BookTrust yn datgelu llyfrau rhyngweithiol newydd cyffrous i’w cynnwys yn y bagiau Dechrau Da Babi
Published on: 18 Mai 2022
Mae BookTrust wedi cyhoeddi beth yw’r llyfrau newydd cyffrous a fydd yn cael eu rhoi i fabis ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel rhan o raglen Dechrau Da Babi.
Cynlluniwyd Dechrau Da Babi i annog teuluoedd i ddechrau darllen gyda’u plant mor gynnar â phosib, ac mae gan bob babi a enir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hawl i dderbyn pecyn.
Bydd pob bag yn cynnwys dau lyfr, pypedau bys a thaflen wybodaeth sy’n esbonio manteision rhannu straeon a rhigymau gyda babis.
Cyn bo hir bydd teuluoedd yng Nghymru’n gallu mwynhau Mirror Baby: Hello You! a gyhoeddir gan Campbell Books, sy’n cynnwys ffotograffau du a gwyn trawiadol a thestun syml sy’n odli.
Byddan nhw hefyd yn derbyn fersiwn ddwyieithog o Little Baby's Playtime / Amser Chwarae’r Baban Bach. Yr awdur yw Sally Symes, mae’r darluniau gan Nick Sharratt a’r cyhoeddwr yw Dref Wen. Gyda darluniau llachar a thyllau wedi’u torri allan, mae’n sôn am ddiwrnod llawn hwyl y babi.
Sut y dewiswyd y llyfrau
Detholir y llyfrau gan banel dethol gwybodus sy’n dwyn ynghyd Gydlynwyr Dechrau Da, llyfrgellwyr, gweithwyr blynyddoedd cynnar a staff canolfannau plant.
Dengys ymchwil gan BookTrust fod 85% o deuluoedd yn dechrau darllen gyda’u plentyn yn ystod y flwyddyn gyntaf, ond wrth i blant dyfu, fod llawer o deuluoedd yn rhoi’r gorau i ddarllen gyda’i gilydd.
Gall manteision darllen fod yn ddwfn iawn, gan effeithio ar iechyd, llesiant, cwsg a datblygiad cymdeithasol plant, felly mae’r broses o ddethol yn canolbwyntio ar lyfrau sy’n cynnwys testun syml, hygyrch i apelio at bob teulu, hyd yn oed rai nad ydyn nhw’n ystyried eu hunain yn ddarllenwyr, neu rai nad ydyn nhw’n hyderus wrth rannu llyfrau â’u babis.
Bydd y llyfrau gorau ar gyfer eu rhannu â babis yn darparu cyferbyniad lliw mawr i gefnogi datblygiad gweledol, maen nhw’n rhyngweithiol gyda llabedi, fflapiau a drychau er mwyn annog sgiliau’r synhwyrau a sgiliau echddygol main, rhythm ac ailadrodd i hybu patrymau siarad cynnar.
Bydd teuluoedd yng Nghymru’n derbyn eu pecynnau diolch i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae BookTrust yn gweithio mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy’n penderfynu sut orau i sicrhau fod y bagiau’n cyrraedd teuluoedd yn eu hardal leol. Gallai hyn fod drwy gyfrwng cofrestrwyr, ymwelwyr iechyd, llyfrgellwyr neu weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar eraill.
Ar adeg o wasgfa sylweddol ar gyllidebau teuluoedd, gall fod mai llyfrau Dechrau Da Babi yw’r llyfrau plant cyntaf y bydd teuluoedd berchen.
“Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu straeon a darllen gyda phlant,” meddai Diana Gerald, Prif Weithredwr BookTrust.
“Dechrau pan fyddan nhw’n fabis yw’r ffordd orau i osod sylfeini arfer ddarllen gydol oes, ac mae’n golygu y gall pob plentyn fwynhau manteision gweddnewidiol darllen ar eu bywydau.
“Mae cael llyfrau rhagorol, bywiog, lliwgar a rhyngweithiol sy’n apelio at bob teulu, hyd yn oed rai nad ydyn nhw’n ystyried eu hunain yn ddarllenwyr, yn allweddol er mwyn annog teuluoedd ar eu taith ddarllen.
“Bydd babis a theuluoedd fel ei gilydd yn mwynhau agosrwydd a chlydwch cwtsho i mewn gyda’r llyfrau gwych hyn. Gall canolbwyntio ar y llyfrau a’r siapiau gwahanol mewn llyfrau, ac odli gyda’ch gilydd fod yn brofiad deniadol ac amlsynhwyrol i bob babi, all sbarduno cariad at lyfrau.”