Sôn am Lyfr
Defnyddiwch adnoddau Sôn am Lyfr rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Mehefin. Octopws Sioctopws gan Peter Bentley a Steven Lenton, addasiad gan Aneirin Karadog ydy’r llyfr sydd wedi’i ddewis ar gyfer Sôn am Lyfr eleni. Byddwch chi’n derbyn copi dwyieithog o’r llyfr a set o adnoddau rhyngweithiol, o ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i gofrestru i gymryd rhan yn rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori.
Trefnwch a defnyddiwch yr adnoddau yn y ffordd sydd fwyaf addas i’ch ysgol neu’ch lleoliad chi. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n lledaenu’r gweithgareddau dros nifer o wythnosau. Defnyddiwch y Canllaw i Ymarferwyr ar-lein a’r llythyr sydd wedi’i gynnwys yn eich parsel i’ch helpu i gynllunio sut a phryd y byddwch chi’n defnyddio’r gweithgareddau hyn.
Aneirin Karadog yn darllen Octopws Sioctopws
Rhannu gwybodaeth ac ennyn cyffro
Poster Sôn am Lyfr
Poster A3 i’ch helpu i rannu gwybodaeth â rhieni a gofalwyr.
Gweithgaredd Beth ydw i?
Beth ydw i?
Gweithgaredd difyr i blant i helpu i ennyn cyffro cyn ichi anfon y llyfr a’r adnoddau adref iddyn nhw.
Ennyn cyffro
Cardiau rhwydweithiau cymdeithasol
Delweddau i’w rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol neu blatfform y lleoliad neu’r ysgol yn ystod yr wythnos cyn i chi rannu’r llyfr gyda’r plant.
Cyflwyno Sôn am Lyfr
Cyflwyno Sôn am Lyfr i deuluoedd
Taflen i gyflwyno Sôn am Lyfr i deuluoedd, gyda rhai syniadau a chynghorion defnyddiol.
Canllaw ymarferydd
Canllaw’r Ymarferydd
Sut i fanteisio’n llawn ar Raglen Feithrin Pori Drwy Stori: argymhellion allweddol, syniadau ac enghreifftiau o arferion da.
Cerdyn Cwestiwn
Cerdyn Cwestiwn Sôn am Lyfr
I’ch helpu i fwynhau Octopws Sioctopws gyda’ch gilydd. Dalen liwgar i helpu rhieni a gofalwyr i fwynhau darllen gyda’u plant, siarad am y llyfr a gofyn cwestiynau.
Dalen Weithgareddau
Gweithgaredd Gwisgo’r octopws
Gweithgaredd difyr sy’n ymwneud ag Octopws Sioctopws i annog rhieni i chwarae, siarad a chael hwyl gyda’u plentyn.
Dalen weithgareddau
Gweithgaredd Pypedau bys
Gweithgaredd i’w ddefnyddio gydag Octopws Sioctopws cyn, yn ystod ac ar ôl darllen y llyfr i annog rhieni a gofalwyr i siarad, chwarae a chael hwyl gyda’u plentyn.
Cerdyn Post Adborth
Cerdyn post adborth
Cerdyn post adborth difyr i helpu i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol / lleoliad ac i annog llais y disgybl.
Cardiau Heriau
Heriau difyr
Tri cherdyn her i blant eu cwblhau gartref er mwyn eu hannog i ddal ati i ddarllen a rhannu llyfrau, ac i helpu i gynnal cysylltiad cryf rhwng yr ysgol / lleoliad a’r cartref.