Rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori

Mae Pori Drwy Stori yn ysbrydoli cariad at lyfrau, storïau a rhigymau ac yn cynorthwyo plant i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando a rhifedd. Mae eich plentyn yn cymryd rhan yn y rhaglen Pori Drwy Stori newydd ar gyfer plant y Meithrin.


Caiff Pori Drwy Stori ei gyflawni gan BookTrust Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Pan fydd eich plentyn yn y Derbyn, byddwch chi hefyd yn derbyn adnoddau Pori Drwy Stori hwyliog, rhad ac am ddim i’w rhannu a’u mwynhau drwy gydol y flwyddyn oddi wrth ysgol eich plentyn.

Archwilio

Cyflwyniad rhieni a gofalwyr

Cyflwyniad rhieni a gofalwyr

Er mwyn cyflwyno rhaglen Feithrin Pori Drwy Stori i deuluoedd. Rhannwch gyda theuluoedd wrth i chi eu hannog i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhaglen gartref.

Rhaglen Feithrin Canllaw’r Ymarferydd

Canllaw’r Ymarferydd

Sut i fanteisio’n llawn ar Raglen Feithrin Pori Drwy Stori: argymhellion allweddol, syniadau ac enghreifftiau o arferion da.

Sôn am Lyfr

Sôn am Lyfr

Dod o hyd i holl weithgareddau ac adnoddau Sôn am Lyfr.

Mae’n amser rhigwm!

Mae’n amser rhigwm!

Chwiliwch am yr holl rigymau a gweithgareddau...

Gwrando ar y rhigymau

Gwylio neu wrando ar y rhigymau

Gallwch wylio rhigymau calendr ‘Mae’n Amser Rhigwm!’ neu wrando arnyn nhw yma.

Gwrando ar ragor o straeon yn Gymraeg

Gwerthusiad

Gwerthusiad rhaglen Feithrin (llafaredd) Pori Drwy Stori 2018-19

Negeseuon allweddol o’r gwerthusiad annibynnol o Raglen Feithrin (llafaredd) Pori Drwy Stori yng nghyd-destun prif nodau’r rhaglen:

  • Gwella deilliannau cysylltiedig â llafaredd i blant;  
  • Cynyddu ymgysylltiad rhieni/ gofalwyr â dysg eu plentyn, yn benodol o ran gweithgareddau sy’n cefnogi deilliannau llafaredd; a
  • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sut y gallan nhw wella deilliannau llafaredd i blant, a’r arfer sy’n gysylltiedig â hyn, yn enwedig trwy ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.

Crynodeb Gweithredol o Werthusiad Rhaglen Feithrin (llafaredd) Pori Drwy Stori 2018-19

Negeseuon Allweddol o Werthusiad Rhaglen Feithrin (llafaredd) Pori Drwy Stori 2018-19

Pori Drwy Stori ar gyfer plant 4-5 oed

Rhaglen ddwyieithog ar gyfer plant oedran Derbyn â galluoedd amrywiol. Anfonir setiau o adnoddau i ysgolion, ar gyfer eu defnyddio gan yr athro Derbyn yn awyrgylch y dosbarth, ac i’w cymryd adref er mwyn i deuluoedd eu defnyddio gyda’i gilydd.

Dysgu rhagor am Pori Drwy Stori Derbyn a lawrlwytho adnoddau

Efallai yr hoffech chi hefyd

BookTrust yng Nghymru

BookTrust Cymru

Mae ein gwaith yn cefnogi pob teulu yng Nghymru o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn hyd at ddiwedd eu blwyddyn Derbyn yn yr ysgol, gan ddechrau drwy roi anrheg o ddau lyfr BookTrust yn y pecyn Dechrau Da Babi.

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0-5 oed yng Nghymru?

Cofrestru...

Wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau,adnoddau a hyfforddiant ar gyfery marferwyr ac athrawon

Canfyddwr Llyfrau

Dod o hyd i’ch llyfr nesaf

Eisiau dod o hyd i lyfrau sy’n ddifyr, yn addas i oedran ac yn llawn hwyl? Rhowch gynnig ar ein Canfyddwr Llyfrau penigamp.