Mae gan rigymau a hwiangerddi Cymraeg hanes cyfoethog a lliwgar
Published on: 19 Tachwedd 2018 Author: Siwan Rosser, from the Ysgol y Gymraeg/School of Welsh, Prifysgol Caerdydd/Cardiff University
O benillion 700 mlwydd oed a gyfansoddwyd gan fynachod i bwdin ac eliffantod pinc, mae gan rigymau a hwiangerddi Cymraeg hanes cyfoethog a lliwgar.
Mae’n anodd gwybod yn iawn beth i’w wneud â rhigymau i blant. Ai trysorau llenyddol i’w hastudio gan ysgolheigion ydyn nhw, neu ffwlbri ysgafn? Beth bynnag eich barn chi, mae’r cerddi hyn yn sicr wrth galon y berthynas greadigol ac emosiynol rhwng oedolyn a phlentyn. Efallai bod rhigymau wedi bod yn rhan o’n traddodiad llafar o’r dechrau’n deg, ond ychydig o’u holion sydd i’w gweld yn ein hanes.
Eto i gyd, mae yna un enghraifft ryfeddol sy’n rhoi lle anrhydeddus i gerddi plant yn ein traddodiad. Cofnodwyd ‘Pais Dinogad’ (‘côt’ neu ‘fantell’ Dinogad) yn ofalus mewn llawysgrif, efallai gan fynach hyddysg, mwy na 700 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n adrodd hanes mantell liwgar Dinogad a gafodd ei gwneud o grwyn yr anifeiliaid roedd ei dad wedi eu hela. Mae’r cyflythreniad a’r ailadrodd rhythmig yn dwyn i gof synau’r helfa ac yn awgrymu’r posibilrwydd cyffrous mai cerdd i’w rhannu â phlentyn oedd hon.
‘Chwid, chwid, chwidogaith!’, chwibana’r heliwr.
‘Giff! Gaff! Dal, dal! Dwg, dwg!', gwaedda’r tad ar ei gŵn.
Mae cynnwrf yr helfa’n gybolfa o sŵn, rhythm a gor-ddweud (does dim modd i’r un creadur ddianc rhag gwaywffon y tad, cofiwch chi) a gallwch ddychmygu rhiant, nain neu dad-cu yn gyda phlentyn ar ei lin yn adrodd neu’n canu’r gân.
Yn anffodus, mae ‘Pais Dinogad’ yn unigryw. Roedd llawysgrifau Cymraeg canoloesol ar gyfer yr elite, wedi’r cyfan, ac nid oes yr un gerdd arall i blant wedi dod i’r fei hyd yn hyn. Ond gallwn fod yn sicr bod caneuon a phenillion eraill ar gyfer plant, ac amdanyn nhw, wedi cael eu cyfansoddi dros y canrifoedd. Wrth i lythrennedd ddatblygu, daeth y cerddi hynny’n fwy gweladwy. Cawsant eu cofnodi gan gasglwyr llên gwerin brwdfrydig oedd â’u bryd ar gael cipolwg o’r oes a fu drwy’r penillion. Yna, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwyd casglu cerddi a rhigymau plant yn benodol a’u hadnabod o dan yr enw ‘hwiangerddi’. Er bod ‘hwian’ yn cyfeirio at suo plentyn i gysgu, daeth yr enw i olygu unrhyw rigwm, bennill neu gân i gadw plentyn yn ddiddig.
Mae gan hwiangerddi Cymraeg arwyddocâd arbennig erbyn hyn. Yng nghyd-destun dirywiad y Gymraeg a’r ymdrechion diweddar i’w hadfywio, mae cyflwyno penillion syml i blant bychain yn arf pwerus wrth ddysgu am yr iaith a’i diwylliant. Gall rhigymau wreiddio patrymau a rhythmau’r iaith drwy alluogi’r Gymraeg i ganu a chwarae ei ffordd i fywydau’r plant. Ac yn achos y degau o filoedd o blant sy’n dod i gysylltiad â’r Gymraeg yn y feithrinfa a’r ysgol yn unig, gall y penillion hyn fod yn ddull o ddysgu sy’n hwyl a rhyngweithiol.
Mae nifer o’r hwiangerddi traddodiadol sy’n parhau yn gyfarwydd heddiw yn mynd â ni nol i gyfnod pan oedd y fam yn bennaeth ar y cartref, a bywydau’r gymuned ynghlwm wrth y tir. Ond mae gan nifer o’r penillion hyn dro annisgwyl yn y gynffon. Tra bo ‘mam yn dwad dros y gamfa wen’, er enghraifft, mae’r anifeiliaid yn chwarae’n wirion ar y buarth. Ar ôl penderfynu mynd i’r Bala i werthu ei gwlân, gwelwn ‘y ddafad gorniog’ yn eistedd a smocio o flaen tanllwyth mawr o dân. Rhialtwch a sbri yw’r cyfan, a chyfle i arbrofi â’r iaith a phosibiliadau’r dychymyg. Hefyd, mae yna lawer iawn o enghreifftiau o ganeuon sy’n cynnig cysur i blant (ac oedolion) gyda’u rhythmau a’u halawon hudolus, fel ‘Cysga di fy mhlentyn tlws’ a ‘Heno, heno, hen blant bach’.
Efallai na chawn ni fyth wybod pwy oedd y cyntaf i ganu’r rhan fwyaf o’n hwiangerddi ond, yn annisgwyl ddigon, fe gyfansoddwyd rhai o’r cerddi mwyaf poblogaidd tua chanrif yn ôl gan yr ysgolhaig, John Glyn Davies (1870-1953). Cyfansoddodd nifer o benillion ar gyfer ei blant ei hun, a’i ferched ef sydd yn y pennill cyfarwydd ‘Gwen a Mair ac Elin,/ Yn bwyta lot o bwdin’. Roedd J. Glyn Davies yn awyddus i ehangu’r repertoire o ganeuon syml, poblogaidd i blant mewn cyfnod pan oedd apêl diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd ar dwf. Mae un o’i greadigaethau, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1923, i’w chlywed yn gyson mewn cartrefi, ysgolion a meithrinfeydd ledled y wlad adeg y Nadolig. Mae ‘Pwy sy’n dwad dros y bryn?’ yn gyfle i’r plant ganu, actio a gwaeddi ar Sion Corn i ddod lawr i’w gweld bob blwyddyn.
Fe gofiwch hefyd mae’n siŵr am y ddau gi bach, jac-y-do a’i goesau pren ac yn fwy diweddar yr eliffant pinc sy’n canfod ei hun mewn sinc. Mae rhigymau, hen a newydd, yn cynnig cyfle i chwarae â synau’r iaith ac arbrofi â’i hystyr. Rydym yn falch o hen hanes ein cerddi plant, ac mae’r penillion newydd sy’n cael eu canu yng Nghymru heddiw yn dangos na ddylai’r hanes hwn aros yn ei unfan. Mae digon o le i’r traddodiadol a’r dyfeisgar yn ein hwiangerddi, felly beth am fynd ati i’w rhannu, eu mwynhau a’u creu!
Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru’n digwydd o ddydd Llun 26 tan ddydd Gwener 30 Tachwedd.
Topics: Rhyme, Welsh language, Wales