Llyfrau i’w mwynhau gyda’ch gilydd

Mae rhannu straeon gyda phlant bach yn helpu’u datblygiad.

Bydd plant sy’n darllen yn rheolaidd yn fwy tebygol o wneud yn well yn yr ysgol.

Dyma rai o’n hoff lyfrau ni i’w rhannu gyda phlant 2–3 mlwydd oed.

 

Pob un bwni’n dawnsio! gan Ellie Sandall

Wrth i grŵp o gwningod doniol ddawnsio,
canu, creu cerddoriaeth a chael peth
wmbredd o hwyl, mae yna lwynog yn eu
gwylio o bell. Mae'r llyfr hwn sy'n odli yn ddifyr ac mae yna ddarluniadau hyfryd ynddo.

 

Snip Snap Gan Ben Newman

Stori wych am granc digywilydd a chrocodeil sydd ar berwyl drwg – gyda thudalennau wedi’u siapio i’w troi a llawer o eiriau swnllyd i’w rhannu.

 

 

 

Broga’n Mynd ar Wyliau gan Carly Gledhill

Gallwch chi ddilyn Broga ar ei deithiau. Gyda thudalennau wedi’u siapio, wedi’u plygu a thyllau i sbecian drwyddyn nhw. Beth fydd hanes Broga yn y diwedd?

 

 

 

Tedi Amser Gwely gan Ian Whybrow a Axel Scheffler

Mae gan Bear antur yn dychwelyd i Tom ar gyfer amser gwely. Llyfr rhyming hyfryd gyda cyfrinachau arbennig sydd wedi’u cuddio ar y dudalen.