Pyjamarama: dathlu rhyfeddod straeon amser gwely gartref
Published on: 1 Mehefin 2019
Holl bwrpas Pyjamarama ydy dathlu hwyl a rhyfeddod straeon amser gwely ac mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gael profiad o’r hud hwnnw gyda’ch plantos bach chi.
Bib-bib! Cael hwyl gyda Dacw’r Car Yn Dŵad / Car, Car, Truck, Jeep
Os ydych chi’n mynd i ddigwyddiad Pyjamarama yn eich llyfrgell leol neu mewn canolfan blant leol ym mis Mehefin byddwch chi’n gallu mynd â chopi o’r llyfr rhagorol Dacw’r Car yn Dŵad / Car, Car, Truck, Jeep gan Katrina Charman a Nick Sharratt adre gyda chi yn rhad ac am ddim.
Mae’r llyfr lliwgar hwn sy’n odli yn llawer o hwyl a bydd yn difyrru’r plantos hyd yn oed ar ôl ei ddarllen drosodd a throsodd.
Gallwch chi gario ymlaen â hwyl y diwrnod trwy edrych ar y llyfr gyda’ch plentyn gartref. Gallwch chi gael hwyl fawr yn gwneud synau’r cerbydau i gyd a hyd yn oed yn esgus bod yn un ohonyn nhw.
Archwilio byd llawn straeon
Mae yna fwy i lyfr na’r geiriau a’r lluniau sydd ar y dudalen, ac mae straeon gwych yn gallu’ch cludo chi a’ch plentyn ar anturiaethau cyffrous.
Beth am dreulio prynhawn yn rhoi cynnig ar y gweithgareddau difyr sy’n ymwneud â hoff stori amser gwely’ch plentyn? Gallech chi ymweld â lleoliad sydd yn y llyfr, coginio neu bobi rhywbeth gyda’ch gilydd y mae’r stori wedi’i ysbrydoli, neu ddyfeisio drama fechan eich hun am y cymeriadau.
Mae’r dull rhyngweithiol hwn yn helpu i danio’r dychymyg ac yn ffordd wych i gael plant dan 5 oed yn gyffrous ynglŷn â llyfrau, straeon a rhigymau.
Beth am gael golwg ar ein hadnoddau Pyjamarama?
Mae yna lond gwlad o bethau difyr yma ar y wefan ichi allu parhau â’ch dathliadau Pyjamarama. Mae gennon ni lawer o adnoddau a gweithgareddau gwych ichi allu cael hwyl gyda nhw yn y cartref, gan gynnwys canllawiau crefft cam-wrth-gam a rhigymau y gallwch chi gydganu â nhw.
Ewch i’n tudalen gweithgareddau yma.
Rhoi cynnig ar ein hawgrymiadau darllen
Mae rhannu straeon amser gwely yn llawer o hwyl i chi a’ch plentyn. Os ydych chi eisiau syniadau, dyma rai o’n hawgrymiadau darllen gorau ni.
- Dydy’ch plentyn chi fyth yn rhy ifanc nac yn rhy hen i gael straeon amser gwely. Bydd babanod wrth eu boddau’n gwrando ar sŵn eich llais a’r rhai hŷn yn gwirioni cael mynd ar anturiaethau darllen gyda chi.
- Gadewch i’ch plentyn ddewis y llyfr y maen nhw eisiau ei ddarllen. Pan fyddan nhw’n mwynhau darllen y stori, fyddwch chithau’n mwynhau darllen gyda nhw.
- Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw beth yn tynnu sylw trwy ddiffodd eich ffôn, teledu a chyfrifiadur - mae hwn yn amser ichi ddadweindio gyda’ch gilydd.
- Pwyntiwch at y lluniau ar y dudalen a threulio amser yn siarad am y pethau rydych chi’n eu gweld.
- Rhowch liw a brwdfrydedd yn eich llais pan fyddwch chi’n darllen. Gallech chi hyd yn oed geisio rhoi llais gwahanol i bob cymeriad.
- Ceisiwch beidio â theimlo’n hunanymwybodol pan fyddwch chi’n darllen. Wedi’r cwbl, dim ond chi a’ch plentyn sydd yno a byddan nhw’n meddwl mai chi ydy’r adroddwr straeon gorau yn y byd!
Mae yna fwy o awgrymiadau eraill gwych am ddarllen gyda’ch gilydd yma.
Topics: Early Years, Foundation (Wales), Bedtime, Features, Wales, Pyjamarama
Add a comment