Sut mae darllen o fudd i blant?
Published on: 24 Ebrill 2023
Mae adnodd rhyngweithiol newydd a gyhoeddwyd gan BookTrust yn nodi’r manteision helaeth ac eang y gall darllen eu cynnig i blant, mewn ffordd syml a hygyrch.
Lawrlwythwch yr adnodd Manteision Darllen (PDF)
Gan bwyso ar dystiolaeth o ymchwil academaidd helaeth wedi’i hadolygu gan gymheiriaid, mae adnodd newydd BookTrust yn cyflwyno achos cryf iawn dros sut mae cynorthwyo plant i ddarllen yn cynnig potensial i drawsnewid eu cyfleoedd bywyd gan roi’r dechrau gorau iddyn nhw.
Er bod y sylfaen dystiolaeth i gefnogi manteision darllen yn helaeth ac yn tyfu, mae’r gymdeithas ehangach yn aml yn canolbwyntio ar sut y gall darllen wella llythrennedd a pherfformiad academaidd plant.
Drwy gyhoeddi ei hadnodd newydd, nod BookTrust yw dangos y ffyrdd niferus, ac sydd yr un mor bwysig, y gall darllen gael effaith gadarnhaol ar fywyd plentyn.
Mae'r dystiolaeth hefyd yn amlygu sut y gall plant o gefndiroedd difreintiedig elwa fwyaf o ddatblygu’r arfer o ddarllen ac mae'n ategu pam fod strategaeth newydd BookTrust yn canolbwyntio ar roi cymorth ychwanegol i'r teuluoedd hyn trwy ei hystod eang o lyfrau, adnoddau a rhaglenni.
Yn yr adnodd, mae BookTrust wedi gosod manteision darllen yn ôl pedair thema graidd gan nodi sut mae plant sy’n darllen yn fwy tebygol:
- O oresgyn anfantais sy’n cael ei achosi gan anghydraddoldebau
- O fod yn blant iachach a hapusach sydd â gwell lles meddyliol a hunan-barch
- O wneud yn well yn yr ysgol a gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm
- O ddatblygu creadigrwydd ac empathi
Lawrlwythwch yr adnodd Manteision Darllen (PDF)
Dywedodd Diana Gerald, Prif Weithredwr BookTrust:
'Cenhadaeth BookTrust yw cael pob plentyn i ddarllen yn rheolaidd, a hynny o ddewis, oherwydd fel y mae’r adnodd newydd hwn yn ei ddangos, mae wedi’i brofi bod darllen yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a'u dyfodol.
'Drwy adolygu a distyllu’r sylfaen dystiolaeth yn negeseuon hawdd eu deall a’u dirnad, ein nod yw cyhoeddi crynodeb diffiniol sy’n nodi’n glir sut y gall bywydau plant gael eu gwella mewn ystod eang o wahanol ffyrdd, os ydyn nhw’n cael eu cefnogi, eu hysbrydoli a’u hannog i ddarllen.
'Y sylfaen dystiolaeth gyfoethog hon sy’n sbarduno ein gwaith gyda phartneriaid i ddatblygu ffyrdd newydd a gwell o gefnogi plant ar eu teithiau darllen. Mae hefyd yn sail i'n ffocws ar gyrraedd y plant a'r teuluoedd mwyaf difreintiedig ac agored i niwed trwy ein gwaith.
'Trwy rannu'r offeryn newydd hwn, ein gobaith yw lledaenu'r neges i unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad a chynnydd plant ynghylch pam mae buddsoddi mewn plant a'u cefnogi i ddarllen yn hollbwysig i roi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig.'