Mae BookTrust yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru i weld bod ‘Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae’

Published on: 6 Mai 2018

Mae BookTrust Cymru’n ymuno ag ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n annog rhieni a gofalwyr i roi amser i siarad, gwrando a chwarae gyda’u plant er mwyn helpu datblygiad iaith a sgiliau cyfathrebu’u plentyn.

Boy and dad reading lying down

Bydd ymgyrch ‘Mae Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae’ yn darparu cynghorion ymarferol i rieni a gofalwyr i helpu’u plant rhwng 3 a 7 oed wella’u sgiliau iaith a pharatoi ar gyfer yr ysgol.

Dengys ymchwil fod gan blant sy’n derbyn y sylw hwn fwy o gapasiti ar gyfer iaith, ac yn ddiweddarach, lythrennedd, gan hybu’u sgiliau cyfathrebo a’u cyfle o lwyddiant yn eu bywyd yn ddiweddarach.

Mae fideos hwyliog Mae Amser ar gael i gefnogi’r ymgyrch. Gall teuluoedd lawrlwytho llyfryn Mae Amser arbennig, sy’n cynnwys rhigwm Mae Amser arbennig a ddarllenir gan y bardd Anni Llŷn.


Mae ymgyrch Mae Amser yn rhan o ddull ehangach gan Lywodraeth Cymru o geisio gwella sgiliau iaith dysgwyr ac mae’n cefnogi menter Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref.


Mae BookTrust Cymru’n cefnogi’r ymgyrch a bu’n datblygu gweithgareddau newydd i gefnogi plant a theuluoedd i fyw neges Mae ’na Amser. Mae hyn yn cynnwys adnoddau ychwanegol yn ein pecynnau Dechrau Da, sy’n annog holl deuluoedd Cymru i ddechrau siarad a rhannu llyfrau, straeon a rhigymau o oedran cynnar iawn. [Link to Bookstart in Wales Welsh pages: https://www.booktrust.org.uk/cy-gb/supporting-you/families/our-programmes/bookstart/bookstart-in-wales/]

Rydym ni hefyd yn datblygu rhaglen arbennig newydd, gan ymestyn ein rhaglen Pori Drwy Stori Derbyn ar gyfer plant Meithrin (3-4 oed). [Link to https://www.poridrwystori.org.uk/cy/]

Meddai Helen Wales, Pennaeth Gwlad BookTrust:


'Mae Pori Drwy Stori yn rhoi cyfle i’ch plentyn fagu hyder gyda geiriau mewn ffordd hwyliog, Mae ein heriau’n helpu plant i ddysgu ac adrodd rhigymau neu farddoniaeth mewn ffordd sy’n llawn sbort, tra bo’r cylchgrawn a gynhyrchir gennym yn annog plant i siarad, gwrando a gwneud penderfyniadau.'


'Bwriad Pori Drwy Stori yw gwneud dysgu’n hwyl a rhoi syniadau i rieni a gofalwyr am sut y gallan nhw gefnogi’u plant i siarad a dysgu. Mae’r adnoddau’n helpu plant a theuluoedd i gael hwyl wrth ddysgu rhigymau, i rannu llyfrau a straeon, ac i chwarae gemau rhif. Mae’r adnoddau’n annog plant i siarad, gwrando a gwneud penderfyniadau gan adeiladu ar ein rhaglen hir-sefydledig, Dechrau Da, sy’n annog teuluoedd i ddechrau siarad a rhannu llyfrau, straeon a rhigymau o oedran cynnar iawn.'

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch ewch i wefan Llywodraeth Cymru