‘Dyma ble mae hadau cariad plentyn at lyfrau a darllen yn cael eu plannu:’ Katrina Charman ar hudoliaeth straeon cyn cysgu

Published on: 3 Mehefin 2019 Author: Katrina Charman

Dyma Katrina Charman, awdur llyfr stori a llun Pyjamarama 2019, Car, Car, Truck, Jeep, i ddweud wrthym pam ei bod hi’n trysori unrhyw amser a dreulir yn rhannu straeon gyda’i merched, ynghyd â dewis ei hoff lyfrau i ddarllen cyn cysgu.

Katrina Charman with Welsh cover of Car Car Truck Jeep

Mae llyfrau a straeon wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd erioed. Fe wnaeth fy rhieni ddarllen i fi o’r eiliad y ces i fy ngeni, ac fe wnes i ddatblygu cariad at lyfrau a darllen o oedran cynnar iawn, a dyw hynny byth wedi diflannu.

Fe wnes i drosglwyddo’r cariad hwnnw i fy merched fy hun, gan ddarllen straeon cyn cysgu iddyn nhw pryd bynnag y byddai cyfle gen i. Hyd yn oed nawr, er eu bod nhw wedi tyfu ymhell heibio oedran stori amser gwely (er nad ydw i’n credu y dylai’r un oedran fod yn rhy hen i ddarllen straeon amser gwely!), fe fydda i’n dal i ddarllen iddyn nhw a gyda nhw pryd bynnag y byddan nhw’n gofyn i mi.

Mae’r amser y bydda i’n ei dreulio gyda nhw, gan chwerthin a synnu a darllen gyda’r straeon, a phwyntio at y darluniau hyfryd sydd ochr yn ochr â’r geiriau, ymysg un o fy hoff bethau i’w wneud gyda fy merched, a dyma ran orau fy niwrnod bob amser.

Er fy mod i’n gwybod y byddan nhw’n tyfu’n rhy hen i fod eisiau fy nghael i’n darllen gyda nhw, gobeithio wir fod y diwrnod hwnnw ymhell i ffwrdd.

Oherwydd, y gwir yw bod straeon cyn cysgu o fudd i’r rhiant hefyd, nid dim ond y plentyn. Maen nhw’n symbylu trafodaethau am bob math o bynciau, a gallan nhw fod yn gyfle i helpu plant i siarad am eu teimladau a’u meddyliau nhw hefyd, ac i ddatblygu cydymdeimlad â chymeriadau.

Yn fwyaf pwysig, mae darllen gyda’ch plentyn yn creu cyswllt cryf – mae hyd yn oed neilltuo cyn lleied â deng munud ar ddiwedd diwrnod prysur yn amser gwerthfawr i’w dreulio gyda’r bobl rydych chi’n eu caru.

Fy hoff straeon cyn cysgu

Er ei bod hi’n eithriadol o anodd dewis rhestr fer, dyma rai o fy hoff straeon cyn cysgu, o gyfnod fy mhlentyndod ac o heddiw.

Where the Wild Things Are gan Maurice Sendak

Cefais fy hudo gan y darluniau yn y llyfr hwn pan oeddwn i’n blentyn, ac er bod y testun yn gymharol fyr, byddai fy mhlant a minnau’n treulio oesoedd yn craffu ar y lluniau godidog.

Where the Wild Things Are illustrations

Not Now Bernard gan David McKee

Mae cymaint o haenau i’r llyfr hwn. Rwy’n cofio fel plentyn y teimlad o fod mor grac ar ran Bernard fod ei rieni’n ei esgeuluso fe i’r fath raddau! Yna roedd y cydymdeimlad y byddwn i’n ei deimlo dros y bwystfil druan, nad oedd mewn sefyllfa ronyn yn well na Bernard. A minnau’n oedolyn yn darllen i fy mhlant, fe fyddwn i wastad yn ystyried beth fyddai’n digwydd nesaf – a fyddai’r bwystfil yn cael ei anwybyddu am byth, neu a oedd Bernard wedi cael ei droi’n fwystfil ei hun o ganlyniad i’r diffyg sylw gan ei rieni? Y naill ffordd neu’r llall, dyma un o’r ffefrynnau yn ein tŷ ni.

The Story of the Little Mole Who Knew It Was None of His Business gan Werner Holzwarth, darluniau gan Wolf Erlbruch 

Fe ddes i ar draws y llyfr hwn cyn i mi gael plant, pan oeddwn i’n hyfforddi i fod yn athrawes, ac roedd bob amser yn taro deuddeg gyda’r myfyrwyr. Mae’n llyfr doniol iawn, ond mae hefyd yn ffeithiol gywir (sut olwg sydd ar bŵ anifeiliaid gwahanol?), mae plant wrth eu bodd yn gweld y twrch daear bach yn dial ar yr anifail sy’n gwneud pŵ ar ei ben.

