Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru’n dod â hwyl rhigymu dwyieithog i blant yng Nghymru

Published on: 5 Chwefror 2024

Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno ag Amser Rhigwm Mawr Cymru 2024

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru – sydd bellach yn ei chweched flwyddyn – yn ddathliad wythnos o hyd ar gyfer rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon dwyieithog gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar. Yn ystod yr wythnos hon, bydd BookTrust Cymru’n gwahodd teuluoedd o bob cwr o Gymru i brofi sut y mae modd cynnwys rhigymu a rhannu straeon yn ddwyieithog i mewn i fywyd bob dydd, a pha mor fuddiol y gall hyn fod i ddatblygiad plant.

O ddydd Llun 5 Chwefror – Gwener 9 Chwefror 2024, bydd dros 500 o leoliadau ar draws Cymru’n cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, a ddatblygir gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ymysg y lleoliadau sy’n cymryd rhan mae meithrinfeydd, ysgolion cynradd, canolfannau plant a theuluoedd, llyfrgelloedd, gofalwyr plant, grwpiau cymunedol ac elusennau.

I gefnogi dathliad eleni, mae cyn-Fardd Plant Cymru Casia Wiliam wedi cyhoeddi cerdd a gyfansoddwyd yn arbennig, “Trysorau Bychan”, a ysbrydolwyd gan gariad ei phlant ei hun at gasglu pethau maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw tu fas. Mae’r gerdd ar gael, ynghyd ag adnoddau, ar wefan BookTrust Cymru y gall ysgolion, meithrinfeydd a theuluoedd eu defnyddio i’w hysbrydoli i rannu rhigymau, cerddi a chaneuon dwyieithog gyda’i gilydd. Mae adnoddau eleni hefyd yn cynnwys cân ddwyieithog ar thema’r fferm gan y cerddorion Babis Bach Babies a stori odli ddwyieithog gan y storïwr Tamar Eluned Williams – y ddau beth wedi’u creu’n benodol ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru. 

Gall teuluoedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar gymryd rhan yn eu hwyl rhigymu’i hunain gartref gan ddefnyddio fideos ac adnoddau i’w lawrlwytho neu @BookTrustCymru ar X (Twitter gynt) a Facebook, ac fe’u hanogir i rannu’u profiadau rhigymu’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol.   

Yn ôl Phil Savery, Rheolwr Ymgysylltu Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru: 

"Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ôl! Diolch i Lywodraeth Cymru a’n rhwydwaith o bartneriaid, bydd miloedd o blant ledled y wlad yn profi manteision rhannu rhigymau, straeon a chaneuon ar lafar yr wythnos hon.

"Mae ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn gwybod pa mor werthfawr yw hyn i sgiliau cyfathrebu, iaith a darllen plant, ac mae hefyd yn gyfle gwych i deuluoedd gael profiad uniongyrchol o sut mae rhannu rhigymau dwyieithog gyda’i gilydd yn ffordd gyflym, hawdd a fforddiadwy o gael hwyl gyda’n gilydd.

"Mae amser o hyd i gymryd rhan a dangos i ni sut mae eich plant yn ymdopi â rhigymau ac odlau. P’un a ydych chi’n darllen cerdd gyda’ch gilydd gartref neu’n cymryd rhan fel grŵp, gallwch rannu eich dathliadau Amser Rhigwm Mawr Cymru gan ddefnyddio’r hashnod #HwylYRhigwmIBawb.” 

Meddai Casia Wiliam, bardd a chyn-Fardd Plant Cymru: 

"Mae BookTrust Cymru’n gwneud cymaint o waith da ac yn creu adnoddau mor wych. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn i gael cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru eleni a chreu adnodd newydd a fydd yn ysbrydoli plant ifanc ac yn eu cyflwyno i lawenydd odli. Mae fy mhlant byth a hefyd yn casglu pethau pan fyddwn ni allan, a'u hoffter o gasglu 'trysor' a ysbrydolodd fy ngherdd  “Trysorau Bychan”. Dwi’n gobeithio y bydd plant ledled Cymru’n ei mwynhau, ac y bydd yn peri iddyn nhw fod eisiau mynd allan i gael antur!"

I ddysgu mwy, ewch i wefan BookTrust Cymru neu dilynwch ni ar X a Facebook @BookTrustCymru

Lawrlwytho’r datganiad i’r wasg

AmserGartref BookTrust Cymru

Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.

Dysgu rhagor