Enillwyr Ein Dathliadau Pori Drwy Stori!

Published on: 10 Mawrth 2020 Author: BookTrust Cymru

Aeth anturiaethwyr Pori Drwy Stori ar antur i Gasnewydd ddydd Gwener 28ain Chwefror i gyfarfod â’r rhigymwyr anhygoel yn Ysgol Gynradd St Andrews.

Bu Dewr Dafis ac Aled Antur yn canu, rhigymu a rhannu stori â phlant y dosbarth derbyn a’u hathrawon i’w gwobrwyo am y gwaith creadigol y maen nhw wedi bod yn ei wneud gyda rhaglen Dosbarth Derbyn Pori Drwy Stori eleni.



Roedd Dewr ac Aled wedi cyffroi’n lân i ymuno â disgyblion yn Ysgol Gynradd St Andrews. Fe fuon nhw’n teithio trwy law, eira a gwynt i gyrraedd yr ysgol ac fe gawson nhw amser gwych yn rhannu rhai o’u hoff rigymau, caneuon a chylymau tafod o Her Rigymu Pori Drwy Stori. Doedd gan Aled Antur ddim siawns yn erbyn y plant wrth iddo’u herio nhw i ailadrodd y cwlwm tafod 'Yellow Butter, Purple Jelly' mor gyflym ag y gallen nhw.



Roedd Dewr ac Aled wedi gwirioni i gael cyfarfod â’r plant ac roedden nhw wedi’u syfrdanu gan hyder y plant wrth iddyn nhw berfformio rhai o’r caneuon roedden nhw wedi’u mwynhau fwyaf o’r Her Rigymu i’r anturiaethwyr. 

'Roedden ni wedi’n syfrdanu gan rai o’r plant a berfformiodd ganeuon a rhigymau yn y Gymraeg a’r Saesneg ar eu pennau eu hunain; roedden nhw’n anhygoel!' Dewr Dafis



Mae dosbarthiadau derbyn bellach wedi derbyn eu Bagiau Llyfrau Bwmerang Pori Drwy Stori ac fe wnaeth yr anturiaethwyr fwynhau rhannu The Cave gan Rob Hodgson â’r disgyblion fel rhan o’r dathlu. Fe wnaeth rhai o’r plant geisio cysuro Aled Antur pan roedd braidd yn ofnus ynglŷn â’r creadur yn yr ogof a chafodd pawb hwyl yn rhannu’r llyfr â’i gilydd. Diolch i bawb o blant ac athrawon dosbarth derbyn Ysgol Gynradd St Andrews!

Fedrwn ni ddim aros i weld pa bethau cyffrous y bydd y plant o Ysgol Gynradd St Andrews a dosbarthiadau derbyn ledled Cymru’n eu gwneud â gweddill rhaglen Pori Drwy Stori eleni. A fyddech chi cystal â rhannu’ch anturiaethau Pori Drwy Stori â ni!

@BooktrustCymru
[email protected]

BookTrust Cymru sy’n cynllunio ac yn cyflenwi rhaglen Pori Drwy Stori, a Llywodraeth Cymru sy’n ei hariannu. Mae Pori Drwy Stori ar gael i bob ysgol a gynhelir a does dim angen cofrestru. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.

The BookTrust Cymru logo
Funded by the Welsh Government logo

Pori Drwy Stori ar gyfer plant 4-5 oed

Rhaglen ddwyieithog ar gyfer plant oedran Derbyn â galluoedd amrywiol. Anfonir setiau o adnoddau i ysgolion, ar gyfer eu defnyddio gan yr athro Derbyn yn awyrgylch y dosbarth, ac i’w cymryd adref er mwyn i deuluoedd eu defnyddio gyda’i gilydd.

Dysgu rhagor am Pori Drwy Stori Derbyn a lawrlwytho adnoddau