Mae Pecynnau Dechrau Da Babi yng Nghymru’n Newid

Published on: 22 Hydref 2021 Author: BookTrust Cymru

Ein pecynnau Dechrau Da Babi newydd sbon yn ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’u datblygu ar sail adborth gan ein partneriaid proffesiynol sy’n rhannu ein pecynnau i chi.

The new Bookstart Baby Bag in Wales

Yn ogystal â dau lyfr gwych, a ddetholwyd gan banel o weithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol (un dwyieithog ac un yn Saesneg yn unig) maen nhw bellach yn cynnwys pypedau bys a fydd yn helpu rhieni i rannu rhigymau gyda’u plantos, ynghyd â chanllaw i gefnogi teuluoedd i ddatblygu arfer darllen parhaus.

Bydd ein bagiau a’n llyfrau yn nwylo teuluoedd newydd ledled y wlad cyn bo hir, gan roi’u traed ar lwybr anhygoel o rannu straeon gyda’i gilydd.

Gall teuluoedd barhau ar eu taith ar lein hefyd drwy fynd i Bag fy Mabi yng Nghymru ble gwelir rhigymau a chaneuon, argymhellion am lyfrau i fabis, traciau sain llyfrau Dechrau Da Babi a llawer iawn mwy o gynnwys gwych.

I gael mwy o wybodaeth am y pecynnau Dechrau Da Babi newydd yng Nghymru, mae croeso i chi e-bostio [email protected]

Bag fy Mabi yng Nghymru

Rhigymau, fideos ac awgrymiadau llyfrau i'ch helpu i barhau i rannu straeon a rhigymau gyda'ch babi ar bob cam.

Bag fy Mabi yng Nghymru