Mae BookTrust Cymru’n cefnogi miloedd o blant meithrin yng Nghymru i ddatblygu sgiliau iaith a llafaredd cynnar

Published on: 6 Mehefin 2018

Bydd miloedd o blant 3-4 oed yn cymryd rhan mewn rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella sgiliau iaith a chyfathrebu gartref ac yn y feithrinfa, gan ganolbwyntio ar rannu rhigymau a siarad am lyfrau a’u mwynhau.

Oracy Welsh language resources

Bydd y rhaglen yn adeiladu ar raglen hynod lwyddiannus Pori Drwy Stori, sy’n cefnogi ymwneud teuluoedd mewn dysgu, cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r cartref a datblygu llythrennedd a rhifedd holl blant y Derbyn yng Nghymru. 

Bydd rhaglen Newydd Pori Drwy Stori Meithrin ar gael i ryw un o bob tri phlentyn 3-4 oed yng Nghymru, a bydd yn cael ei darparu mewn ystod o leoliadau meithrin. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi sgiliau iaith drwy rannu rhigymau a rhannu llyfrau mewn dull sy’n hybu siarad, cyfathrebu a mwynhau.

Bydd y rhaglen hefyd yn cefnogi rhieni a gofalwyr i chwarae rhan fyw yn addysg eu plant, ac i ddatblygu awyrgylch ddysgu gadarnhaol yn y cartref.

Bydd pob plentyn sy’n cymryd rhan yn derbyn set arbennig o adnoddau rhigwm ac adnoddau darllen, pob un wedi’u cynllunio i gael eu defnyddio dros ryw hanner tymor, ac i’w defnyddio yn y feithrinfa a’r cartref.

Cafodd y rhaglen ei threialu’n llwyddiannus yn 2017-18 gyda rhyw 600 o deuluoedd.

‘Mae’r profiad fel rhiant o gael y rhaglen hon i fy helpu i arwain a datblygu fy mhlentyn wedi bod yn un cadarnhaol a fydd, fe wn, o fudd iddo’ Rhiant a gymerodd ran yn y peilot
‘Yn bersonol, hoffwn ddiolch i BookTrust am gyflwyno ffordd mor wych o ddysgu a chwarae gyda fy mhlentyn.’ Rhiant a gymerodd ran yn y peilot

 Mae’r rhaglen yn cefnogi ymgyrch Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae yng Nghymru.