Gwylio neu wrando ar y rhigymau

Gobeithio eich bod chi’n mwynhau canu’r rhigymau gyda’ch plant. Gallwch wylio rhigymau calendr ‘Mae’n Amser Rhigwm!’ neu wrando arnyn nhw yma. Rydym ni wedi’u grwpio yn ôl eu thema wythnosol.

Wythnos 1 Rhigymau rhif

Mae rhigymau rhif yn ffordd wych o ddysgu rhifo. Mae’r ailadrodd yn hwyl ac mae’n helpu plant i ddysgu’r geiriau.

Wythnos 2 Rhigymau gweithredu

Gall gwneud symudiadau helpu plant i gofio’r geiriau ac ymuno yn y rhigymau.

Wythnos 3 Rhigymau anifeiliaid

Mae rhigymau anifeiliaid yn aml yn cynnwys synau anifeiliaid hwyliog y bydd plant wrth eu boddau’n eu gwneud.

Wythnos 4 Hwiangerddi

Mae’r rhigymau hyn wedi bod gyda ni ers cenedlaethau. Maen nhw’n aml yn defnyddio geiriau sy’n llai cyfarwydd yn ein hiaith bob dydd, ac maen nhw’n gyswllt â’r gorffennol.

Wythnos 5 Rhigymau drwy’r dydd

Dywedwch y rhigymau bach hyn ar adegau gwahanol o’r dydd. Gwnewch nhw’n rhan o’ch trefn arferol.