The Gruffalo gan Julia Donaldson, darluniau gan Axel Scheffler

A dweud y gwir, unrhyw beth o gwbl gan Julia Donaldson. Dyw ysgrifennu llyfrau stori a llun sy’n odli ddim yn hawdd o gwbl, ac mae hi’n athrylith llwyr ac yn arbenigwr yn ei maes. Fe fydda i’n cyffroi bob amser pam welaf ei bod hi wedi ysgrifennu llyfr newydd, oherwydd rwy’n gwybod y bydd yn rhagorol.

Gruffalo and Mog

Cyfres Mog gan Judith Kerr

Unwaith eto, mae unrhyw beth gan Judith Kerr yn ardderchog, ond roedd fy mhlant i’n arbennig o hoff o lyfrau Mog. Fe fu i Goodbye Mog bron â thorri fy nghalon, ond mae’n ffordd hyfryd, dyner o gyflwyno’r cysyniad o farwolaeth.

We’re Going on a Bear Hunt gan Michael Rosen, darluniau gan Helen Oxenbury

Clasur nad yw byth yn heneiddio. Dwy’n meddwl mai’r peth y mae plant yn ei hoffi fwyaf am y llyfr hwn yw’r rhythm a’r ailadrodd.

Meg and Mog gan Helen Nicoll, darluniau gan Jan Pienkowski

Roedd fy mhlant yn dwlu ar holl lyfrau’r gyfres hon, gan ofyn am gael eu darllen drosodd a throsodd.

Dogger gan Shirley Hughes

Ro’n i’n dwlu ar hwn pan o’n i’n blentyn, a dyma un o’r llyfrau y byddwn i’n estyn amdano amlaf i’w ddarllen ar ddiwedd y dydd.

Cynghorion ar gyfer rhannu llyfrau cyn cysgu

Cofiwch ei wneud yn sbort

Ewch yn eich tro i wneud lleisiau doniol, effeithiau sain, hyd yn oed ganu a throi’r stori’n gân.

Edrychwch ar y lluniau gyda’ch gilydd

Siaradwch â’ch plentyn am yr hyn y gallan nhw ei weld. Rwy’n hoff iawn o lyfrau darluniau sy’n cynnwys lluniau cudd y mae’n rhaid i’r darllenydd eu darganfod. Gallwch droi’r cyfan yn gêm drwy ofyn i’r plant ddod o hyd i wrthrychau neu i’w cyfri yn y darluniau.

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd

Weithiau, gall fod dipyn yn ailadroddus os yw plentyn yn gofyn am yr un stori nos ar ôl nos, ond peidiwch â’u perswadio’n wahanol. Beth am awgrymu llyfr arall sy’n debyg i’r un y maen nhw’n ei garu, efallai gan yr un awdur. Ond os byddan nhw’n mynnu darllen eu hoff lyfr am y canfed tro, peidiwch â gwrthwynebu.

Y llyfrau y bydda innau’n edrych yn ôl arnyn nhw gyda’r atgofion melysaf nawr yw’r rhai sydd fwyaf llawn o atgofion, tudalennau hoff lyfr, heb ofidio eu bod wedi rhwygo a phlygu, ac wedi’u bodio’n drylwyr.

Dyma ble mae hadau cariad plentyn at lyfrau a darllen yn cael eu plannu. Pan fydd plentyn yn chwerthin ac yn ailadrodd y geiriau gyda chi nes eu bod nhw’n gallu adrodd llyfr ar ei gof. Y straeon cyn cysgu hyn yw’r rhai fydd yn ennill y lle mwyaf annwyl yn eu dychymyg.

 

Pwrpas Pyjamarama BookTrust (3-9 Mehefin) yw dathlu straeon cyn cysgu a rhannu llyfrau a rhigymau ardderchog.

Fel rhan o’n dathliad o straeon cyn cysgu, rydym ni wedi ymuno gyda phartneriaid mewn llyfrgelloedd, canolfannau plant a lleoliadau eraill i roi copïau rhad ac am ddim o Dacw’r Car yn Dŵad / Car, Car, Truck, Jeep gan Katrina Charman a Nick Sharratt – a’r addasiad Cymraeg gan Aneirin Karadog – mewn digwyddiadau hwyliog ledled Cymru. Dysgwch ragor am Pyjamarama yng Nghymru yma.

Cael gafael ar lwythi o weithgareddau hwyliog, rhad ac am ddim gan Pyjamarama i’w gwneud gartref

Gwrando ar Dacw’r Car yn Dŵad yn Gymraeg

Gwrando ar hwiangerddi Pyjamarama yn Gymraeg

Darluniau © 2018 Nick Sharratt. O Car, Car, Truck, Jeep gan Katrina Charman a Nick Sharratt. Cyhoeddwyd gan, ac atgynhyrchwyd drwy ganiatâd caredig, Bloomsbury Publishing PLC.


Add a comment