Dathliadau plu: un teulu a’u hoff lyfrau am adar

Published on: 6 Mehefin 2018 Author: Lehanne Thornton

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Dechrau Da, dyma Lehanne Thornton, mam i fachgen bach 18 mis oed - a Chydlynydd BookTrust Cymru - i rannu ambell lyfr ar thema adar y mae’r ddau ohonynt wedi mwynhau’u rhannu gyda’i gilydd.

Wythnos nesaf, bydd fy mab yn cyrraedd deunaw mis oed, ac mae’n anodd credu mor gyflym yr aeth yr amser heibio. (Bydd pawb sy’n rhiant yn eich rhybuddio a, wir i chi, dydyn nhw ddim yn tynnu coes!)

Lehanne's son and A Busy Day for Birds

Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, rydym ni wedi rhoi cynnig ar lawer o grwpiau i fabis, o yoga babi, tylino a nofio, i ddosbarthiadau cerddoriaeth a chwrdd â’n grŵp chwarae lleol.

Ond yr un arfer sydd wedi glynu gyda ni yw ein trip wythnosol i’r sesiynau Amser Rhigwm ac Amser Stori Dechrau Da yn ein llyfrgell leol.

Yn y dyddiau cynnar hynny fel rhiant newydd, pan oedd angen cwsg arnaf gymaint, a minnau mor llwyr flinedig, roedd llwyddo i fynd allan o’r tŷ’n teimlo fel cyflawni rhywbeth enfawr, ac roedd y croeso twymgalon a gaem gan staff y llyfrgell a’r rhieni eraill yn ein sesiwn Amser Stori gyntaf yn donic. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb ddod heibio bob wythnos i rannu straeon, caneuon a rhigymau gyda’u babis a’u plant bach.

Yr wythnos hon mae’n Wythnos Genedlaethol Dechrau Da, dathliad blynyddol Dechrau Da o rannu straeon a rhigymau, ac yn ein tŷ ni, mae thema Dawns Deryn Dechrau Da yn bendant wedi taro deg!

Mae adar yn bethau cyfarwydd iawn i blant ac felly maen nhw’n bwnc gwych i annog sgwrs amdanyn nhw, boed hynny wrth siarad am yr adar fyddwn ni’n eu gweld wrth fynd am dro yn y wlad, pwyntio at golomennod ynghanol y ddinas neu fwydo’r hwyaid yn y parc lleol.

Mae’r llyfr a ddewiswyd eleni, A Busy Day for Birds / Diwrnod Prysur yr Adar gan Lucy Cousins ac addasiad Aneirin Karadog, yn llawn o ddarluniau cyffrous gyda llawer o synau a symudiadau adar y mae fy mhlentyn bach yn dwlu eu dynwared!

O 4-10 Mehefin, bydd llyfrgelloedd ledled Cymru’n cynnal sesiynau Amser Stori arbennig i ddathlu, felly cysylltwch â’ch llyfrgell leol i ymuno yn yr hwyl! Os na allwch gyrraedd Amser Stori Dechrau Da, mae digonedd o weithgareddau hwyliog ar wefan BookTrust hefyd.

I greu awydd am y dathliadau pluog, dyma ambell lyfr ar thema adar y gwnaeth fy mab a minnau fwynhau’u darllen gyda’n gilydd.

Lehanne's bird books 1

Goodnight, Goose! gan Laura Wall
Llyfr lliwgar, gwydn, sy’n berffaith ar gyfer ei drin gan fabis a phlant bach heb ofidio am rwygo’r tudalennau. Mae’r stori syml hefyd yn ffordd hyfryd o’u cyflwyno i drefn cyn cysgu.

That’s Not My Duck… gan Fiona Watt
Mae lliwiau llachar ac elfennau cyffwrdd a theimlo’r llyfr hwn wedi denu’n fawr ers i ni ddechrau darllen gyda’n gilydd pan oedd fy mab yn fabi bach iawn. Bellach, ac yntau ychydig yn hŷn, mae e wrth ei fodd yn ceisio dod o hyd i’r llygoden fach ar bob tudalen hefyd!

Cyw a’i Ffrindiau gan Jo Ryan
Mae’r llyfr dwyieithog hwn yn addas i Gymry Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Mae fy mab yn dwlu teimlo’r arwynebau amrywiol ar bob tudalen ac mae e’n cael ei ddenu’n fawr gan y darluniau print blaen bys.

Lehanne's bird books 2

Who is Sleeping? (Codi’r Llabed) gan Petr Horacek
Mae’r rhan fwyaf o fabis a phlant bach wrth eu bodd gyda llyfrau stori a llun â llabedi, ac nid yw fy machgen bach i’n eithriad. Mae’r llabedi’n ychwanegu cyffro i’r profiad darllen ac maen nhw’n ffordd wych o’i helpu i fireinio’i sgiliau echddygol main. Mae’r thema mynd i gysgu yn y llyfr yn ei wneud yn ddewis delfrydol fel stori cyn cysgu.

Cyw Bach gan Oakley Graham, addasiad Eleri Huws
Roeddwn i wrth fy modd â’r stori glasurol hon yn blentyn, felly mae’n teimlo’n brofiad arbennig iawn gallu’i rhannu â fy mhlentyn fy hun. Mae’r fersiwn ddwyieithog hon o Chicken Little bendant yn un o’ ffefrynnau ni.

Shh! We Have a Plan gan Chris Haughton
Dyma lyfr sy’n lot fawr o sbort i’w ddarllen ar lafar. Mae gan y stori hiwmor go iawn a rhythm ardderchog, gyda digon o ailadrodd a fydd yn golygu fod eich un bach yn ymuno yn y darllen ar ddim.

Lehanne's bird books 3

Beautiful Birds gan Emmanuelle Walker
Mae darluniau hardd y llyfr hwn yn hudo fy mab. Dyma gasgliad llachar a lliwgar yn nhrefn y wyddor o wahanol rywogaethau o adar o bob cwr o’r byd, gydag odli clyfar drwy’r gyfrol i ychwanegu momentwm go iawn.


Add a comment

More Bird Boogie fun

Bookstart Bird Boogie rhymes - Welsh

Share rhymes together

Rhymes to say and sing

Join in the bird chorus with our bilingual rhyme sheets and get ready to Boogie!

Creative with colour

Birds to colour in

Unleash your creative side - print out our colouring sheets, grab some crayons and bring your birds to life.