Galw pob dosbarth Derbyn yng Nghymru.. Mae anturiaethwyr Pori Drwy Stori angen eich help!

Published on: 8 Medi 2019

Ym mis Medi 2019, mae BookTrust Cymru’n lansio cystadleuaeth i enwi anturiaethwyr Pori Drwy Stori. Gall pob dosbarth Derbyn yng Nghymru ymgeisio yng nghystadleuaeth enwi’r anturiaethwyr er mwyn ennill llyfrau ar gyfer eu hysgol!

Amserwyd cystadleuaeth enwi’r anturiaethwyr i gyd-fynd â lansio’r diweddariad i Her Rigymu Pori Drwy Stori . Dewiswyd deg rhigwm Cymraeg a Saesneg i gael eu mwynhau gan athrawon, plant a rhieni / gofalwyr y Derbyn. Gall athrawon ddewis y rhigymau sy’n gweddu orau ar gyfer eu dosbarth a mesur eu cynnydd ar y poster Taith Rigymu. Ar ddiwedd yr Her Rigymu, gall athrawon wobrwyo pob plentyn â thystysgrif Her Rigymu!

Pori Drwy Stori rhyme challenge poster

Gallwch wylio fideos hwyliog a chyffrous o’r anturiaethwyr yn perfformio’r rhigymau a’r caneuon yma.

Mae’r anturiaethwyr yn barod i fynd â phob plentyn o oedran Derbyn yng Nghymru ar daith drwy rigymau a chaneuon wrth iddyn nhw gymryd rhan yn yr Her Rigymu. Maen nhw’n gwisgo’u hetiau anturio a’u sachau cefn yn barod, ond mae angen enw ar bob un ohonynt!

The Pori Drwy Stori explorers

Felly dechreuwch feddwl a rhowch gynnig ar gystadleuaeth enwi anturiaethwyr Pori Drwy Stori yma.

Rhaid cyflwyno pob ymgais drwy gyfrwng ein tudalen we gystadlu erbyn Hydref 25.

Cynllunnir a darperir Rhaglen Pori Drwy Stori Derbyn gan BookTrust Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Fe gewch chi lawer o wybodaeth, canllawiau ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i wneud yn fawr o raglen Pori Drwy Stori Derbyn yma.