Perthynas ramantus pobl Cymru’n dioddef oherwydd nosweithiau di-gwsg

Published on: 9 Ebrill 2018

Mae rhieni yng Nghymru wedi cyfaddef fod eu perthynas â'u cymar yn dioddef am eu bod nhw wedi gorflino, yn ôl arolwg gan BookTrust.

Bath, Llyfr, Gwely

Cyfaddefodd bron i hanner pob teulu â phlant bach eu bod nhw a'u partner wedi canfod fod diffyg cwsg yn rhoi straen arnyn nhw.

Ac maen nhw wedi gorfod cymryd mesurau eithafol i ddygymod, wrth i 28% o rieni yng Nghymru gyfaddef eu bod wedi cogio neu esgus bod ynghwsg er mwyn gorfodi'u partner i ddelio â gofalu am y plant.

Yn y cyfamser, mae traean o barau yng Nghymru wedi mynd i gysgu mewn ystafelloedd ar wahân er mwyn gallu cael gorffwys gwell
Ymhellach, mae tua hanner yr holl rieni'n dweud eu bod nhw'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael digon o gwsg, ac mae 51% yn dweud nad ydyn nhw'n cysgu'n ddigon hir.

Ond mae BookTrust yma i helpu gyda threfn Bath, Llyfr, Gwely – tri cham syml i helpu plant i fynd i gysgu gyda'r hwyr.

Gall teuluoedd lawrlwytho llyfryn rhad ac am ddim yn llawn o gyngor a chynghorion ar sut i gael y plant i'r gwely, ac mae rhestr a ddetholwyd yn arbennig o argymhellion ar gyfer y Llyfrau Cyn Cysgu gorau yno hefyd, sy'n cynnwys y straeon perffaith ar gyfer tawelu gyda'r nos.

Bath, Llyfr, Gwely

Canfu BookTrust hefyd fod diffyg cwsg yn cael effaith ar berthynas rhieni â'u plant, wrth i 48% o barau Cymru ddweud ei fod yn cael effaith negyddol a 63% o rieni'n cyfaddef fod eu tymer yn fyrrach ar ôl methu â chael noson dda o gwsg.

'Ar ôl i chi gael plentyn, gall cysgu'n dda deimlo fel atgof pell,' meddai Rheolwr Datblygu Cenedlaethol BookTrust Cymru, Helen Wales.

'Bwriad ymgyrch Bath, Llyfr, Gwely yw helpu i leihau'r tyndra y gall diffyg cwsg ei gael ar deuluoedd drwy ddilyn trefn amser gwely sy'n seiliedig ar lyfr. Rydym ni eisiau cysuro teuluoedd nad rhyw ddull 'un maint i bawb' mo hyn – mae modd ei addasu i weddu i anghenion pob teulu.'

Yn y cyfamser, yn ôl yr arbenigwr rhianta rhyngwladol Jo Frost: 'Gall gormod o nosweithiau di-gwsg gael effaith barhaol ar berthynas agos. Gall hyn arwain at fethiant mewn cyfathrebu, cyplau'n cysgu mewn ystafelloedd ar wahân, ac agosatrwydd yn plymio i'r dyfnderoedd.

'I ailgynnau'r berthynas honno, beth am geisio cyflwyno trefn i'ch nosweithiau? Gall trefn syml fel Bath, Llyfr, Gwely helpu plant bach i ymdawelu, er mwyn i bawb allu elwa o gael noson dda o gwsg.'

Datganiad i'r wasg


Add a comment

You might also like

Bath, Book, Bed

Simple steps to a better night's sleep

Want to know more about Bath, Book, Bed? We have lots of tips and advice to help you and your family get a good night's sleep.

Booklist

Best bedtime books

We've put together a list of brilliant stories that are perfect for settling your little ones down in the evening - find out all about them and peek inside their pages here.

Join in on Twitter

Follow @BookTrust