Disgyblion Blwyddyn 6 yng Nghymru’n paratoi ar gyfer Teithiau ac Anturiaethau darllen

Published on: 24 Chwefror 2021

Bydd miloedd o blant Blwyddyn 6 ledled Cymru’n derbyn pecynnau llyfrau arbennig Teithiau ac Anturiaethau oddi wrth BookTrust yn ystod yr wythnos hon.

Mae pob pecyn yn cynnwys detholiad o lyfrau ffuglen, ffeithiol a gweithgaredd, a phob un wedi’i ddewis i annog plant i deimlo cyffro ynglŷn â darllen. Bydd dros 8,000 o blant yn elwa o’r rhaglen dros y misoedd i ddod.

Journeys and Adventures Welsh language pack

Mae’r pecynnau Teithiau ac Anturiaethau yn cynnwys teitlau gan awduron a darlunwyr poblogaidd a da o Gymru gan gynnwys Manon Steffan Ros, Huw Aaron, Elin Meek a Valeriane Leblond.

Bydd y prosiect yn cefnogi plant Blwyddyn 6 yn yr ysgol sydd ddim wedi cael cyfle i drin llyfrau o ansawdd uchel dros y 12 mis diwethaf, o ganlyniad i’r cyfnod clo, ac sydd o ganlyniad felly’n debygol o fod wedi colli rhai o fanteision addysgol, cymdeithasol a chreadigol darllen. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael, gyda deunyddiau cefnogi dwyieithog.

Dyma ddywedodd Helen Wales, Pennaeth BookTrust yng Nghymru: “Rydyn ni wrth ein bodd o allu cynnig y pecynnau arbennig hyn i blant yng Nghymru. Mae disgyblion Blwyddyn 6 sy’n paratoi i fynd i’r ysgol uwchradd wedi cael amser arbennig o anodd dros y deuddeng mis diwethaf. Mae’u hathrawon wedi rhoi cynifer o resymau i ni ynghylch pam maen nhw eisiau cymryd rhan ac annog darllen er pleser, boed hynny er mwyn creu profiadau rhannu ar y cyd y mae eu mawr angen ar blant, i ailgysylltu â dysgu, goresgyn eu dibyniaeth ar ddyfeisiadau digidol, ac adeiladu’u gwybodaeth am y byd drwy gyfrwng llyfrau. Maen nhw hefyd wedi gwir bwysleisio’r angen i blant ymlacio a chael dihangfa yn ystod yr adeg hon.”
Yn ôl Catherin McMahon, Ymgynghorydd Addysgu Proffesiynol (Iaith a Llythrennedd Saesneg) ar gyfer Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru: “Mae darparu llyfrau o’r fath ansawdd uchel i blant gael eu trysori gartref yn golygu y gallan nhw ddianc i fyd y dychymyg ac antur, darllen i dosturio â phobl sydd wedi goresgyn treialon eithriadol, a pharhau i’w darllen wrth fodd eu calon. I’w hathrawon, mae gwybod fod gan y plant eu copïau’u hunain o’r fath ddeunydd darllen rhagorol yn eu helpu i barhau i hybu pwysigrwydd darllen a’r mwynha a ganfyddir mewn llyfr!”

Mae Teithiau ac Anturiaethau’n rhan o waith parhaus BookTrust i gefnogi plant sydd wedi cael eu heffeithio waethaf yn ystod pandemig Covid a chan gau ysgolion,, ac i sicrhau fod plant Cymru’n parhau i gael cyfleoedd i fwynhau llyfrau a dod yn ddarllenwyr hyderus, annibynnol. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru.

Y straeon diweddaraf