd.

 

 

 

Bunnies on the Bus

Awdur: Philip Ardagh Darlunydd: Ben Mantle

Mae’r bwnis wedi meddiannu’r bws ac maen nhw ar reid wyllt ar hyd strydoedd Sunnytown! Maen nhw’n sgrialu heibio’r arosfan bws, yn tasgu rownd corneli ac yn hedfan ar draws croesfannau ar antur chwyrligwgan ddi-stop!