Mali a’r Cloi Mawr yn lansio’n y Gymraeg, Saesneg a’r Wyddeleg
Published on: 2 Mehefin 2020
Mae Malachy Doyle, awdur Mali a’r Morfil a Mali a’r Môr Stormus, wedi ysgrifennu llyfr newydd yn ystod y cyfnod clo, Mali a’r Cloi Mawr.
cyfnod clo. Mae’r ysgol ar gau, a thad Mali’n methu cyrraedd yr ynys o’r tir mawr. Mae mam Mali’n gwirfoddoli i helpu Nyrs Elen i edrych ar ôl y rhai sydd mewn angen, ac mae angen i Mali fod yn ddewr iawn ac yn gymwynasgar.
Bydd y llyfrau’n cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth 2 Mehefin fel PDF i’w lawrlwytho, gyda arluniadau gan Andrew Whitsun. Mae pob un o’r arluniadau’n ddu a gwyn fel bod plant yn gallu mwynhau lliwio profiadau Mali yn ystod y cyfnod clo.
Bydd Mali a’r Cloi Mawr yn cael ei gyhoeddi’n y Gymraeg, Saesneg a’r Wyddeleg. Bydd plant yn gallu gwrando ar y llyfr ym mhob un o’r tair o ieithoedd, ynghyd â’i ddarllen, a bydd merch Malachy, Naomi, yn darllen yn Gymraeg.
Dywedodd Malachy ei fod wedi’i ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr wrth ddechrau ‘meddwl sut y byddai hi’n ymdopi, ar yr ynys fach yna yn ystod y cyfnod clo. Ro’n i’n gwybod y byddai hi’n ddewr. Ro’n i’n gwybod y byddai hi’n gymwynasgar. Ro’n i’n gwybod y byddai hi’n gwneud y gorau o’r sefyllfa, achos un fel ’na ydy hi. Ond ro’n i’n gwybod y byddai hi’n hiraethu am bethau hefyd, hiraethu’n fawr – am ein bod ni gyd yn hiraethu. Felly, wnes i ddechrau ysgrifennu, fel yr ydw i...’
Mae Malachy yn byw ar ynys fach hefyd, yng ngogledd-orllewin Iwerddon. Dywedodd am ei brofiadau’n ystod y cyfnod clo: ‘Heblaw am fynd i siopa unwaith yr wythnos, dw i wedi aros ar yr ynys, cerdded, rhedeg, garddio, darllen, ysgrifennu a siarad dros y cyfrifiadur. Mae wedi bod yn brofiad braidd yn unig, gan fod fy ngwraig wedi bod yng Nghymru – ond mae’r cŵn, y cathod a’r hwyaid wedi cadw cwmni i mi. Ac mae’r ynyswyr i gyd yn edrych ar ôl ei gilydd.’
Wrth fyfyrio ar y buddion y mae’n gobeithio bydd plant yn eu cael o ddarllen y stori, dywedodd Malachy: ‘Gobeithio bydd yn helpu esbonio, er bod hi’n anodd i beidio mynd i’r ysgol, i beidio gallu gweld ffrindiau a gwneud pethau hwyl, i beidio gweld pobl sy’n annwyl i chi – mae am reswm pwysig iawn. Mae hefyd yn ein hatgoffa y bydd y cyfnod hwn yn dod i ben. Ac os ydym ni’n gofalu am y bobl o’m cwmpas, efallai y byddwn yn gallu darganfod ffyrdd newydd o gael hwyl, a chael amser da wrth wneud.’
Mae’r llyfr wedi cael ei gynhyrchu mewn partneriaeth â Graffeg.
Gallwch ddarllen Mali a’r Cloi Mawr, lawrlwytho’r lluniau er mwyn eu lliwio a gwrando ar y stori’n y Gymraeg, Saesneg neu’r Wyddeleg ar dudalennau AmserGartref BookTrust.
Topics: Welsh language, Reading for pleasure, News, Northern Ireland, Wales