Gwerth Geiriau Gwirion a Lluniau Dwl
Published on: 11 Chwefror 2020 Author: Huw Aaron
I ddathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru, mae'r awdur a'r darlunydd Huw Aaron yn siarad am ei gariad at rigymau nonsens.
Mae gan y digrifwr dwyieithog Elis James ddarn yn ei rwtîn lle mae'n cyfieithu hwiangerddi poblogaidd Cymraeg i'r Saesneg, gyda chanlyniadau sy’n ddigri am eu bod nhw mor ddwl:
'Two little dogs go to the trees.
New shoes on both feet.
Two little dogs return home.
Having lost one of their shoes.'
'The cow in the cow-shed calling for the calf
And the calf the other side, singing Jim Crow
Jim Crow Crust One Two Four
And the pig sitting prettily on the stool.'
Y gwir yw, mewn unrhyw iaith, mae hwiangerddi ar eu gorau pan fyddan nhw ar eu mwyaf gwirion. Gwenci'n mynd pop. Cyllyll a ffyrc yn rhedeg ymaith gyda'i gilydd. Dugiaid ansicr yn symud yn filwrol lan a lawr y bryn. Mae rhai pobl yn ceisio dod o hyd i haenau o ystyr i'r rhigymau hyn (gadewch inni beidio â mynd i mewn i ring-a-ring-a-roses), ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod eu hapêl yn dod o flas y geiriau yn ein cegau a'r ffwlbri gwirion ei hun.
Dw i wrth fy modd â llyfrau o rigymau sydd ddim yn gwneud synnwyr, yn enwedig pan maen nhw wedi'u cyfuno â lluniau gwirion. Fel cartwnydd hurt o bryd i'w gilydd, mae yna hwyl pur i'w gael yn gwylio darlunydd yn ceisio tynnu llun y gwirion amhosib. Pan oeddwn yn iau, roeddwn i wrth fy modd yn bodio trwy hen gyfrol lychlyd o limrigau hunan-ddarluniadol Edward Lear, ac mae ei glasuron 'The Owl and The Pussycat' a 'The Pobble Who Had No Toes' wedi cael eu haddurno’n amrywiol ac yn rhyfeddol gan wahanol ddarlunwyr dros y blynyddoedd.
Cyn bodolaeth Ystyr, Plot neu Gymeriad; synau doniol, tincial y rhythmau a sbonc y rhigymau sy'n cyflwyno plentyn ifanc i fyd y Stori, a lluniau syml, gwirion yw eu drws i fyd Celf.
Wrth i blant dyfu (fel maen nhw'n tueddu ei wneud), mae eu geirfa gynyddol a'u dealltwriaeth o'r byd yn ychwanegu haen newydd o fwynhad at gerddi a llyfrau o'r fath. Maen nhw'n cydnabod bod rheolau’n cael eu torri – o ran y gramadeg, o ran moesau, ac o ran synnwyr cyffredin - ac maen nhw wrth eu boddau. O'u cyfuno â lluniau gwirion, mae’r wefr serotonin sy’n dod o wybod pob dim yn saethu trwy’r to.
Codwch gasgliad o waith Lewis Carroll, Dr. Seuss, Edward Gorey, Colin West neu Spike Milligan, a mwynhewch ddihangfa hapus o’r hen fywyd ’ma a'i reolau diflas am ychydig.
Mewn diwydiant sy’n boddi dan lyfrau 'mater', moesoli gwiw ac 'addysgloniant' (* chwydu *), rydw i o blaid rhieni a phlant yn cofleidio'r pleser pur sy'n dod o nonsens llwyr. Byddwch yn wyliadwrus o'r Jabberwock - na 'i gyd!
Mae gan lenyddiaeth plant Cymru ei chyfran deg o farddoniaeth ynfyd
Llyfr o gerddi gan Mihangel Morgan yw fy hoff enghraifft. Mae Creision Hud (Magic Crisps), a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 2001 ac a ddarluniwyd gan Jo Feldwick yn cynnwys y gerdd, 'Chwlibat':
'O Chwlibat, Chwlibat, Chwlibat chwip
Ble mae dy dafod a ble mae dy sgip?
Mae fy sgip yn fy nhraed, chwech, wyth, deg
A’m tafod yn llyfu fy ffroenau a’m ceg.'
'O Chwlibat, chwlibat, chwlibat quip
Where is your tongue and where is your skip?
My skip’s in my feet, six, eight, ten
And my tongue’s licking my mouth and nose.'
Mynnwch gopi o www.ylolfa.com neu www.gwales.com, mae'n haeddu darllen ehangach. Mae gan Gwyn Thomas a Myrddin ap Dafydd hefyd lond llaw iachus o ddwli yn eu casgliadau barddoniaeth plant Anifeilaidd a Cerddi Cyntaf, yn y drefn honno.
Mae Huw Aaron ymhlith prosiectau llyfrau eraill, yn gweithio ar lyfr lluniau gwirion ar hyn o bryd. Bydd yn cynnwys digon o luniau gwirion, a'r geiriau Noglo-glog, Hwldigrwm a Pengi-Ob. Byddwch chi’n gwybod bod dweud da ’ma felly.
Topics: Rhyme, Welsh language, Reading for pleasure, Features, Wales, Big Welsh Rhyme Time