Gwylio neu wrando ar y rhigymau ar gyfer Her Rigymu Dosbarth Derbyn Pori Drwy Stori 

Plant dosbarth derbyn! Mae anturiaethwyr Pori Drwy Stori’n awyddus iawn ichi ymuno â nhw ar siwrnai trwy rigymau a chaneuon. 

Gallwch chi wylio neu wrando ar rigymau wythnosol yr Her Rigymu yma.  

Wythnos 1: Rhigymau Rhifau

Mae nifer o rigymau’n wych i helpu’ch plentyn i ymarfer cyfrif. Mae plant wrth eu boddau â’r ailadrodd ac mae’n eu helpu nhw i ddysgu’r geiriau.

Wythnos 2: Hwiangerddi

Mae hwiangerddi a chaneuon traddodiadol wedi bod gyda ni am genedlaethau. Maen nhw’n straeon syml, difyr.

Wythnos 3: Cylymau Tafod

Mae gan y rhain lawer o eiriau a chaneuon i gael eich tafod o’u hamgylch! Peidiwch â phoeni os yw pethau’n mynd o chwith – y peth pwysig yw’ch bod chi’n cael hwyl â’r geiriau!

Wythnos 4: Rhigymau Actol

Mae ystumiau’n helpu plant i gofio’r geiriau ac ymuno â phethau. Gallwch chi ddysgu caneuon clapio a chaneuon actol yma.

Wythnos 5: Cerddi Difyr

Cyflwyniad gwych i farddoniaeth. Gallwch chi ddysgu am y Pry Pric yn y Picnic a Dw i’n Hoffi!