BookTrust Cymru yn datgelu pecynnau newydd Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar

Published on: 27 Mehefin 2023

Mae BookTrust Cymru wedi datgelu'r pecynnau Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar ar eu newydd wedd, y gwneir rodd ohonyn nhw i deuluoedd ledled Cymru.

Mae BookTrust Cymru heddiw wedi datgelu'r pecynnau Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar newydd sbon a fydd yn cael eu rhannu â theuluoedd ledled Cymru.

Diolch i arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae gan bob babi sy'n cael ei eni yng Nghymru hawl i becyn Dechrau Da Babi, y gwneir rhodd ohono fel rheol yn ystod yr archwiliad iechyd 6 mis, a phecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar, a dderbynnir fel rheol yn ystod yr archwiliad iechyd 27 mis.

Mae'r llyfrau newydd wedi'u dewis gan banel dethol o arbenigwyr, gan gynnwys teuluoedd, llyfrgellwyr a gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol eraill i wneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion rhieni, gofalwyr a phlant.

Mae'r pecynnau eu hunain – sydd hefyd yn cynnwys pyped bys yn y pecyn Babi a thaflenni gwybodaeth yn y ddau rodd – wedi'u hadnewyddu eleni i'w gwneud yn fwy ecogyfeillgar ac i roi hunaniaeth weledol debyg i becynnau Dechrau Da eraill BookTrust Cymru, gan helpu teuluoedd i'w hadnabod fel adnoddau dibynadwy a'u hysbrydoli i barhau i ddarllen trwy gydol plentyndod.

Rydyn ni wedi gweld bod Dechrau Da Babi yn effeithio ar arferion darllen teuluoedd a'i fod yn arbennig o bwysig i deuluoedd ar incwm isel yn ystod argyfwng costau byw. Yn 2022, gwnaethon ni wneud arolwg o 1,083 o rieni a gofalwyr plant 0-7 oed sy'n byw ar aelwydydd incwm isel yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. O'r rheini a oedd yn cofio defnyddio pecyn Dechrau Da Babi, gwnaethon ni weld:

  • bod 72% o rieni a gofalwyr yn dweudbod y pecynnau Dechrau Da Babi yn rhai o’r llyfrau cyntaf y maen nhw’n berchen arnyn nhw ar gyfer eu plentyn
  • bod 86% yn dweud eu bod wedi mwynhau defnyddio cynnwys y pecyn gyda’u plentyn
  • bod 68% yn dweud bod Dechrau Da Babi wedi’u hannog i ddarllen a rhannu straeon yn fwy â’u plentyn nag y bydden ni o bosibl wedi’i wneud fel arall

Y llyfrau sydd wedi'u cynnwys ym mhecynnau eleni

Mae’r pecyn Dechrau Da Babi yn cynnwys amlen, canllaw i rieni a gofalwyr, pyped bys, taflen llyfrgell a’r llyfr Pwy sy’n Cuddio ar y Fferm?

Eleni, bydd pecyn Dechrau Da Babi yn cynnwys argraffiad dwyieithog o Pwy sy'n Cuddio ar y Fferm? gan y darlunydd enwog Axel Scheffler.

Dewisodd ein panel dethol y llyfr oherwydd ei stori chwarae mig ddifyr y bydd babanod am ei chlywed eto, gan gyfrannu at ddatblygiad eu synau a'u patrymau lleferydd cynnar.

Gyda fflapiau ffelt o wahanol liwiau a siapiau i'w codi a'u harchwilio, mae'n llyfr bwrdd cadarn a allai hefyd helpu i gefnogi datblygiad sgiliau synhwyraidd a sgiliau echddygol manwl babanod.

'Dwi'n teimlo anrhydedd mawr bod fy llyfr wedi'i ddewis fel llyfr Dechrau Da Babi ac mae'n gwneud imi deimlo braidd yn benysgafn o feddwl am yr holl fabanod hyn yn tyfu i fyny â'r llyfr hwn!' meddai Axel Scheffler.

Gallwch chi ddangos unrhyw lyfr i blentyn, a gallan nhw gael rhywbeth ohono. Gwnes i ddarllen llawer â'm merch fy hun pan roedd hi'n fach a gwnes i wir fwynhau'r profiad. Mae llyfrau mor bwysig i blant. Gallwch chi weld faint yn union y mae'n ei olygu iddyn nhw a sut y maen nhw'n datblygu ac yn dysgu i garu straeon. Dwi'n gwybod ei bod hi'n anodd iawn dod o hyd i'r amser i ddarllen ond gallwch chi ddefnyddio unrhyw funud sy'n rhydd.

Yn y cyfamser, bydd pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar eleni'n cynnwys argraffiad dwyieithog o Yn Debyg Ond Gwahanol gan Karl Newson a Kate Hindley, wedi'i addasu i'r Gymraeg gan Endaf Griffiths.

Mae'r llyfr lluniau difyr, calonogol hwn yn berffaith i'w rannu gan ei fod yn cyflwyno plant i bob math o bethau cymharol a gwrthgyferbyniol gyda thestun sy'n odli ac yn hawdd i'w ddarllen yn uchel a darluniadau hynod i'w mwynhau gyda'ch gilydd.

Cefnogi teuluoedd trwy gydol y blynyddoedd cynnar

Pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys amlen, llyfryn gwybodaeth, taflen llyfrgell a chopi dwyieithog o Yn Debyg Ond Gwahanol

Mae ymchwil yn dangos bod rhannu llyfrau, straeon a rhigymau â phlant yn y blynyddoedd cynnar yn rhoi'r hwb datblygiadol mwyaf i blant, gan gyfoethogi twf a datblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn ystod cyfnod pan fo'r ymennydd yn tyfu'n sylweddol.

Mae rhannu darllen hefyd yn cefnogi ffurfio perthynas agos rhwng plant ac aelodau o'u teulu, gan roi hwb i bositifedd rhieni a gwella cwsg plant.

Yn dilyn ymlaen o becyn Dechrau Da Babi, mae BookTrust Cymru'n cynnig pecynnau Dechrau Da 1-2 Oed a 3-4 Oed i blant o gefndiroedd teuluol incwm isel i helpu i gau'r bwlch anfantais.

Meddai Diana Gerald, Prif Weithredwr y BookTrust: 'Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau a straeon â phlant a, thrwy wneud rhodd o becynnau Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar, rydyn ni'n gobeithio cael pob plentyn yn darllen yn rheolaidd ac o ddewis fel eu bod yn gallu mwynhau buddion darllen gydol oes.

'Yn ogystal â chefnogi datblygiad a chynnydd babanod, rydyn ni'n gobeithio dangos i deuluoedd cymaint y mae eu plant yn mwynhau archwilio llyfrau a straeon gyda'i gilydd ac yn gobeithio y bydd hyn yn sbarduno cariad cynnar at ddarllen a fydd yn parhau trwy gydol plentyndod.'

Mynnwch wybod mwy am raglen Dechrau Da yng Nghymru

Topics: Bookstart, News, Wales