BookTrust Cymru yn rhoi dros 35,000 o lyfrau rhad ac am ddim i blant Cymru
Published on: 1 Rhagfyr 2020 Author: BookTrust Cymru
Yn ystod yr wythnos hon, bydd BookTrust Cymru yn anfon 9000 o gopïau rhad ac am ddim o’r llyfr stori a llun My Pet Star/ Fy Seren Anwes at deuluoedd ledled Cymru.
Mae hyn yn golygu y bydd yr elusen wedi rhoi dros 35,000 o lyfrau rhad ac am ddim i blant Cymru ers i’r clo cyntaf ddigwydd ym mis Mawrth, yn ogystal â’r llyfrau a roddir drwy gyfrwng y rhaglenni craidd, Dechrau Da, Pori Drwy Stori a’r Clwb Blwch Llythyron.
Mae BookTrust Cymru wedi dod ynghyd ag ystod eang o bartneriaid er mwyn dosbarthu’r llyfrau, gan gynnwys banciau bwyd, cymdeithasau tai, grwpiau Cymorth i Fenywod, ysgolion a gwasanaethau gofal plant, i sicrhau fod gan bob plentyn ffordd o fanteisio ar y gallu i newid byd sy’n dod yn sgil darllen.
Llwyddodd un fam-gu a dderbyniodd lyfrau oddi wrth BookTrust Cymru i grynhoi effaith derbyn y rhodd ar eu teulu nhw: “Mae’r llyfrau’n wych ac maen nhw wedi fy helpu i i ailgysylltu â’m hwyresau sy’n efeilliaid, ar ôl 15 wythnos o fethu â’u gweld na bod yn agos atyn nhw. Maen nhw’n dwlu darllen a chael cyfle i rannu amser tawel gyda’n gilydd; roedd edrych drwy’r llyfrau’n amser arbennig iawn i bob un ohonon ni. Roedd eu gweld nhw’n gwenu a chwerthin wrth i ni ddarllen y llyfr yn cynhesu fy nghalon, ac roedd yn help mawr i ni i gyd ymlacio a rhannu hwyl.”
Yn ôl Helen Wales, Pennaeth BookTrust Cymru: "Gwyddom fod rhai plant wedi colli ar y cyfle i rannu llyfrau a darllen gyda’u teuluoedd eleni. Nid dim ond gwella canlyniadau addysgol yw pwrpas darllen, mae hefyd yn codi hyder, yn gwella sgiliau cymdeithasol, yn adeiladu gwytnwch ac yn helpu i ddechrau sgwrs am bwnc anodd. Dyna pam mae BookTrust yn ceisio cyrraedd at gynifer â phosib o deuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n fwy bregus, neu sydd efallai’n ei chael hi’n anodd cael gafael ar lyfrau ar hyn o bryd.”
Mae My Pet Star gan Corrinne Averiss a Rosalind Beardshaw (Orchard Books/Hachette) wedi cael ei addasu i’r Gymraeg gan y bardd Anni Llŷn, dan y teitl Fy Seren Anwes, ac mae’r llyfrau rhad ac am ddim yn cael eu dosbarthu ar y cyd â gweithgareddau ac adnoddau hwyliog.
Topics: Welsh language, News, Wales