Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru ar y Ffordd

Published on: 25 Hydref 2018 Author: BookTrust Cymru

Cyn bo hir bydd ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar ymhob cwr o Gymru’n dathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru.

Cow jumped over the moon illustration

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru’n digwydd o ddydd Llun 26 tan ddydd Gwener 30 Tachwedd.

Byddwn ni’n treulio’r wythnos yn dathlu rhigymau a chaneuon a’r holl fanteision y maen nhw’n eu rhoi i blant.

Dysgwch ragor am Amser Rhigwm Mawr Cymru – gwrandewch ar rigymau yn Gymraeg a Saesneg, mynnwch gyngor ar rannu rhigymau a lawrlwythwch eich tystysgrifau.

Gall rhannu rhigymau a chaneuon helpu plant i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu hanfodol, a gall roi cyfle i blant achub y blaen pan fydd hi’n amser iddyn nhw ddechrau darllen. Gall rhannu rhigymau helpu plant i ddod yn wrandawyr da, ac i godi’u hyder i ymuno, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu sgiliau gwrando a chanolbwyntio a dysgu geirfa ardderchog.

Yn fwyaf pwysig, mae rhannu rhigymau a chaneuon yn hwyl, yn hawdd, a gellir ei wneud ymhobman!

Nursery rhyme characters for the Big Welsh Rhyme Time

Drwy gydol yr wythnos, bydd sesiynau Amser Rhigwm Mawr Cymru’n digwydd ledled Cymru. Byddwn ni’n rhannu 20,000 o sticeri a thystysgrifau a gynlluniwyd yn arbennig i blant a fydd yn cymryd rhan ac yn rhannu rhigymau a chaneuon yn ystod y dathliadau.

Byddwn ni hefyd yn rhannu llawer o syniadau a gwybodaeth am sut i gael hwyl gyda rhigymau a chaneuon, gan gynnwys cynghorion i deuluoedd.

Os ydych chi’n ymarferydd yng Nghymru ac eisiau cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, gallwch archebu sticeri a thystysgrifau yma:

Fersiwn Saesneg

Fersiwn Gymraeg

Ni allwn roi sicrwydd i chi y bydd eich adnoddau’n cyrraedd cyn 26 Tachwedd 2018.

Topics: Rhyme, News, Wales

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Ymunwch gyda ni ar gyfer dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Hwyl rhigymu i bawb!

Dysgu rhagor