Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £5 miliwn yn ychwanegol i gefnogi mwy o blant yng Nghymru i ddatblygu cariad at ddarllen

Published on: 17 Tachwedd 2021

Bydd plant o bob cwr o Gymru’n elwa o fuddsoddiad newydd sy’n werth miliynau o bunnoedd a gynlluniwyd i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blant i fynd ar daith ddarllen.

Y bwriad yw y bydd y buddsoddiad newydd hwn a gyhoeddwyd gan Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, ac a ddarperir mewn partneriaeth â BookTrust Cymru yn ‘tanio awch at ddarllen mewn plant ledled Cymru’.

Mae gan BookTrust hanes maith a llwyddiannus o gefnogi plant ledled Cymru drwy ddarparu mynediad i lyfrau, adnoddau a chefnogaeth i blant a theuluoedd, diolch i rwydwaith o bartneriaid ar draws ymarferwyr blynyddoedd cynnar, ysgolion a llyfrgelloedd.

Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi BookTrust Cymru i ddarparu ystod eang o weithgareddau a rhaglenni newydd gyda phartneriaid dros y 12 mis nesaf. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau fod llyfrau a chefnogaeth gyda darllen yn cael ei roi i bob plentyn oedran derbyn drwy’r wlad, a datblygu cefnogaeth wedi’i dargedu a anelir at y plant a’r teuluoedd mwyaf difreintiedig a bregus a all elwa o effaith ddofn a thrawsnewidiol magu’r arfer o ddarllen yn rheolaidd.  

Yn ôl Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg:

“Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn chwarae rhan greiddiol yn ein bywydau beunyddiol. Os ydyn ni eisiau cau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’u cyfoedion, yna mae gwella sgiliau darllen yn hanfodol.

“Rhaid i ni danio awch at ddarllen mewn plant o oedran ifanc er mwyn gallu ysbrydoli a chefnogi teuluoedd i gymryd camau i ddatblygu arfer o ddarllen a fydd yn dwyn yn eu sgil sgiliau y bydd eu hangen arnynt yn ddiweddarach yn eu bywyd.

“Mae darllen yn hanfodol wrth sicrhau fod gan ddysgwyr bob cyfle i  gael mynediad i ehangder llwyr y Cwricwlwm newydd i Gymru, y seilir ei holl nodau ar lythrennedd a llafaredd gwell ymysg dysgwyr iau. Gall hefyd effeithio ar iechyd meddwl, llesiant emosiynol a datblygiad cymdeithasol plant hefyd, sy’n flaenoriaethau i blant Cymru ar ôl y pandemig.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu dangos pwysigrwydd llyfrau, darllen a llafaredd i newid bywydau drwy ddarparu llyfr i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru – yn ogystal ag ariannu mwy o lyfrau mewn ysgolion ac i deuluoedd.”

Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Cymru yn BookTrust:

“Mae BookTrust wrth ein bodd o dderbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n galluogi i ymestyn a chefnogi mwy o blant a theuluoedd mwyaf bregus a difreintiedig Cymru.

“Mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl a llesiant plant, gan gynyddu lefelau tlodi plant a chyfyngu ar allu plant i fynychu lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a llyfrgelloedd ar gyfnodau hanfodol yn eu datblygiad.

“Gwyddom fod gan ddarllen y grym i drawsnewid bywydau. O fabis, i blant yn y blynyddoedd cynnar, hyd at yr arddegau cynnar, mae darllen yn dod â manteision dwfn ac eang i blant a all gael effaith sy’n para gydol oes, gan effeithio’n gadarnhaol ar eu hiechyd, eu llesiant, eu cwsg a’u datblygiad academaidd a chymdeithasol.

“Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru’n ein galluogi i roi bron i 100,000 yn ychwanegol o lyfrau gerbron plant a sicrhau fod ymarferwyr blynyddoedd cynnar a theuluoedd yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i helpu plant ar eu teithiau darllen.”

Topics: News