Anrheg fendigedig i blant
Published on: 11 Ionawr 2019 Author: Jan Mills
Jan Mills, ymgynghorydd addysg a chyn-Arweinydd Swyddog Cyfnod Sylfaen ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, yn esbonio pam ei bod hi’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â’n rhaglen Feithrin newydd yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei lansio ddydd Llun 14eg Ionawr.
Mae’r amser wedi dod i lansio Rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori a gallwn i ddim teimlo’n fwy cyffrous! Dwi wedi cael y fraint, fel ymgynghorydd annibynnol, o siarad ag ymarferwyr Meithrin, rhieni a gofalwyr ynglŷn â’u defnydd o’r adnoddau yn ystod cyfnod peilot y rhaglen, a dwi wedi fy syfrdanu gan eu hymatebion cadarnhaol ac o glywed eu straeon a’u hanesion am ba mor dda y mae’r plant wedi ymateb.
Gwych! Dyna farn y rhieni a’r gofalwyr!
Gwnaeth y Mamau a’r Tadau’n sôn am frwdfrydedd eu plant i gymryd rhan yn y rhigymau a’r caneuon ac i gael hwyl â’r gweithgareddau difyr yn ‘Mae’n amser rhigwm’, a hefyd am gyffro’u plant wrth iddyn nhw ddod â chopi eu hunain adre o’r llyfrau yn ‘Sôn am Lyfr’.
Roedd llawer o’r rhieni wedi synnu at ba mor gyflym roedd eu plant wedi dysgu’r rhigymau, gan nodi eu bod wedi gallu eu cynnwys nhw’n hawdd yn nhrefn ddyddiol arferol y cartref neu wrth godi allan. Yn anad dim, roedd y rhieni’n nodi cymaint roedd eu plant wedi mwynhau ac wedi cael hwyl â’r rhigymau, gan ddweud bod cymryd rhan yn y rhaglen nid yn unig wedi cynyddu gwybodaeth eu plant o’r rhigymau ond hefyd eu gwybodaeth nhw eu hunain.
Roedd y llyfrau yn ‘Sôn am Lyfr’ yn ddifyr ac yn hwyl i’r plant, gyda’r rhieni / gofalwyr yn nodi bod eu plentyn eisiau iddyn nhw eu darllen ‘eto ac eto’. Roedd bod yn gyfarwydd â’r llyfrau fel hyn yn cynyddu pleser eu plant yn y straeon, ac yn eu galluogi nhw i ‘ymuno â phethau’, yn enwedig os oedd yna rigwm yn y llyfrau. Roedden nhw’n siarad am y lluniau, yn rhagweld beth oedd am ddod nesaf, yn siarad am y cymeriadau yn y straeon a hyd yn oed yn codi ambell air Cymraeg o’r llyfr dwyieithog. Roedd y gweithgareddau a awgrymwyd yn annog gweithgareddau difyr ynglŷn â’r stori, a nododd rhieni / gofalwyr fod hyn hefyd wedi arwain at ddarllen y llyfrau’n amlach ac ar wahanol adegau yn ystod y dydd.
Roedd y profiad roedd y plant a’r teuluoedd yn ei rannu, â phawb yn cymryd rhan yn y rhaglen ar yr un pryd, wedi creu cyffro ymysg y rhieni / gofalwyr ar amser gollwng a chasglu eu plant, gyda theuluoedd yn defnyddio cyfrwng cymdeithasol dewisedig y Feithrinfa i wneud sylw ar y gweithgareddau roedden nhw wedi rhoi cynnig arnyn nhw â’u plant yn y cartref. Mae’n debyg bod hyn wedi cael rhyw effaith arall anuniongyrchol, gyda ffotograffau neu eitemau roedd y plant wedi’u gwneud gartref yn cael eu hanfon i’w harddangos yn y lleoliad. Roedd hyn yn ei dro wedi annog rhieni a gofalwyr eraill i ‘roi cynnig arni’ a daeth yn amlwg po fwyaf o hwyl roedd y plant a’r teuluoedd yn ei chael â’r adnoddau, mwyaf awyddus oedd pawb i gymryd rhan.
Ymarferwyr yn rhoi golau gwyrdd!
Roedd athrawon ac ymarferwyr yn gwerthfawrogi’r ffaith bod ffocws dysgu’r rhaglen yn ymwneud â llafaredd, gan annog sgiliau siarad a gwrando’r plant. Roedden nhw hefyd yn nodi pwysigrwydd yr adnoddau wrth gefnogi a chryfhau cysylltiadau rhwng y cartref a’r Feithrinfa.
Soniwyd hefyd am y cynnydd yng ngwybodaeth y plant o rigymau, y cysyniadau’n ymwneud â rhigymu a chynnydd yn hyder y plant i ymuno mewn rhigymau a straeon. Roedden nhw o’r farn bod cymryd rhan yn y cynllun peilot wedi annog plant i siarad mwy am lyfrau, yn enwedig y llyfrau ‘Sôn am Lyfr’ ac, i rai o’r plant mwy cyndyn, roedd bod yn gyfarwydd â’r llyfrau wedi cynyddu’u diddordeb a’u hawydd i wrando ac i dalu sylw. Dywedodd rhai ymarferwyr, 'Daeth y llyfrau i fod y rhai a oedd yn cael eu defnyddio fwyaf yn y lleoliad!'
Croesawodd yr ymarferwyr y rhaglen gan eu bod o’r farn ei bod yn atgyfnerthu’r blaenoriaethau sydd ohoni o ran llafaredd, yn gweddu’n dda i ofynion y Cyfnod Sylfaen ac yn cefnogi arfer da yn llwyddiannus, yn enwedig mewn perthynas ag ymgysylltiad rhieni.
Am anrheg!
Fel arbenigwraig Blynyddoedd Cynnar, dwi’n teimlo’n gryf iawn ynglŷn â defnyddio rhigymau fel ffordd hawdd a difyr o feithrin sgiliau iaith plant. Mae rhigymau’n gallu helpu i ddatblygu cof, i gyflwyno geirfa newydd a rhythm a phatrymau iaith; maen nhw’n cynnig cyfle i ddod i gysylltiad â synau ac yn datblygu sgiliau gwrando sydd, yn ei dro, yn helpu plant i fagu hyder i ddefnyddio iaith. Heb anghofio’r hwyl sydd i’w gael gyda rhigymau rhifau a chyfrif!
Dwi hefyd yn gwerthfawrogi rôl y teulu ac yn gwybod pa mor bwysig ydy hi i gefnogi ac annog rhieni / gofalwyr yn y rôl bositif y maen nhw’n gallu’i chwarae wrth i’w plant ddysgu.
Mae rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori yn anrheg fendigedig i blant, teuluoedd ac ymarferwyr, gan ysbrydoli plant i ddatblygu cariad at lyfrau, straeon a rhigymau.
... Felly nawr fe allwch chi weld pam fy mod i’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â lansio’r rhaglen hon!
Mae Jan Mills yn arbenigwraig y Blynyddoedd Cynnar ac yn ymgynghorydd addysg annibynnol. Roedd hi’n Gynghorydd Cyfnod Sylfaen ar gyfer Abertawe ac mae wedi bod â chysylltiad â rhaglen Pori Drwy Stori am flynyddoedd lawer. Yn 2018, bu’n gwerthuso cynllun peilot y rhaglen Feithrin newydd.
I gael gwybod mwy ewch i Pori Drwy Stori neu dilynwch ni ar @BookTrustCymru
Topics: Pori Drwy Stori, Welsh language, Features, Wales